Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 1 Chwefror 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn yr ychydig funudau sydd gennyf i ymateb i’r ddadl heddiw, buasai’n amhosibl i mi roi popeth sydd gennyf yn y siop yn y ffenestr, i ddefnyddio ymadrodd Hannah, gan ei bod wedi bod yn ddadl mor eang ac rydym yn gwneud cymaint yn y maes hwn.
Ond fe ddechreuaf drwy ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu gofal cymdeithasol fel sector o bwys strategol cenedlaethol. Nid yw hon yn ymagwedd newydd, wrth gwrs—datblygwyd ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn ymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru 2011, ‘Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith ar gyfer Gweithredu’. Er bod y galw’n cynyddu ar draws y gwasanaethau cymdeithasol, a bod y rhagolygon ariannol ar gyfer yr holl wasanaethau cyhoeddus yn anodd, mae’r Ddeddf yn seiliedig ar yr egwyddor sylfaenol fod angen i ni wneud mwy na mynd ar drywydd yr arbedion effeithlonrwydd amlwg yn unig. Mae’r Ddeddf yn rhoi fframwaith cyfreithiol newydd i ni ar gyfer y ffordd y darparwn wasanaethau gofal a chymorth.
Yng Nghymru, rydym yn parhau i fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol er mwyn sicrhau y darperir gofal a chymorth o ansawdd uchel. Mae’r gyllideb ar gyfer 2017-18 yn cynnwys £25 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, a chroesawyd y cymorth ychwanegol hwn gan lywodraeth leol, a bydd yn helpu i ymateb i’r pwysau. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi £10 miliwn pellach o gyllid rheolaidd er mwyn helpu i reoli effaith y cyflog byw cenedlaethol.
Y ffordd orau i godi safonau yw drwy gael partneriaid i weithio gyda’i gilydd. Er mwyn cynyddu cydnerthedd mewn iechyd a gofal cymdeithasol, mae angen i ni fabwysiadu ymagwedd system gyfan tuag at gynllunio a darparu gwasanaethau. Datblygwyd y gronfa gofal canolraddol i ddatblygu modelau newydd ac arloesol o weithio integredig rhwng y sector iechyd, y sector gwasanaethau cymdeithasol, y sector tai, y trydydd sector a’r sector annibynnol. Neilltuwyd £60 miliwn eleni, ac mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn cynnwys ymrwymiad i gadw’r gronfa bwysig hon. Mae’r gronfa gofal canolraddol yn cefnogi mentrau sy’n atal derbyniadau diangen i’r ysbyty, derbyniadau amhriodol i ofal preswyl ac oedi wrth ryddhau o’r ysbyty. Mae’r mentrau hyn wedi creu capasiti yn y system ofal ac maent wedi gwella cysondeb yn y modd y darperir gwasanaethau yn y rhanbarthau.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn darparu ar gyfer sefydlu saith bwrdd partneriaeth rhanbarthol ar ôl troed ardal y bwrdd iechyd. Mae’r byrddau hyn yn dod ag iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, y trydydd sector a phartneriaid eraill at ei gilydd i ddatblygu’r gwaith o ddarparu gwasanaethau integredig yn effeithiol yng Nghymru. Eu diben yw gwella canlyniadau i bobl, a’u lles, a gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y modd y darperir gwasanaethau. Mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ hefyd yn cynnwys ymrwymiad i fuddsoddi mewn cenhedlaeth newydd o ganolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig. Neilltuwyd £40 miliwn i gefnogi hyn, ac mae sefydliadau yn y broses o flaenoriaethu cynlluniau fel rhan o’u gwaith ystadau a chynllunio gwasanaethau.
Felly, er y gallwn gefnogi pwynt 1 y cynnig heddiw, ni allwn gefnogi pwyntiau 2, 3 a 4, am nifer o resymau. Ceir oddeutu 384,000 o ofalwyr yng Nghymru sy’n darparu cymorth penodedig i’w hanwyliaid, ac rydym wedi clywed sut, yn ymarferol, y mae’r gofal hwn yn cyfateb i dros £8 biliwn y flwyddyn. Ond nid yw’n wir o gwbl i ddweud nad yw eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod ein diolch yn fawr iawn i’n gofalwyr, a dyna pam ein bod wedi bod wrthi ers tro yn ceisio gwella bywydau gofalwyr. Yn 2000, cyhoeddwyd ein ‘Strategaeth Gofalwyr Cymru’, a oedd yn cynnig fframwaith ar gyfer darparu gwasanaethau a chymorth i ofalwyr. Yn 2010, cyflwynwyd y Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru), gan wella ymhellach y cymorth sydd ar gael i ofalwyr yn lleol, a gwnaeth y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) arloesol ein galluogi i adeiladu ar ein cynnydd a chryfhau ein hymrwymiad i ofalwyr. Mae’r Ddeddf yn cydnabod yn glir y rôl allweddol a chwaraeir gan ofalwyr a bydd yn rhoi hawliau iddynt i asesiad a chymorth sy’n gyfartal â rhai’r bobl y maent yn gofalu amdanynt. Ac rwy’n gyfarwydd iawn â’r arolwg y cyfeiriodd Rhun ap Iorwerth ato, gan fy mod wedi bod yn ei drafod fy hun eisoes gyda’n fforwm gofalwyr, ac o ganlyniad, rwyf wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol yng Nghymru ynglŷn â’r materion a ddisgrifiwyd gennych, ac rwyf hefyd wedi gofyn i fy swyddogion edrych yn fanwl eto ar y canfyddiadau ac wrth gwrs, fe fydd yna broses fonitro dri cham ar gyfer gweithredu’r Ddeddf.
Hefyd, cyhoeddais y bwriad i adnewyddu ein strategaeth bresennol ar gyfer gofalwyr yn fy natganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr. Bydd y strategaeth yn cael ei datblygu mewn partneriaeth â rhwydweithiau gofalwyr, sefydliadau a gofalwyr eu hunain, gan ddatblygu perchnogaeth ar y cyd a thynnu sylw at y materion sy’n wirioneddol bwysig, ac rwy’n sicrhau’r Aelodau fod gofalwyr ifanc yn ffocws arbennig yn y gwaith hwn. Bydd y gwaith yn cynnwys archwilio ymagwedd genedlaethol tuag at ofal seibiant, gan fod gofalwyr yn dweud wrthym fod hyn yn flaenoriaeth bwysig iddynt, ac mae trafodaethau eisoes wedi dechrau gyda sefydliadau’r trydydd sector ar y manylion. A gallaf eich sicrhau hefyd fod peth o’r gwaith hwnnw’n cynnwys trafodaethau gydag Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, yn ymwneud â’r dull o weithredu a ddisgrifiwyd yn yr Alban.
Yn y cyfamser, rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol weithio gyda’i gilydd i gynllunio a darparu gofal a chymorth mor lleol â phosibl. Mae hyn yn cynnwys gofal seibiant i gynorthwyo gofalwyr yn eu rôl hanfodol. Dylai gofal seibiant fod yn hyblyg a dylai allu digwydd mewn amrywiaeth eang o leoliadau, gan gynnwys yn y cartref ac yn y gymuned ehangach. Rwy’n ymwybodol fod cau ysbytai cymuned yn parhau i gael llawer o sylw, ond carwn gywiro Mark Isherwood: nid oes rhaglen gau ysbytai cymuned gan Lywodraeth Cymru. Mater i fyrddau iechyd lleol, gan weithio mewn partneriaeth â’u cymunedau lleol, yw penderfynu ar y gofal sy’n anghenrheidiol ar gyfer anghenion lleol.