– Senedd Cymru am 5:39 pm ar 1 Chwefror 2017.
Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau’n gadael y Siambr, a wnewch chi hynny’n ddistaw ac yn gyflym os gwelwch yn dda? Diolch. Symudwn yn awr at y ddadl fer a galwaf ar Nick Ramsay i siarad ar y pwnc y mae wedi’i ddewis. Nick.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i ganiatáu i Jenny Rathbone, Hefin David a David Melding gyfrannu munud yr un i’r ddadl hon. Roedd 15 Mawrth, 2016 yn ddiwrnod hanesyddol i Gymru: y diwrnod y llofnodwyd bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd o’r diwedd gan y Prif Weinidog, Llywodraeth y DU a chynrychiolwyr y 10 awdurdod lleol sy’n cymryd rhan. Ers y diwrnod hwnnw, mae awdurdodau lleol ar draws y rhanbarth wedi cadarnhau’r cynllun—gwnaeth Caerdydd hynny yn ôl ym mis Ionawr.
Felly, beth yn union yw’r holl ffws? Wel, mae ‘dinas-ranbarth’ yn derm a ddefnyddiwyd ers dechrau’r 1950au gan gynllunwyr trefol i ddisgrifio ardal drefol â rhanbarthau gweinyddol lluosog. Mae prifddinas-ranbarth Caerdydd yn cynnwys 10 awdurdod lleol: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg. Dyma’r dinas-ranbarth mwyaf yng Nghymru, gyda hanner cyfanswm allbwn economaidd economi Cymru, 49 y cant o gyfanswm cyflogaeth, ac mae ganddo dros 38,000 o fusnesau gweithredol. Mae’r fargen ddinesig hefyd yn cynnig cyfle i barhau i fynd i’r afael â rhwystrau’r ardal i dwf economaidd drwy wella cysylltedd trafnidiaeth, cynyddu lefelau sgiliau ymhellach eto, cynorthwyo pobl i gael gwaith, a rhoi’r cymorth sydd ei angen i fusnesau allu arloesi a thyfu.
Credaf fod gan y prosiect hwn botensial mawr, ond gadewch inni beidio â bod o dan unrhyw amheuaeth ynghylch yr heriau sydd o’n blaenau. Mae gwerth ychwanegol gros yn is nag ym mhob un ond un o ddinas-ranbarthau craidd Lloegr. Mae yna broblemau cysylltedd ar draws y rhanbarth sy’n ei gwneud yn anos i bobl yn y Cymoedd, er enghraifft, gael mynediad at gyfleoedd economaidd.
Os caf droi at elfennau allweddol o’r fargen, ac yn sylfaenol, datblygiad cronfa fuddsoddi 20 mlynedd gwerth £1.2 biliwn, a fydd yn cael ei fuddsoddi mewn amrywiaeth eang o brosiectau, fel y gwyddom, mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £500 miliwn yr un tuag at y gronfa hon. Bydd yr awdurdodau lleol sy’n rhan o brifddinas-ranbarth Caerdydd yn cyfrannu isafswm o £120 miliwn dros gyfnod y gronfa o 20 mlynedd. Blaenoriaeth allweddol, wrth gwrs, yw cyflwyno metro de-ddwyrain Cymru, ac nid yw’n syndod, fod cyfran o’r gronfa fuddsoddi yn canolbwyntio ar ddau gam y cynllun metro ehangach, cyflwyno rhaglen drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd, a chyflwyno cynllun metro de-ddwyrain Cymru ehangach y tu hwnt i hynny.
Unwaith eto, a gaf fi apelio arnoch i sicrhau bod pob rhan o’r dinas-ranbarth yn elwa o’r cynllun metro, gan gynnwys ardaloedd gwledig anghysbell fel Trefynwy, sydd wedi ymddangos a diflannu oddi ar wahanol fapiau metro yn rheolaidd dros y blynyddoedd yn ystod y Cynulliad diwethaf ac i mewn i’r un yma, mater y tynnais sylw Gweinidogion ato yn y Siambr hon ar sawl achlysur? Fel y dywedais o’r blaen, gallai canolfan drafnidiaeth gyhoeddus yn y Celtic Manor helpu i gyflawni hyn, ond mae angen iddo ddigwydd fel bod pawb yn teimlo eu bod wedi’u cynnwys. Ac er mai rheilffyrdd ysgafn a thramiau yw’r ateb gorau ar gyfer rhai llwybrau yn awr ac yn y dyfodol, lle y mae’r seilwaith yno, ni ddylem danbrisio rôl bwysig bysiau, yn enwedig wrth ddarparu cysylltiadau o ganolfannau i ardaloedd gwledig.
Ond mae’n ymwneud â mwy na’r metro, er mor bwysig yw hwnnw. Defnyddir gweddill y gronfa fuddsoddi i fwrw ymlaen ag ystod eang o brosiectau sy’n cefnogi twf economaidd ar draws prifddinas-ranbarth Caerdydd y penderfynir yn eu cylch gan gabinet rhanbarthol newydd. Bydd hynny’n cynnwys cynlluniau trafnidiaeth pellach, buddsoddi i ddatgloi safleoedd tai a chyflogaeth, a datblygu cyfleusterau ymchwil ac arloesi.
Felly, pa sicrwydd a geir yn sail i hyn i gyd? Wel, nid yw annog cydweithredu rhwng awdurdodau lleol bob amser wedi bod yn rhy lwyddiannus yn y gorffennol. Mae’r awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan wedi ymrwymo i fframwaith sicrwydd ar gyfer y gronfa fuddsoddi hon, ac yn ganolog i hyn, mae’r cynlluniau’n cynnig gwerth da am arian ac yn seiliedig ar achos busnes cadarn. Byddwn yn gwylio’n ofalus i sicrhau bod hyn yn digwydd, gan na chaiff y gyfran o gyllid ar gyfer y pum mlynedd nesaf ei ddatgloi oni bai bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn fodlon fod y buddsoddiadau hyd hynny wedi bodloni amcanion allweddol ac wedi cyfrannu at dwf cenedlaethol. A dylem gofio nad siec wag yw hyn. Mae risg yn rhan o’r broses; mae’r awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan yn ymwybodol o hynny. Os nad yw arian cychwynnol yn arwain at gynnydd, yna cyllidebau awdurdodau lleol fydd yn talu’r costau yn y dyfodol. Mae hynny’n rhan o’r fargen. Felly, nid yw’n ateb i bob problem; mae yna economeg ddigyfaddawd ynghlwm wrtho.
Beth am y dyfodol? Wel, gallai datganoli incwm ardrethi busnes ddarparu cyllid ar gyfer y fargen ddinesig. Gallem ystyried caniatáu ar gyfer atodiad seilwaith, caniatáu i awdurdodau lleol ddefnyddio ffynonellau ariannu amgen, neu gellid cael gwared ar yr amodau sydd ynghlwm wrth rai o grantiau penodol Llywodraeth Cymru i ganiatáu i gyllid gael ei gronni ar y lefel ranbarthol. Rwy’n siŵr y bydd gan Ysgrifennydd y Cabinet ei syniadau a’i argymhellion ei hun ar rai o’r meysydd hyn.
Rwy’n falch fod yna ymrwymiad i edrych eto ar system docynnau integredig sengl ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus ar draws y rhanbarth, fel y bu pwyllgor menter y Cynulliad blaenorol yn ei ystyried, pan oeddwn yn Gadeirydd arno. Yng ngeiriau’r Athro Stuart Cole, a oedd yn dyst i’n hymchwiliad yn y pwyllgor hwnnw, mae’n beth cythreulig o anodd i’w gyflawni, ond dyna’r greal sanctaidd o ran cynllunio trafnidiaeth gyhoeddus, ac mae’n cyd-fynd yn llwyr ag ysbryd y metro.
Gan droi at seilwaith, clywn lawer o siarad am y bwa arloesi sy’n rhedeg ar hyd coridor yr M4. Mae hynny’n wych, ond rwy’n meddwl bod angen inni edrych hefyd y tu hwnt i hynny ar gefnogi prosiectau y tu allan i goridor yr M4 mewn rhannau eraill o’r rhanbarth—mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd fel Blaenau’r Cymoedd—ac edrych ar botensial enfawr prosiectau fel Cylchffordd Cymru, fel y cydnabu arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Peter Fox, a wobrwywyd yn ddiweddar gydag anrhydedd am ei waith ar brosiect y fargen ddinesig. Gyda llaw, rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru bellach wedi rhoi terfyn amser i’r cwmni dan sylw, HVDC, ddangos bod ganddo’r cyllid angenrheidiol i symud ymlaen â hynny. Rwy’n credu bod hynny’n ddatblygiad iach.
Yn anad dim, rwy’n credu bod angen i ni gael eglurder yn ardal y dinas-ranbarth. Hefyd, mae angen perthynas agos â thair prifysgol y rhanbarth, a all helpu i danategu datblygiad posibl clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cystadleuol yn rhyngwladol y mae llawer o’r farn y bydd yn rhoi’r DU yng nghanol technoleg twf byd-eang sy’n datblygu.
Wrth gwrs, mae’n amlwg fod angen seilwaith digidol rhagorol ar brifddinas-ranbarth Caerdydd, ac ni sicrhawyd hynny bob amser yn y gorffennol. Mae angen technolegau 4G a 5G, a mwy o wasanaethau Wi-Fi hefyd ar drafnidiaeth gyhoeddus drwyddi draw. Maent yn dod yn gynyddol bwysig.
A gaf fi ddweud ychydig hefyd am ddatblygiad seilwaith gwyrdd yn y prifddinas-ranbarth? Oherwydd mae gan hynny ran i’w chwarae mewn perthynas â’r Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gymeradwywyd gan y Cynulliad hwn. Mae seilwaith gwyrdd yn darparu nifer o gyfleoedd a manteision os yw’n cael ei wreiddio ym mhrosiect y dinas-ranbarth. Nid nodi seilwaith gwyrdd yn unig y dylid ei wneud, mae angen ei beiriannu’n rhan o’n pentrefi, ein trefi a’n dinasoedd. Mae angen iddo ymwneud â chymunedau a’r sector preifat. Mae hon yn ffordd o sicrhau na chaiff gwaith ei wneud mewn seilos—ac mae hi mor bwysig torri drwy’r seilos hynny mewn prosiect fel prosiect y fargen-ddinesig.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, er bod llawer o waith wedi cael ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf i gytuno ar y fargen, nid ydym ond yn dechrau ar y daith mewn gwirionedd. Ni fydd yn daith hawdd, ond rwy’n credu ei bod yn un sy’n angenrheidiol ac yn un a fydd, yn y pen draw, yn werth chweil i’r holl bartneriaid sydd ynghlwm wrthi. Yn sgil y bleidlais i adael yr UE, mae’n arbennig o bwysig fod cydrannau’r prifddinas-ranbarth yn gweithio’n dda gyda’i gilydd i wneud y gorau o’u hasedau a’u manteision. Rydym yn gryfach gyda’n gilydd nag yr ydym ar wahân.
Rwyf am gau’r ddadl fer hon—neu fy rhan i ynddi, beth bynnag—gyda’r weledigaeth ar gyfer prifddinas-ranbarth Caerdydd a nodir yn y fargen ddinesig, sef
‘cydweithio i wella bywydau pobl yn ein holl gymunedau. Byddwn yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i bawb ac yn sicrhau ein bod yn diogelu twf economaidd cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.’
Mae’r fargen ddinesig hon yn rhoi pwerau ac adnoddau pellach i bartneriaid lleol allu gwireddu’r weledigaeth hon. Bellach, mater i’r rhai a lofnododd y cytundeb yw sicrhau bod hyn yn digwydd.
Mae arbenigwyr polisi yn cydnabod yn eang mai dinasoedd yw peiriannau twf economaidd, ac mae cysylltedd rhwng dinasoedd a’u cefnwledydd yn elfen allweddol yn y broses o ledaenu’r llwyddiant economaidd hwnnw i’r rhanbarth cyfan, nid i’r rhai sydd yn y canol yn unig. Mae’n rhaid i ni gydnabod mai’r Cymoedd oedd peiriant twf gwreiddiol Caerdydd yn y gorffennol, ac felly mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod y Cymoedd yn elwa o dwf cyfredol Caerdydd. Gallwn weld o enghreifftiau Manceinion a Stuttgart fod yn rhaid i adfywio llwyddiannus ar raddfa fawr drwy ehangu’r sector gwybodaeth fod yn seiliedig ar rwydwaith cludo cyflym metropolitanaidd. Ar hyn o bryd, mae 80 y cant o’r bron i 80,000 o bobl sy’n cymudo i Gaerdydd yn dod mewn car. Mae’n anghynaladwy yn awr ac yn gwaethygu’n ddyddiol. A dweud y gwir, roedd yn codi cywilydd pan ddywedodd pobl ifanc yn y seminar COP ffug ddiweddar ddydd Gwener diwethaf, ‘Pam na allwn gael y system drafnidiaeth integredig fodern sydd ganddynt yn Iwerddon?’, ac nid oedd gennyf ateb i hynny. Pam yn wir? Mae bwrw ymlaen â’r metro yn fater o frys, a hebddo, ni fydd busnesau newydd a thalent newydd yn dod i’r rhanbarth hwn.
Rwy’n nodi ar gyfer y Siambr fy mod yn bresennol yng nghyngor Caerffili neithiwr fel aelod, ar un o fy ymddangosiadau diwethaf yno, a phleidleisiais i gefnogi’r fargen ddinesig, fel y gwnaeth y cyngor cyfan. Carwn ddweud wrth Nick Ramsay: rwy’n siŵr eich bod yn cofio model rhannu gwasanaeth de-ddwyrain Cymru i rannu cyflogres, hyfforddiant ac adnoddau dynol yn unig, model a oedd yn cynnwys yr un 10 awdurdod lleol ond a fethodd ddatblygu. Mae hyn, felly, yn enghraifft o rywbeth sydd wedi mynd yn llawer pellach na hynny, ac mae wedi bod yn llawer mwy llwyddiannus. Rwy’n meddwl bod ein diolch yn fawr i bob un o arweinwyr yr awdurdodau hynny, a phob prif weithredwr. Credaf fod hynny’n wir ar draws y pleidiau.
Fel y nododd Jenny Rathbone eisoes, mae angen i’r fargen ddinesig fynd y tu hwnt i Gaerdydd, fel arall nid yw’n fargen o gwbl. Hoffwn roi hynny yn ei gyd-destun: nid yw’n ymwneud â Blaenau’r Cymoedd yn unig, ond y Cymoedd gogleddol, sy’n cynnwys ardal sy’n fwy na hynny mewn gwirionedd, yn ymestyn ar draws ardaloedd y Cymoedd gogleddol. Mae llwyddiant Manceinion yn deillio’n rhannol o’r ffaith ei fod yn rhanbarth consentrig. Wel, y broblem gyda’r Cymoedd yw mai sbôcs yn symud allan o ardal Caerdydd ydynt, sy’n creu her arall i ni—a her y gellir ei goresgyn, rwy’n credu, os gweithiwn gyda’n gilydd.
Yn olaf, mae Canolfan Arloesi Menter Cymru wedi’i lleoli yn fy etholaeth i, ym Mharc Busnes Caerffili. Rwy’n credu ei bod yn enghraifft wych o’r math o beth y gall y fargen ddinesig ei gyflawni yn y Cymoedd gogleddol. Rydym yn gweld Canolfan Arloesi Menter Cymru fel canolbwynt twf a datblygiad busnes. Beth am wasgaru Canolfan Arloesi Menter Cymru—y math hwnnw o fodel—ar draws y Cymoedd gogleddol? Nid creu swyddi yn unig a wnâi, ond tyfu a chreu busnesau hefyd. Rwy’n credu y gallwn gyflawni hynny.
Fel Jenny Rathbone, rwy’n bryderus iawn ynglŷn â thagfeydd yn ein dinasoedd, yn enwedig Caerdydd, ac aneffeithlonrwydd llwyr y ffordd yr ydym yn caniatáu i’r traffig lifo ar hyn o bryd. Yn amlwg, mae angen i ni wneud mwy o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Mae angen i ni adeiladu ar yr hyn sydd gennym a sicrhau bod cynlluniau eraill yno i gael pobl oddi ar y ffyrdd. Buasai peidio â gyrru ar deithiau sengl gydag un teithiwr yn unig yn gwella llif y traffig yn ddramatig. Dylid annog cynlluniau rhannu ceir drwy’r cyflogwyr mwy o faint, ond hefyd drwy’r rhyngrwyd, y dechnoleg newydd wych sydd gennym, fel y dylid annog lonydd arbennig i’w defnyddio gan geir sy’n cael eu rhannu. Bydd hynny hefyd yn gwella’r amgylchedd trefol ac yn rhoi opsiynau eraill i ni o ran dynodi rhai ffyrdd ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
Mae gwir angen inni feddwl mewn modd cynhwysfawr iawn am y ffordd yr ydym yn rheoli llif traffig. Mae’n rhaid ei wneud ar y lefel uchaf. Fel arall, bydd y tagfeydd presennol yn gwaethygu fwyfwy.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ymateb i’r ddadl. Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Nick Ramsay am fanteisio ar y cyfle y mae’r ddadl fer yn ei roi i dynnu sylw at y cynnydd presennol a wneir mewn perthynas â bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd? Yn fy marn i, roedd ei gyfraniad yn feddylgar, yn eang, yn optimistaidd ond yn realistig ynglŷn â’r heriau sy’n ein hwynebu. Mae gan fargeinion dinesig y potensial i gael effaith barhaol, a dyna pam y mae ymrwymiad i wneud bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd yn llwyddiant mor bwysig.
Nawr, un o’r nodweddion sydd wedi diffinio’r fargen yn y Siambr hon yw’r gefnogaeth drawsbleidiol gref a gafwyd iddi. Rydym wedi gweld rhywfaint o hynny eto heddiw. Mae’r partneriaid sydd ynghlwm wrthi wedi dangos uchelgais, gweledigaeth a gwaith caled wrth ei chael cyn belled â hyn, ond ni allwn fod yn hyderus y gall y fargen gyflawni ei haddewid heb gefnogaeth barhaus, a chefnogaeth wleidyddol barhaus.
Ddirprwy Lywydd, mae’r addewid yn sylweddol, oherwydd mae gan y fargen gronfa fuddsoddi ar gyfer y rhanbarth o £1.2 biliwn dros gyfnod o 20 mlynedd. Dyma’r fargen ddinesig fwyaf fesul y pen o’r rhai y cytunwyd arnynt gan Lywodraeth y DU hyd yn hyn. Mae’n fwy na bargen ddinesig Glasgow ac mae’n fwy na bargeinion dinesig y chwe phrif ddinas-ranbarth yn Lloegr hefyd. Ei nod yw darparu pwerau ac adnoddau i bartneriaid lleol allu datgloi twf economaidd sylweddol ar draws prifddinas-ranbarth Caerdydd, ac mae honno’n thema a glywsom y prynhawn yma. Mae’n hollbwysig fod y twf hwnnw’n digwydd ar draws y rhanbarth cyfan drwy ddatblygu arweinyddiaeth gryfach a mwy effeithiol a galluogi 10 awdurdod lleol i uno’r broses o wneud penderfyniadau, rhannu adnoddau a gweithio’n fwy effeithiol gyda busnesau lleol. Mae’n fargen sy’n ceisio adeiladu ar gryfderau sectoraidd y rhanbarth, ei sylfaen sgiliau uchel, ei thair prifysgol lwyddiannus, a rhoi cyfle i barhau i fynd i’r afael â rhwystrau’r ardal i dwf economaidd drwy wella cysylltedd trafnidiaeth, cynyddu lefelau sgiliau, cynorthwyo pobl i gael gwaith a rhoi’r cymorth sydd ei angen i fusnesau allu arloesi a thyfu.
Yn ystod ei hoes, mae disgwyl i fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd ddarparu hyd at 25,000 o swyddi newydd a denu gwerth £4 biliwn ychwanegol o fuddsoddiad o’r sector preifat. Fel y clywsom yn glir y prynhawn yma, bydd cyflawni metro de-ddwyrain Cymru yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer y buddsoddiad hwnnw, gan gynnwys trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd. Mae’r fargen yn rhoi’r metro yng nghanol rhaglen sylweddol ar gyfer datblygu seilwaith gyda £734 miliwn wedi’i neilltuo ar gyfer ei gyflawni. Mae hwnnw’n cynnwys £503 miliwn gan Lywodraeth Cymru, £125 miliwn gan Lywodraeth y DU ac wrth gwrs, £106 miliwn gan yr Undeb Ewropeaidd, drwy ERDF.
Y tu hwnt i’r metro, mae’r fargen yn cynnwys £495 miliwn pellach, sef £375 miliwn gan Lywodraeth y DU a £120 miliwn gan yr awdurdodau lleol eu hunain, sydd ar gael i flaenoriaethu yn unol ag amcanion y fargen.
Mae hyn oll wedi bod yn bosibl drwy uchelgais awdurdodau lleol eu hunain a newid sylweddol yn eu parodrwydd a’u gallu i ddod at ei gilydd ar gyfer cydweithio’n rhanbarthol, ond hefyd drwy gydweithrediad cryf gyda a rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn dod at ei gilydd i wneud hyn oll yn bosibl. Mae pob plaid yn gweithio i sefydlu’r trefniadau llywodraethu angenrheidiol yn gynnar y flwyddyn hon er mwyn ei gwneud hi’n bosibl i weithgarwch prosiect gychwyn. Dyna pam, wrth gwrs, fel y clywsoch y prynhawn yma, y mae’r awdurdodau lleol ar draws y fargen ddinesig yn pleidleisio i wneud y trefniadau llywodraethu hynny’n realiti, a hoffwn longyfarch Hefin ar y rhan a chwaraeodd yn gwneud i hynny ddigwydd ddoe ddiwethaf.
Mae llawer iawn wedi digwydd, Ddirprwy Lywydd, ers y 10 mis a aeth heibio o’r adeg y llofnododd Prif Weinidog Cymru ac eraill y fargen. Mae’r partneriaethau’n gweithio, fel y gwyddoch, ar gaffael y metro ac mae’n hollol gywir, fel y mae eraill wedi dweud, y bydd y metro yn chwarae’r rhan allweddol hon yn symud pobl ar draws y rhanbarth ac yn symud pobl i Gaerdydd, ond nid yn unig hynny—yn symud pobl o Gaerdydd i rannau eraill o’r rhanbarth a rhwng rhannau o’r rhanbarth yn ogystal.
Fel y dywedodd Nick Ramsay, mae’n rhaid i ni fabwysiadu syniad mwy dychmygus o’r hyn fydd y metro na’r ffordd y caiff ei ddisgrifio weithiau mewn trafodaethau cyhoeddus. Ac roedd David Melding yn iawn hefyd pan dynnodd sylw at y ffaith y bydd angen atebion y tu hwnt i’r metro ar heriau trafnidiaeth ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd. Dyna pam y mae mor bwysig, yn ogystal â sefydlu Cabinet ar y cyd ar ffurf gysgodol, fod awdurdod trafnidiaeth rhanbarthol cysgodol eisoes wedi’i sefydlu fel rhan o’r fargen hon a’i fod wedi bod yn gweithio’n weithredol, yn cyfarfod, er mwyn cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Nawr, er bod cadarnhau’r fargen yn hynod o bwysig o ran ei threfniadau llywodraethu, mae’n bwysig am ei fod yn nodi’r symud i’r cam nesaf ac mae’r cam nesaf hwnnw’n ymwneud â chyflawni, drwy’r awdurdodau a’u partneriaid, y prosiectau a fydd yn gwneud gwahaniaeth ar draws de Cymru.
Mae’r fargen bob amser wedi cael ei gyrru gan yr uchelgais clir i sicrhau twf economaidd drwy fuddsoddi mewn seilwaith, arloesedd, sgiliau a busnes. Cyhoeddodd y comisiwn cystadleuol a sefydlwyd gan y fargen, dan arweiniad Greg Clark—neu’r Greg Clark arall, fel y dylem gyfeirio ato mae’n debyg—ei adroddiad fis Rhagfyr diwethaf ac roedd yn nodi, fel un o gryfderau’r fargen, fod yna gymaint o bobl, sefydliadau a busnesau yn awyddus i wneud twf economaidd cynaliadwy ar draws de Cymru yn realiti ac eisiau chwarae rhan yn y broses o wneud i hynny ddigwydd.
Mae’n hynod bwysig, felly, fod y prifddinas-ranbarth yn gweithio’n agos gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i ddatblygu’r rhaglen o brosiectau. Mae’r trefniadau llywodraethu’n cefnogi cyfranogiad penodol cynrychiolwyr busnes, ond rwy’n disgwyl i’r fargen ddinesig ymgysylltu’n eang i wneud yn siŵr fod pawb sydd â rhan i’w chwarae yn teimlo bod ganddynt gyfle go iawn i wneud y cyfraniad hwnnw.
Mae llawer wedi cael ei wneud y prynhawn yma, Ddirprwy Lywydd, o gyfleoedd economaidd y fargen ddinesig, yn enwedig yr hwb ariannol i’r rhanbarth. Mae pwysigrwydd go iawn hefyd, yn fy marn i, yn y cam pwysig o roi cyfle i awdurdodau lleol wneud i hyn ddigwydd a datblygu’r gweithio trawsffiniol wrth i’r 10 awdurdod lleol ddod at ei gilydd er budd y rhanbarth ehangach a gynrychiolir ganddynt. Fel y dywedwyd yn y Siambr ddoe pan oeddem yn trafod y Papur Gwyn ar ddiwygio llywodraeth leol, mae cyflawniadau bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd wedi bod yn ddylanwadol iawn wrth lunio’r gwaith rhanbarthol ehangach hwnnw ar gyfer y dyfodol.
Mae’r ddadl heddiw wedi canolbwyntio ar fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd. Nid wyf am orffen fy sylwadau heb gydnabod y gwaith sy’n cael ei wneud mewn mannau eraill yng Nghymru. Mae trafodaethau yn ninas-ranbarth Bae Abertawe yn mynd rhagddynt yn dda, ac rwy’n hyderus fod gennym fodd o greu bargen y gall yr holl bartneriaid ei chefnogi. Mae gwaith Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar gam datblygu cynharach, ond mae ganddo ymrwymiad gwirioneddol gan y partneriaid o amgylch y bwrdd, ac rydym yn parhau i weithio gyda hwy i archwilio sut y gallai bargen twf helpu i gyflawni eu huchelgeisiau ar gyfer y rhan honno o ogledd Cymru a gwneud y mwyaf o gysylltiadau â rhanbarthau ar draws y ffin yn Lloegr.
Mae’r llwybr y mae bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd yn ei droedio heddiw yn enghraifft o’r hyn yr ydym am ei weld yn cael ei gyflwyno ar draws Cymru gyfan. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid lleol a byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, cyn belled ag y bydd gennym agenda ar y cyd i fanteisio i’r eithaf ar ein budd cyfunol a datgloi twf economaidd pellach ar gyfer pob rhan o’n cenedl. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Dyna ddiwedd y trafodion am heddiw.