<p>Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:36, 7 Chwefror 2017

Mae yna gonsýrn yn ardal Bae Colwyn bod yna feddygfa yn cau. Mae yna feddygfeydd eraill o dan bwysau ac mae yna dri o’r meddygfeydd, a dweud y gwir, gyda dim ond un meddyg teulu. Mae hi’n ardal, wrth gwrs, lle mae’r uned mân anafiadau yn Hesketh Road wedi cau ers rhai blynyddoedd. Mae yna boblogaeth hŷn na’r cyfartaledd yn yr ardal honno, ac, wrth gwrs, mae yna gannoedd o dai nawr yn cael eu codi o ganlyniad i’r cynllun datblygu lleol. A fyddech chi’n cytuno â fi bod sefyllfa o’r fath yn anghynaliadwy? Ac, a allwch chi ddweud beth rydych chi’n ei wneud i helpu’r bwrdd iechyd lleol i gwrdd â’r cynnydd sylweddol yn y galw, oherwydd mae’r galw yn mynd lan, ond mae’r ddarpariaeth, wrth gwrs, yn mynd lawr?