Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 1 Chwefror 2017.
Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad i’r ddadl heddiw drwy sôn am bwysigrwydd cynnal pobl yn eu cartrefi er mwyn gwella gofal cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar un agwedd i ddechrau. Un maes penodol ymarferol, sydd yn gallu cyfrannu at wella ansawdd bywydau llawer o bobl, yw gwneud addasiadau i’w cartrefi: ei gwneud hi’n haws i bobl defnyddio cadair olwyn; cawod bwrpasol; lifft i fyny’r grisiau; neu ddolenni i helpu pobl i symud o gwmpas y tŷ yn well. Fel y soniodd fy nghyd-Aelod Rhun ap Iorwerth, ers 2011 mi rydym ni wedi gweld gostyngiad o 21 y cant yn y nifer o addasiadau mewn cartrefi yng Nghymru, a 15 y cant o ostyngiad mewn achosion lle mae offer yn cael ei ddarparu i bobl sydd ei angen.
Mae’r holl broblemau ac anawsterau sy’n cael eu hachosi gan fiwrocratiaeth i gael gafael ar grantiau er mwyn addasu cartrefi yn parhau i fod yn broblem. Cafodd hyn ei amlygu gan adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth nôl yn 2013. Ond, hyd yn hyn, nid yw’n ymddangos bod yna fawr o ymdrech i weithredu ar rai o’r materion a godwyd yn yr adroddiad hwnnw, ac mae’r gostyngiad yn y ddarpariaeth yn amlygu ac yn awgrymu nad yw’r mater wedi cael y sylw mae o’n ei haeddu.
Y tu ôl i bob ystadegyn, mae yna berson cig a gwaed. Fe gefais i gyfarfod yn ddiweddar efo etholwr a oedd yn pryderu am blentyn yn y teulu sydd angen llawdriniaeth. Er mwyn gallu gofalu am y plentyn ar ôl iddo fo ddod yn ôl o’r ysbyty, mae angen i’r cartref dderbyn cyfres o addasiadau. Mae’r oedi wrth drefnu’r addasiadau hyn yn golygu bod y llawdriniaeth ei hun yn debygol o gael ei hoedi. Mae hyn yn ychwanegu at straen y teulu a’r plentyn, ac nid yw’n dderbyniol. Mae’n effeithio ar ansawdd byw y plentyn a’r teulu, ac fe all yr oedi arwain at fwy o broblemau i lawr y lein wrth i gyflwr meddygol y plentyn waethygu, gan arwain at yr angen am fwy o addasu a fydd yn costio mwy yn y pen draw.
Straeon fel hyn sydd yn gorwedd y tu ôl i’r ystadegau. Rydw i’n ymchwilio i’r achos hwn ar hyn o bryd, ond rwy’n amau mai diffyg arian sydd wrth wraidd y broblem—hynny yw, nad oes digon o arian ar gael i helpu pawb sydd angen addasiadau yn y flwyddyn ariannol gyfredol a bod yn rhaid i weithwyr cymdeithasol wneud penderfyniadau tu hwnt o anodd wrth flaenoriaethu pwy sydd i gael addasiadau a phryd. Ond, os yw agenda Llywodraeth Cymru yn symud fwyfwy tuag at wneud gwaith ataliol, yna mae yna le i ddadlau y dylai addasiadau gael eu hariannu yn deg, os ydy’r Llywodraeth am ddilyn y blaenoriaethau mae hi’n gosod iddi hi ei hun yn y maes ataliol.
I droi at agwedd arall, mae’n wir nad ydy’r proffesiwn gofal ddim yn derbyn y statws a’r gydnabyddiaeth y mae’n ei haeddu. Mae’r amodau gweithio yn aml yn wael, ac nid oes llawer o gyfle i bobl ddatblygu eu gyrfa fel rhan o’r sector yma. Mae contractau dim oriau—‘zero-hours contracts’—yn dal yn amlwg yn y sector, er gwaethaf ymdrechion Plaid Cymru i’w gwahardd nhw—ymdrechion, yn anffodus, a gafodd eu rhwystro gan Llafur a’r Ceidwadwyr nifer o weithiau. Mae’r ffactorau yma yn cyfuno i wneud recriwtio i’r sector yn eithriadol o anodd, sydd, felly, yn cael effaith ar y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig. Mae’r methiant i dalu staff am yr amser pan maen nhw’n teithio yn cael effaith anghymesur ar ardaloedd gwledig, ac mae prinder siaradwyr Cymraeg yn y sector yn peri pryder, yn arbennig pan maen nhw’n delio â phobl sydd wedi colli’r gallu i ddeall a siarad Saesneg.
Felly, beth fedrwn ni ei wneud? Wel, yn gyntaf, o ran yr addasiadau, yn sicr, mae angen i’r Llywodraeth dderbyn argymhellion adroddiadau’r pwyllgor a gweithredu arnyn nhw. Yn anffodus, nid oes llawer o dystiolaeth o hyn o edrych ar yr adroddiadau mwyaf diweddar ar yr ystadegau ynglŷn ag addasiadau. Heb os, mae’n rhaid i ni roi mwy o gydnabyddiaeth i’r proffesiwn gofal cymdeithasol a rhoi iddo’r parch mae o’n ei haeddu, gyda phobl yn cael eu hannog i weld y proffesiwn fel gyrfa hir oes, ac mae’n rhaid i hynny gynnwys addewid gan y Llywodraeth i wahardd contractau dim oriau.
Er ei fod yn wir bod gwariant wedi codi mewn termau real yn hanesyddol, mae’r broblem o danariannu gofal cymdeithasol yn parhau i fod efo ni. Mae wedi mynd yn diwn gron bellach i ddweud hyn, ond rwyf am ei ddweud o ac rwyf am ddweud o eto ac eto ac eto, mae’n debyg, yn y Siambr yma: mae angen gweld llawer mwy o gydweithio rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, ac mae’n rhaid i’r gronfa gofal canolradd fod yn fan cychwyn ac nid yn ben draw cyllido ar y cyd rhwng y sefydliadau gwahanol. Mae’n rhaid cael integreiddio pellach rhwng gofal cynradd, cymunedol a chymdeithasol i oedolion fel bod modd cynllunio a darparu gofal mewn ffordd gydlynol o gwmpas y person, a’i ddarparu yn lleol.
Mae Suzy Davies wedi codi pwyntiau trafod defnyddiol a phwysig y prynhawn yma. Byddai’n braf cael mwy o amser i wyntyllu’r rheini ar ryw gyfle yn y dyfodol. A gaf i ychwanegu trefniadau Ysbyty Alltwen, Tremadog, i’r rhestr o arferion da? Ond mae angen i’r arferion da yma gael eu rowlio allan erbyn hyn.
Mae angen symud i ddileu’r ffiniau artiffisial rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ac mae angen i ysbytai cymunedol fod yn rhan allweddol o hyn—