<p>Ystyriaethau Iechyd sy'n Effeithio ar y DU Gyfan </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 1:30, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Bythefnos yn ôl, roedd cefnogaeth drawsbleidiol yma yn y Cynulliad i gynnig yn galw ar Lywodraeth y DU i sefydlu ymchwiliad cyhoeddus statudol i’r sgandal o bobl â hemoffilia y rhoddwyd gwaed halogedig iddynt yn y 1970au a'r 1980au, sydd, wrth gwrs, wedi arwain at farwolaeth 70 o bobl o Gymru, ac mae llawer mwy o bobl yn dal i fyw gyda HIV, hepatitis C a chlefyd yr afu. A wnaiff y Prif Weinidog godi hyn yn uniongyrchol â Phrif Weinidog y DU, Theresa May, pan fydd yn ei chyfarfod nesaf, fel y gall teuluoedd y 70 o bobl a fu farw yng Nghymru, a phawb a gafodd eu heffeithio, gael rhyw fath o ben ar y mater.