9. 8. Dadl Fer: Taro'r Fargen Ddinesig — Y Camau Nesaf i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:39 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 5:39, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i ganiatáu i Jenny Rathbone, Hefin David a David Melding gyfrannu munud yr un i’r ddadl hon. Roedd 15 Mawrth, 2016 yn ddiwrnod hanesyddol i Gymru: y diwrnod y llofnodwyd bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd o’r diwedd gan y Prif Weinidog, Llywodraeth y DU a chynrychiolwyr y 10 awdurdod lleol sy’n cymryd rhan. Ers y diwrnod hwnnw, mae awdurdodau lleol ar draws y rhanbarth wedi cadarnhau’r cynllun—gwnaeth Caerdydd hynny yn ôl ym mis Ionawr.

Felly, beth yn union yw’r holl ffws? Wel, mae ‘dinas-ranbarth’ yn derm a ddefnyddiwyd ers dechrau’r 1950au gan gynllunwyr trefol i ddisgrifio ardal drefol â rhanbarthau gweinyddol lluosog. Mae prifddinas-ranbarth Caerdydd yn cynnwys 10 awdurdod lleol: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg. Dyma’r dinas-ranbarth mwyaf yng Nghymru, gyda hanner cyfanswm allbwn economaidd economi Cymru, 49 y cant o gyfanswm cyflogaeth, ac mae ganddo dros 38,000 o fusnesau gweithredol. Mae’r fargen ddinesig hefyd yn cynnig cyfle i barhau i fynd i’r afael â rhwystrau’r ardal i dwf economaidd drwy wella cysylltedd trafnidiaeth, cynyddu lefelau sgiliau ymhellach eto, cynorthwyo pobl i gael gwaith, a rhoi’r cymorth sydd ei angen i fusnesau allu arloesi a thyfu.

Credaf fod gan y prosiect hwn botensial mawr, ond gadewch inni beidio â bod o dan unrhyw amheuaeth ynghylch yr heriau sydd o’n blaenau. Mae gwerth ychwanegol gros yn is nag ym mhob un ond un o ddinas-ranbarthau craidd Lloegr. Mae yna broblemau cysylltedd ar draws y rhanbarth sy’n ei gwneud yn anos i bobl yn y Cymoedd, er enghraifft, gael mynediad at gyfleoedd economaidd.

Os caf droi at elfennau allweddol o’r fargen, ac yn sylfaenol, datblygiad cronfa fuddsoddi 20 mlynedd gwerth £1.2 biliwn, a fydd yn cael ei fuddsoddi mewn amrywiaeth eang o brosiectau, fel y gwyddom, mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £500 miliwn yr un tuag at y gronfa hon. Bydd yr awdurdodau lleol sy’n rhan o brifddinas-ranbarth Caerdydd yn cyfrannu isafswm o £120 miliwn dros gyfnod y gronfa o 20 mlynedd. Blaenoriaeth allweddol, wrth gwrs, yw cyflwyno metro de-ddwyrain Cymru, ac nid yw’n syndod, fod cyfran o’r gronfa fuddsoddi yn canolbwyntio ar ddau gam y cynllun metro ehangach, cyflwyno rhaglen drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd, a chyflwyno cynllun metro de-ddwyrain Cymru ehangach y tu hwnt i hynny.

Unwaith eto, a gaf fi apelio arnoch i sicrhau bod pob rhan o’r dinas-ranbarth yn elwa o’r cynllun metro, gan gynnwys ardaloedd gwledig anghysbell fel Trefynwy, sydd wedi ymddangos a diflannu oddi ar wahanol fapiau metro yn rheolaidd dros y blynyddoedd yn ystod y Cynulliad diwethaf ac i mewn i’r un yma, mater y tynnais sylw Gweinidogion ato yn y Siambr hon ar sawl achlysur? Fel y dywedais o’r blaen, gallai canolfan drafnidiaeth gyhoeddus yn y Celtic Manor helpu i gyflawni hyn, ond mae angen iddo ddigwydd fel bod pawb yn teimlo eu bod wedi’u cynnwys. Ac er mai rheilffyrdd ysgafn a thramiau yw’r ateb gorau ar gyfer rhai llwybrau yn awr ac yn y dyfodol, lle y mae’r seilwaith yno, ni ddylem danbrisio rôl bwysig bysiau, yn enwedig wrth ddarparu cysylltiadau o ganolfannau i ardaloedd gwledig.

Ond mae’n ymwneud â mwy na’r metro, er mor bwysig yw hwnnw. Defnyddir gweddill y gronfa fuddsoddi i fwrw ymlaen ag ystod eang o brosiectau sy’n cefnogi twf economaidd ar draws prifddinas-ranbarth Caerdydd y penderfynir yn eu cylch gan gabinet rhanbarthol newydd. Bydd hynny’n cynnwys cynlluniau trafnidiaeth pellach, buddsoddi i ddatgloi safleoedd tai a chyflogaeth, a datblygu cyfleusterau ymchwil ac arloesi.

Felly, pa sicrwydd a geir yn sail i hyn i gyd? Wel, nid yw annog cydweithredu rhwng awdurdodau lleol bob amser wedi bod yn rhy lwyddiannus yn y gorffennol. Mae’r awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan wedi ymrwymo i fframwaith sicrwydd ar gyfer y gronfa fuddsoddi hon, ac yn ganolog i hyn, mae’r cynlluniau’n cynnig gwerth da am arian ac yn seiliedig ar achos busnes cadarn. Byddwn yn gwylio’n ofalus i sicrhau bod hyn yn digwydd, gan na chaiff y gyfran o gyllid ar gyfer y pum mlynedd nesaf ei ddatgloi oni bai bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn fodlon fod y buddsoddiadau hyd hynny wedi bodloni amcanion allweddol ac wedi cyfrannu at dwf cenedlaethol. A dylem gofio nad siec wag yw hyn. Mae risg yn rhan o’r broses; mae’r awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan yn ymwybodol o hynny. Os nad yw arian cychwynnol yn arwain at gynnydd, yna cyllidebau awdurdodau lleol fydd yn talu’r costau yn y dyfodol. Mae hynny’n rhan o’r fargen. Felly, nid yw’n ateb i bob problem; mae yna economeg ddigyfaddawd ynghlwm wrtho.

Beth am y dyfodol? Wel, gallai datganoli incwm ardrethi busnes ddarparu cyllid ar gyfer y fargen ddinesig. Gallem ystyried caniatáu ar gyfer atodiad seilwaith, caniatáu i awdurdodau lleol ddefnyddio ffynonellau ariannu amgen, neu gellid cael gwared ar yr amodau sydd ynghlwm wrth rai o grantiau penodol Llywodraeth Cymru i ganiatáu i gyllid gael ei gronni ar y lefel ranbarthol. Rwy’n siŵr y bydd gan Ysgrifennydd y Cabinet ei syniadau a’i argymhellion ei hun ar rai o’r meysydd hyn.

Rwy’n falch fod yna ymrwymiad i edrych eto ar system docynnau integredig sengl ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus ar draws y rhanbarth, fel y bu pwyllgor menter y Cynulliad blaenorol yn ei ystyried, pan oeddwn yn Gadeirydd arno. Yng ngeiriau’r Athro Stuart Cole, a oedd yn dyst i’n hymchwiliad yn y pwyllgor hwnnw, mae’n beth cythreulig o anodd i’w gyflawni, ond dyna’r greal sanctaidd o ran cynllunio trafnidiaeth gyhoeddus, ac mae’n cyd-fynd yn llwyr ag ysbryd y metro.

Gan droi at seilwaith, clywn lawer o siarad am y bwa arloesi sy’n rhedeg ar hyd coridor yr M4. Mae hynny’n wych, ond rwy’n meddwl bod angen inni edrych hefyd y tu hwnt i hynny ar gefnogi prosiectau y tu allan i goridor yr M4 mewn rhannau eraill o’r rhanbarth—mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd fel Blaenau’r Cymoedd—ac edrych ar botensial enfawr prosiectau fel Cylchffordd Cymru, fel y cydnabu arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Peter Fox, a wobrwywyd yn ddiweddar gydag anrhydedd am ei waith ar brosiect y fargen ddinesig. Gyda llaw, rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru bellach wedi rhoi terfyn amser i’r cwmni dan sylw, HVDC, ddangos bod ganddo’r cyllid angenrheidiol i symud ymlaen â hynny. Rwy’n credu bod hynny’n ddatblygiad iach.

Yn anad dim, rwy’n credu bod angen i ni gael eglurder yn ardal y dinas-ranbarth. Hefyd, mae angen perthynas agos â thair prifysgol y rhanbarth, a all helpu i danategu datblygiad posibl clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cystadleuol yn rhyngwladol y mae llawer o’r farn y bydd yn rhoi’r DU yng nghanol technoleg twf byd-eang sy’n datblygu.

Wrth gwrs, mae’n amlwg fod angen seilwaith digidol rhagorol ar brifddinas-ranbarth Caerdydd, ac ni sicrhawyd hynny bob amser yn y gorffennol. Mae angen technolegau 4G a 5G, a mwy o wasanaethau Wi-Fi hefyd ar drafnidiaeth gyhoeddus drwyddi draw. Maent yn dod yn gynyddol bwysig.

A gaf fi ddweud ychydig hefyd am ddatblygiad seilwaith gwyrdd yn y prifddinas-ranbarth? Oherwydd mae gan hynny ran i’w chwarae mewn perthynas â’r Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gymeradwywyd gan y Cynulliad hwn. Mae seilwaith gwyrdd yn darparu nifer o gyfleoedd a manteision os yw’n cael ei wreiddio ym mhrosiect y dinas-ranbarth. Nid nodi seilwaith gwyrdd yn unig y dylid ei wneud, mae angen ei beiriannu’n rhan o’n pentrefi, ein trefi a’n dinasoedd. Mae angen iddo ymwneud â chymunedau a’r sector preifat. Mae hon yn ffordd o sicrhau na chaiff gwaith ei wneud mewn seilos—ac mae hi mor bwysig torri drwy’r seilos hynny mewn prosiect fel prosiect y fargen-ddinesig.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, er bod llawer o waith wedi cael ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf i gytuno ar y fargen, nid ydym ond yn dechrau ar y daith mewn gwirionedd. Ni fydd yn daith hawdd, ond rwy’n credu ei bod yn un sy’n angenrheidiol ac yn un a fydd, yn y pen draw, yn werth chweil i’r holl bartneriaid sydd ynghlwm wrthi. Yn sgil y bleidlais i adael yr UE, mae’n arbennig o bwysig fod cydrannau’r prifddinas-ranbarth yn gweithio’n dda gyda’i gilydd i wneud y gorau o’u hasedau a’u manteision. Rydym yn gryfach gyda’n gilydd nag yr ydym ar wahân.

Rwyf am gau’r ddadl fer hon—neu fy rhan i ynddi, beth bynnag—gyda’r weledigaeth ar gyfer prifddinas-ranbarth Caerdydd a nodir yn y fargen ddinesig, sef

‘cydweithio i wella bywydau pobl yn ein holl gymunedau. Byddwn yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i bawb ac yn sicrhau ein bod yn diogelu twf economaidd cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.’

Mae’r fargen ddinesig hon yn rhoi pwerau ac adnoddau pellach i bartneriaid lleol allu gwireddu’r weledigaeth hon. Bellach, mater i’r rhai a lofnododd y cytundeb yw sicrhau bod hyn yn digwydd.