Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 7 Chwefror 2017.
Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, fel yr wyf wedi dweud wrthych lawer gwaith yn y Siambr hon, rydych chi wedi nodi addysg, yn gwbl briodol, fel blaenoriaeth i’ch stiwardiaeth fel Prif Weinidog yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Yr wythnos diwethaf, yn y pwyllgor addysg, rhoddwyd tystiolaeth a oedd yn dangos bod nifer yr athrawon yn ein hysgolion wedi gostwng gan dros 1,000 ers 2010. Os yw addysg yn flaenoriaeth i chi, pam ydych chi wedi caniatáu i nifer yr athrawon sy'n addysgu yn ein hysgolion i ostwng gan dros 1,000 rhwng 2010 a 2015?