Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 7 Chwefror 2017.
Mae rheoli ac amddiffyn rhag clefydau yn fater rhyngwladol sydd angen y cydweithrediad rhyngwladol mwyaf posibl. Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd wedi bod yn broblem ers rhai blynyddoedd. Rydym wedi gweld, er enghraifft, ymddangosiad mathau o TB sy’n ymwrthod cyffuriau. Rydym ni hefyd yn gweld, er enghraifft, rai cyflyrau nad yw’r hyn a elwir yn wrthfiotigau cyfle olaf, fel vancomycin, hyd yn oed wedi gallu eu gwella. Felly, ydy, mae'n frwydr gyson rhwng dynoliaeth a microbau, os caf ei roi felly, i sicrhau nad ydym yn dechrau symud tuag yn ôl a chanfod nad oes cyffuriau effeithiol mwyach i drin cyflyrau penodol. Ac, felly, mae cydweithrediad rhyngwladol yn hynod bwysig i wneud yn siŵr ein bod ni’n aros ar flaen y gad.