Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 7 Chwefror 2017.
Wel, wrth gwrs, rydym ni wedi gweld enghreifftiau lle mae meddygfeydd wedi dweud nad ydyn nhw eisiau aros ar agor ddim rhagor, ond, wrth gwrs, mae’r bwrdd iechyd wedi hynny yn sefydlu system er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth ar gael. Mae Prestatyn yn enghraifft o hynny, lle mae’r gwasanaeth nawr yn well na beth oedd yna o’r blaen, gyda’r meddygfeydd a oedd yna. Felly, mae profiad gyda’r bwrdd iechyd ynglŷn â sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau yn y pen draw, a, hefyd, fod y gwasanaeth yn fwy eang, ac yn well.