1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 7 Chwefror 2017.
1. Pryd y mae Prif Weinidog Cymru yn bwriadu trafod ystyriaethau iechyd sy'n effeithio ar y DU gyfan â Phrif Weinidog y DU? OAQ(5)0435(FM)
Rwy’n cael trafodaethau rheolaidd gyda Phrif Weinidog y DU, ond Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon fyddai fel rheol yn arwain unrhyw drafodaethau yn ymwneud ag iechyd gyda chynrychiolwyr Llywodraeth y DU ar faterion iechyd.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Bythefnos yn ôl, roedd cefnogaeth drawsbleidiol yma yn y Cynulliad i gynnig yn galw ar Lywodraeth y DU i sefydlu ymchwiliad cyhoeddus statudol i’r sgandal o bobl â hemoffilia y rhoddwyd gwaed halogedig iddynt yn y 1970au a'r 1980au, sydd, wrth gwrs, wedi arwain at farwolaeth 70 o bobl o Gymru, ac mae llawer mwy o bobl yn dal i fyw gyda HIV, hepatitis C a chlefyd yr afu. A wnaiff y Prif Weinidog godi hyn yn uniongyrchol â Phrif Weinidog y DU, Theresa May, pan fydd yn ei chyfarfod nesaf, fel y gall teuluoedd y 70 o bobl a fu farw yng Nghymru, a phawb a gafodd eu heffeithio, gael rhyw fath o ben ar y mater.
Wel, gallaf ddweud bod Ysgrifennydd y Cabinet yn arwain y trafodaethau ar hyn. Ysgrifennodd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd ar 20 Rhagfyr, gan gefnogi'r alwad am ymchwiliad cyhoeddus ar draws y DU ar ran pawb a dderbyniodd waed halogedig. Mae hefyd wedi clywed yn uniongyrchol safbwyntiau unigolion yr effeithiwyd arnyn nhw a'u teuluoedd, ac mae bellach yn ystyried y materion a'r pryderon cyn gwneud penderfyniad ar y ffordd ymlaen i’r rhai yr effeithiwyd arnynt yng Nghymru.
Prynhawn da, Brif Weinidog. A gaf i, yn gyntaf oll, ailadrodd galwadau Julie Morgan am yr ymchwiliad cyhoeddus cenedlaethol hwnnw? Credaf ei fod yn bwysig iawn. Adroddodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ddiweddar ar ansawdd gwasanaethau iechyd y DU, a argymhellodd yr angen i sefydlu cyfres o ddata iechyd allweddol a dangosyddion ansawdd ar gyfer pob un o systemau iechyd y DU, fel y gallwn feincnodi ein hunain yn effeithiol gan ddefnyddio diffiniadau cyffredin a gytunwyd a hwyluso ansawdd. Tybed, Brif Weinidog, pa drafodaethau ydych chi neu eich cydweithwyr yn y Cabinet wedi eu cael gyda'ch cymheiriaid yn y gwledydd datganoledig eraill, a San Steffan, i hwyluso’r argymhelliad hwn fel y gallwn wir farnu ein hunain ar sail cymar i gymar.
Ceir trafodaethau gweithredol rhwng swyddogion ynglŷn â hyn. Mae'r dangosyddion ar gyfer iechyd yn amrywio'n fawr, fel y gwyddom, ond, er hynny, mae hyn yn rhywbeth sydd yn y camau archwilio cynnar.
A gaf innau hefyd gysylltu fy hun â’r cwestiwn a'r sylwadau a wnaed gan yr Aelod dros Ogledd Caerdydd? Gallai fod yn ddefnyddiol i’r Prif Weinidog roi iechyd ar yr agenda o ran trafodaethau â Llywodraeth y DU ar adael yr UE. A fyddai'r Prif Weinidog, yn y cyd-destun hwnnw, yn barod i godi’r mater o’r angen i Gymru allu penderfynu ar lefel y fisâu i gael eu cyflwyno i aelodau staff y GIG o dramor, o ystyried ein dibyniaeth fwy ar hyn o bryd ar aelodau staff y GIG o wledydd eraill? Hefyd, a wnaiff ef ofyn am sicrwydd, yn dilyn ymadawiad y DU o’r UE, nad yw’r gofynion i gael trwyddedu meddyginiaeth yn mynd i gael eu gwanhau pan fydd lobïwyr y cwmnïau fferyllol mawr yn gweld cyfle?
Rwy'n credu ei bod yn hynod bwysig bod safonau diogelwch yn cael eu cynnal a bod cyffuriau yn cael eu profi'n briodol cyn iddyn nhw gyrraedd y farchnad. Bu sawl achos dros flynyddoedd lawer, o gyffuriau nad ydynt yn cael eu gwerthuso’n iawn—thalidomid yw'r un sydd fwyaf adnabyddus—ac mae'n hynod bwysig bod y rheoliadau presennol yn parhau i fod ar waith. Mae’n rhaid i mi ddweud, o ran y mater o fisâu gwaith rhanbarthol, mae hwnnw'n fater nad yw Llywodraeth y DU wedi ei wrthod hyd yma. Felly, mae'n fater diddorol. Ceir materion ymarferol y byddai angen eu datrys—nid oes dwywaith am hynny—ond mae'n rhywbeth yr ydym ni’n awyddus i ymchwilio iddo, yn sicr, ar hyn o bryd.
Brif Weinidog, un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu gofal iechyd yn yr unfed ganrif ar hugain yw'r cynnydd sylweddol mewn ymwrthedd gwrthficrobaidd. Cafwyd rhai achosion yn Tsieina, lle gwelwyd ymwrthedd i wrthfiotigau cyfle olaf. Oni bai fod camau llym yn cael eu cymryd, byddwn yn byw yn y byd a oedd yn bodoli cyn darganfod penisilin, lle'r oedd pobl yn marw o'r clefydau mwyaf syml. Mae adolygiad O'Neill o ymwrthedd gwrthficrobaidd yn argymell newidiadau i’r gadwyn ymchwil a datblygu gwrthfiotig ac ymyrraeth gan y G20. Pa drafodaeth y mae eich Llywodraeth wedi ei chael gyda Phrif Weinidog y DU am y mater hwn, ac a wnewch chi ymuno â mi i alw ar Lywodraeth y DU i arwain y ffordd o ran mynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd?
Mae rheoli ac amddiffyn rhag clefydau yn fater rhyngwladol sydd angen y cydweithrediad rhyngwladol mwyaf posibl. Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd wedi bod yn broblem ers rhai blynyddoedd. Rydym wedi gweld, er enghraifft, ymddangosiad mathau o TB sy’n ymwrthod cyffuriau. Rydym ni hefyd yn gweld, er enghraifft, rai cyflyrau nad yw’r hyn a elwir yn wrthfiotigau cyfle olaf, fel vancomycin, hyd yn oed wedi gallu eu gwella. Felly, ydy, mae'n frwydr gyson rhwng dynoliaeth a microbau, os caf ei roi felly, i sicrhau nad ydym yn dechrau symud tuag yn ôl a chanfod nad oes cyffuriau effeithiol mwyach i drin cyflyrau penodol. Ac, felly, mae cydweithrediad rhyngwladol yn hynod bwysig i wneud yn siŵr ein bod ni’n aros ar flaen y gad.