Part of the debate – Senedd Cymru am 5:32 pm ar 1 Chwefror 2017.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth yma. Rhyw ychydig o funudau sydd gen i ar ôl. A gaf i ddiolch yn gyntaf i Sian Gwenllian am danlinellu mor werthfawrogol y dylem ni fod o weithwyr gofal proffesiynol ar draws Cymru—pwynt, wrth gwrs, sydd wedi cael ei wneud gan nifer o Aelodau? Mae’n bwysig iawn bod y gweithwyr proffesiynol yma yn cael y gydnabyddiaeth maen nhw ei hangen—llawer ohonyn nhw, wrth gwrs, yn gweithio ar gyflogau isel. Ac wedyn mi wnaed y pwynt yn gryf iawn gan nifer, yn cynnwys Jenny Rathbone a Jayne Bryant a Llyr Gruffydd, ynglŷn â’r cyfraniad amhrisiadwy sy’n cael ei wneud gan ofalwyr gwirfoddol. Fe ddywedodd y Gweinidog bod y Llywodraeth yn cydnabod y gwaith maen nhw yn ei wneud. Ar lefel unigol, wrth gwrs, byddai pob un ohonom yn ddiolchgar i unigolyn am y gwaith maen nhw yn ei wneud yn gofalu am rywun o’u teulu neu ffrind, ond fel sector mae’n rhaid i ni wneud mwy, rydw i’n meddwl, i werthfawrogi a dangos y gydnabyddiaeth yna bod y gwaith maen nhw yn ei wneud am ddim yn cynnal y gwasanaethau proffesiynol eraill.
Hannah Blythyn, diolch am grynhoi mor bwysig ydy ysbytai cymunedol ac, ie, y gwelyau sydd yn bwysig. Mewn ymateb i’r hyn a ddywedodd Dawn Bowden, nid yr argraff yr oeddem ni eisiau ei roi oedd mai brics a mortar sy’n bwysig, ond mae yna ostyngiad wedi bod yn nifer y gwelyau cymunedol sydd ar gael, ac mae’n rhaid rhywfodd i ni gydnabod bod yna rôl bwysig iawn i’r gwelyau cymunedol yma yn y llwybr gofal. Rydw i’n gobeithio y gallwn ni gyrraedd at bwynt lle gallwn ni gael consensws bod angen—ar ôl blynyddoedd o golli gwelyau, achos dyna sydd wedi digwydd; mae yna 7 y cant yn llai o welyau NHS yng Nghymru rŵan nag ychydig flynyddoedd yn ôl—troi y llanw hwnnw a chyfrannu rhagor o welyau tuag at y dewis, yr ystod eang o opsiynau sydd yna, o gynnig gofal cymdeithasol.
Gwnaeth Suzy Davies ddechrau’r drafodaeth drwy sôn am integreiddio. Nid a ydym ni yn dymuno gweld integreiddio ydy’r cwestiwn, rydw i’n meddwl, ond, yn hytrach, sut fodel o integreiddio rydym ni yn chwilio amdano fo, achos mae’n rhaid i ni feddwl am y gwasanaeth fel un—mae’n rhaid iddo fo weithio fel un. Achos, ar eu taith nhw drwy y gyfundrefn iechyd a gofal, os liciwch chi, ddylai claf ddim teimlo ar unrhyw bwynt bod yna rwystr yn ffordd y gofal y mae o yn ei gael. Unwaith eto, rwy’n gobeithio y gallwn ni fod yn gytûn ar hynny. Beth sydd eisiau, wrth gwrs, ydy ffeindio ffordd o weithredu hynny ar hyd a lled Cymru.
Rydw i yn ddiolchgar i’r Gweinidog am ei sylwadau—oes, mae gen i fwy o ddiddordeb mewn allbynnau. Mi restrwyd gan y Gweinidog nifer o elfennau cyllidebol, cyfraniadau ariannol i wahanol strategaethau, ac, wrth gwrs, rydw i’n cydnabod yr arian hwnnw, ac mae peth o’r arian hwnnw, wrth gwrs, wedi deillio o drafodaethau sydd wedi bod rhwng y pleidiau yma. Ond mae’r straen ar y gwasanaethau cymdeithasol yn amlwg—rydw i’n clywed amdano fo yn fy mag post ac yn fy mewnflwch e-bost. A thra bod y dystiolaeth yn dangos bod y straen yna—ac ystadegau yn dangos bod y straen yno o ran y cynnydd sydd wedi bod yn ddiweddar yn yr oedi wrth drosglwyddo—mi barhawn ni i gadw’r Llywodraeth yma i gyfrif a mynnu bod yna gryfhau yn digwydd o fewn y sector hollbwysig yma.
I gloi, mi ddwedodd Dai Lloyd bod angen i ni ddathlu’r ffaith ein bod ni mewn sefyllfa lle mae yna gynnydd mewn galw, oherwydd ein bod ni yn byw yn hŷn. Ond mae’r newid demograffig yr ydym ni’n ei groesawu yn dod â chyfrifoldebau efo fo. A dyna rydym ni’n siarad amdano fo heddiw: sut i wynebu’r cyfrifoldeb hwnnw. Adeiladu system sydd ei angen, sy’n gallu ymdopi â heddiw ac sy’n barod am yfory.