<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:40, 7 Chwefror 2017

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, fel yr wyf wedi dweud wrthych lawer gwaith yn y Siambr hon, rydych chi wedi nodi addysg, yn gwbl briodol, fel blaenoriaeth i’ch stiwardiaeth fel Prif Weinidog yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Yr wythnos diwethaf, yn y pwyllgor addysg, rhoddwyd tystiolaeth a oedd yn dangos bod nifer yr athrawon yn ein hysgolion wedi gostwng gan dros 1,000 ers 2010. Os yw addysg yn flaenoriaeth i chi, pam ydych chi wedi caniatáu i nifer yr athrawon sy'n addysgu yn ein hysgolion i ostwng gan dros 1,000 rhwng 2010 a 2015?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Cofiwch, wrth gwrs, nad yw tâl ac amodau athrawon wedi eu datganoli ac na fyddan nhw’n cael eu datganoli tan y flwyddyn nesaf, felly mae gan ei blaid ef gyfrifoldeb am ariannu’r mater penodol hwnnw. Bydd rhai ysgolion, wrth gwrs, lle y mae niferoedd wedi gostwng ac, o ganlyniad, mae aelodau staff addysgu wedi gostwng. Ond rydym ni’n edrych ymlaen nawr, y flwyddyn nesaf, at weithio gyda'r proffesiwn addysgu i ddatblygu pecyn telerau ac amodau cwbl gynhwysfawr i wneud yn siŵr bod addysgu yn parhau i fod yn ddeniadol.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 1:41, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Mae bob amser yn fai ar rywun arall yn eich tyb chi, Brif Weinidog, onid yw? A bod yn deg, mae nifer y disgyblion yn ein hysgolion wedi aros yn gymharol sefydlog, ac eto rydym ni wedi gweld mwy na 1,000 o athrawon yn diflannu o'r ystafelloedd dosbarth, mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru yn ystod eich cyfnod chi.

Yr hyn a ddaeth i'r amlwg yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf hefyd oedd bod y bwlch ariannu rhwng yr hyn a ariennir yn Lloegr wedi ymestyn o £31 y disgybl yn 2001 i £607 yn 2015. Felly, nid yn unig yr ydym ni’n cael llai o athrawon yn yr ystafell ddosbarth, ond mae eich Llywodraeth yn sicrhau bod llai o arian ar gael i’r athrawon hynny ei ddefnyddio i addysgu disgyblion Cymru. Beth ydych chi'n mynd i'w wneud ynglŷn â chau'r bwlch hwnnw pan ddaw at gyllid?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:42, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’n tynnu fy nghoes, does bosib? Mae ef yn cynrychioli plaid a oedd eisiau torri gwariant ar addysg yn y cyfnod cyn yr etholiad diwethaf. Roedd eisiau torri 12 y cant ar y gwariant ar addysg a chymryd arian oddi wrth ysgolion. Pe byddai ef wedi bod yn fy swydd i nawr, byddai ysgolion wedi colli cyllid, byddai gennym ni lai o athrawon a llai o lwyddiannau yn ein hysgolion. Rydym ni wedi cadw ein haddewidion ar ariannu ysgolion; rydym ni wedi gwneud yn siŵr bod ysgolion wedi cael eu hariannu'n briodol; rydym ni wedi gweld gwelliant yng nghanlyniadau TGAU; rydym ni’n gweld gwelliant yng nghanlyniadau Safon Uwch; gwelsom y canlyniadau categoreiddio o’r wythnos diwethaf, lle’r oedd ysgolion wedi gwella; rydym ni wedi darparu arian i helpu’r rhai hynny o gefndiroedd difreintiedig; rydym ni wedi helpu’r ysgolion hynny, yn ariannol, nad ydyn nhw’n perfformio fel y dylen nhw, i ddechrau gwella. Mae gennym ni hanes da o ran addysg ac nid y toriadau y byddai ef yn eu cynnig.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Wel, yn amlwg, mae’n rhaid eich bod chi wedi bod yn byw mewn gwahanol fydysawd, oherwydd nid oedd gennym ni unrhyw gynigion ar gyfer toriadau ym maes addysg yn etholiadau diwethaf y Cynulliad. Yn rhyfedd braidd, mae’n rhaid eich bod chi wedi bod yn byw mewn gwahanol fydysawd. Yr hyn yr ydym ni wedi ei gael ers y Nadolig yw canlyniadau’r rhaglen ryngwladol asesu myfyrwyr; rydym ni wedi cael yr adroddiad Estyn sydd wedi dangos yn eglur bod addysg, yn ystod eich cyfnod chi, naill ai wedi gwaethygu neu wedi aros yn ei unfan. Mae hynny’n ffaith—adroddiad Estyn a chanlyniadau PISA yw hynny, Brif Weinidog. Mae hynny'n ffaith, ac roedd y dystiolaeth a roddwyd i'r pwyllgor addysg yr wythnos diwethaf yn cyfeirio’n eglur at lai o athrawon a llai o arian ar gael mewn ysgolion yma yng Nghymru.

Felly, y broblem sydd gennych chi yn awr, o ran y newyddion, heddiw, yw bod y broses o gyflwyno’r cwricwlwm newydd hefyd yn peri problemau pan ddaw at arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol, yn ogystal â’r ffaith nad yw ysgolion arloesi yn gwybod yn union i ba gyfeiriad y maen nhw'n mynd o ran cyflwyno’r cwricwlwm newydd. Sut allwch chi roi unrhyw sicrwydd eich bod chi’n mynd i gywiro camgymeriadau eich tymor cyntaf yn y swydd, fel y gall disgyblion, athrawon a rhieni weld gwelliant gwirioneddol mewn ysgolion? Neu a ydym ni’n mynd i fod ar y daith ddirgel y dywedodd Gweinidog addysg yr Alban, John Swinney, y mae eu system nhw’n mynd arni ar hyn o bryd? A ydych chi’n barod i ganiatáu i ysgolion Cymru fynd ar daith ddirgel, Brif Weinidog?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:44, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Nid oes gennyf unrhyw syniad beth mae'n ei olygu wrth ddweud hynny. Os hoffai unrhyw un esbonio hynny i gyd, yna dyna ni. Nid wyf am adael iddo ddianc yn groeniach ar hyn, iawn? Mae wedi ymladd etholiadau ar sail toriad o 12 y cant i gyllid addysg. Mae hynny'n ffaith. Mae hynny'n ffaith. Safodd fel ymgeisydd Ceidwadol yn yr etholiad yn 2011 pan aeth ei arweinydd ar deledu byw—teledu byw—a dweud bod angen i ni dorri 20 y cant ar addysg. Mae'n wir, mae tystiolaeth; nid y ffeithiau gwahanol y mae ef eisiau eu cyflwyno. A beth ydym ni’n ei weld? Rydym ni’n gweld rhaglen adeiladau ysgol—ysgolion newydd yn agor ledled Cymru. Bydd yr Aelodau yn gweld ble maen nhw. Pe byddai ef wedi bod wrth y llyw, ni fyddai dim wedi cael ei adeiladu, gan na fyddai rhaglen adeiladau ysgol, gan fod ei blaid ef wedi torri'r rhaglen adeiladau ysgol yn Lloegr. Ni fyddem wedi gweld y gwelliant mewn ysgolion o ran categoreiddio; ni fyddem wedi gweld y grant amddifadedd disgyblion; ni fyddem wedi gweld yr arian yr ydym ni wedi ei roi i mewn i Her Ysgolion Cymru; ni fyddem wedi gweld y gwelliannau o ran TGAU ac ni fyddem wedi gweld y gwelliannau o ran Safon Uwch. Na. Mae'n iawn dweud, o dan y Ceidwadwyr Cymreig, y byddai addysg yng Nghymru wedi cael ei thaflu i'r bin sbwriel.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:45, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Leader of the UKIP group, Neil Hamilton.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Bydd y Prif Weinidog yn gwybod fy mod i’n gefnogwr brwd o bolisi Llywodraeth Cymru o sicrhau 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac rwy'n edmygu’n fawr y Gweinidog dysgu gydol oes, sy'n dod â'i sgiliau diplomyddol ac arweinyddiaeth chwedlonol i gyflawni’r amcan hwnnw. Yn benodol, rwy’n cymeradwyo’r egwyddor sylfaenol o oddefgarwch a pharch, i siaradwyr Saesneg ac i siaradwyr Cymraeg, y mae wedi ei gyfrannu at ddatblygiad y polisi hwn, yr wyf yn credu sydd wedi ei gwneud yn bosibl ei werthu y tu hwnt i ardaloedd lle y gallai fod wedi ei werthu fel arall.

A yw'r Prif Weinidog yn credu bod llwyddiant y polisi hwn gan Lywodraeth Cymru yn cael ei roi mewn perygl gan Gyngor Sir Caerfyrddin, a reolir gan Blaid Cymru, sy'n gorfodi ysgol Gymraeg ar bobl yn Llangennech ger Llanelli, yn erbyn dymuniadau llethol y rhan fwyaf o rieni yn y pentref hwnnw?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:46, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, materion i Gyngor Sir Caerfyrddin yw’r rhain. Mae’n rhaid iddyn nhw wneud asesiad o ran yr hyn y maen nhw’n ei ystyried yw’r ateb cywir i unrhyw ardal benodol o fewn eu ffiniau sirol.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'r strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn dweud y dylai Cymru fod yn wlad lle y gall pobl ddewis byw eu bywydau trwy gyfrwng y naill neu’r llall, neu'r ddwy, Cymraeg neu Saesneg, ac rwy'n credu bod hynny'n amcan rhesymol iawn. Yma rydym ni wedi cael proses ymgynghori yn Llangennech, 18 mis ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud, lle y mae pump o bobl wedi gwrthwynebu'r cynnig ar gyfer pob un o blaid, a bu 757—sy’n nifer enfawr mewn pentref bach—o ymatebion yn erbyn y cynnig hwn gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Nid ymgynghoriad yw hwn, ond 'dimgynghoriad'.

A yw'n cytuno â Michaela Beddows, sy'n arwain y bobl sydd yn erbyn y cynnig hwn, pan fo’n dweud bod 'Cymraeg drwy orfodaeth yn magu dicter'?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Fel y dywedais, materion i Gyngor Sir Caerfyrddin yw’r rhain. Fel Llywodraeth, rydym ni’n gefnogol o'r Gymraeg, wrth gwrs, rydym ni eisiau gweld cynnydd i addysg cyfrwng Cymraeg a mwy o blant yn cymryd rhan ynddi. Ond, yn y pen draw, mater i Gyngor Sir Caerfyrddin yw cyfiawnhau'r penderfyniadau y mae'n eu gwneud, o ystyried yr etholiadau sydd i ddod ym mis Mai, wrth gwrs.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:47, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n cytuno mai dyna'r sefyllfa gyfansoddiadol, ond mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru—oherwydd polisi Llywodraeth Cymru yw hwn i wella cyflwr y Gymraeg yng Nghymru, a sicrhau bod ei hapêl a’i chyrhaeddiad mor fawr â phosibl—gael dylanwad perswadiol yma. Ceir ateb ymarferol i'r broblem hon, gan fod tair ysgol cyfrwng Cymraeg yn Llanelli ar hyn o bryd sydd â 170 o leoedd dros ben, mae 120 o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg o’r tu allan i'r ardal yn dod i mewn i'r ysgol yn Llangennech ar hyn o bryd, ac mae 81 o ddisgyblion cyfrwng Saesneg yn cael eu symud allan o'r ysgol yn Llangennech. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw cael ateb ymarferol ar lawr gwlad sy'n bodloni'r ddwy ochr. Gellir gwneud hynny heb beryglu derbynioldeb yr hyn sydd, fel arall, rwy’n meddwl, yn bolisi ardderchog sy'n dangos y ffordd i’r Gymraeg.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:48, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'r rhain yn faterion y byddwn wedi disgwyl i Gyngor Sir Caerfyrddin eu hystyried wrth wneud y penderfyniad a wnaeth. Nid yw'n fater i Lywodraeth Cymru ymyrryd, ond mae'n bwysig, wrth gwrs, fod unrhyw awdurdod lleol yn ystyried barn y rhai sy'n byw yn lleol, gan bwyso a mesur, wrth gwrs, yr anogaeth yr ydym ni’n ei rhoi fel Llywodraeth i gefnogi'r Gymraeg. Ond, yn y pen draw, mae’n fater i'r cyngor benderfynu arno ac, wrth gwrs, ei esbonio.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Plaid Cymru Leader, Leanne Wood.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n siŵr y byddai Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwerthfawrogi mwy o gefnogaeth gennych chi, Brif Weinidog, wrth ystyried y Gymraeg, ond hoffwn droi at fater o wahaniaethau incwm. [Torri ar draws.] Brif Weinidog, wrth ystyried gwahaniaethau rhwng incwm rhanbarthau—.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

A gawn ni glywed arweinydd Plaid Cymru os gwelwch yn dda?

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Pan ddaw i wahaniaethau rhwng incwm ei rhanbarthau a’i gwledydd, mae'r DU yn un o'r gwladwriaethau mwyaf anghyfartal yn Ewrop, ac mae Cymru yn dioddef o’r anghydbwysedd hwn hefyd. Er mwyn mynd i'r afael â'r anghydbwysedd hwn, mae angen swyddi sector cyhoeddus sydd o ansawdd da yn ein trefi marchnad a’n trefi ôl-ddiwydiannol. Mae Cyllid a Thollau EM, yr Adran Gwaith a Phensiynau a'r ganolfan waith yn symud swyddi o drefi sy'n dioddef o gyflogau isel, fel Porthmadog, Llanelli, a Phorth yn y Rhondda, ac mae swyddi yn cael eu symud i fannau mwy canolog. Nid dim ond adrannau Llywodraeth y DU sy’n gwneud hyn; mae ymgynghoriad ar symud swyddi’r gwasanaeth ambiwlans o Sir Gaerfyrddin i Ben-y-bont ar Ogwr. A ydych chi’n cydnabod yr agenda ganoli hon, ac a ydych chi’n pryderu am swyddi a gwasanaethau yn cael eu symud allan o gymunedau i nifer lai o leoliadau?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:49, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Ydw, ac rwy’n gresynu’n fawr y penderfyniad a wnaed gan Gyllid a Thollau EM ym Mhorthmadog a lleoliadau eraill, gan gynnwys fy nhref fy hun rai blynyddoedd yn ôl. Yn yr un modd, yn sicr, rwy'n pryderu am fanciau masnachol yn gadael nifer o'n cymunedau, a'r angen i sicrhau, er enghraifft, y gall swyddfa’r post wedyn gynnig yr un mathau o wasanaethau y mae'r banc yn eu cynnig. Mae hynny'n dibynnu, wrth gwrs, ar bresenoldeb y swyddfeydd post hefyd, a dyna pam, wrth gwrs, yr oedd gennym ni’r gronfa datblygu swyddfeydd post ar waith a helpodd gymaint o gymunedau i gadw'r gwasanaeth hwnnw.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:50, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n rhannu eich pryder am y swyddfeydd post a’r banciau, a cheir pryder gwirioneddol ynghylch hyfywedd canol rhai o'n trefi os bydd yr agenda hon yn parhau. Gwyddom beth yw agenda Llywodraeth y DU, ond, Brif Weinidog, mae gennych chi ysgogwyr hefyd i wrthsefyll hyn trwy Awdurdod Refeniw Cymru. Byddai Plaid Cymru yn cytuno bod ystâd ddiwydiannol Trefforest yn lleoliad gwell na Chaerdydd, ond mae’r penderfyniad hwnnw yn golygu bod Porthmadog a Wrecsam yn teimlo y gwnaed tro gwael iawn â nhw, ac mae angen cynnig arall arnyn nhw yn awr. Felly, pa gynlluniau sydd gennych chi i gefnogi presenoldeb sector cyhoeddus Cymru yn y gogledd-orllewin a hefyd yn Wrecsam? Rydych chi wedi dweud y bydd gan Awdurdod Refeniw Cymru bresenoldeb yn Aberystwyth a Llandudno; faint o swyddi mae 'presenoldeb' yn ei gynrychioli? Ac o ran y targedau sydd gennych chi ar gyfer dosbarthu swyddi Llywodraeth Cymru ledled y wlad, a ydych chi ar y trywydd iawn i fodloni’r targedau hynny?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:51, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

O ran nifer y swyddi, 40 fydd cyfanswm y swyddi yn Awdurdod Refeniw Cymru. Bydd rhai pobl a fydd yn gallu gweithio gartref. Edrychais yn ofalus dros ben ar ble y gellid lleoli’r Awdurdod, a chomisiynwyd adroddiad i'r perwyl hwnnw, a dylai’r Aelodau wybod y rhoddwyd yr adroddiad hwnnw, rwy’n credu, yn y Llyfrgell ddydd Gwener. Mae'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer Awdurdod Refeniw Cymru ar hyn o bryd yn sgiliau nad ydyn nhw ar gael yng Nghymru i unrhyw raddau helaeth. Nid ydyn nhw yr un sgiliau â’r rhai sydd gan bobl ym Mhorthmadog. Mae'n rhaid i ni recriwtio o'r tu allan i Gymru, ar y cyfan, er mwyn i’r sgiliau hynny fod ar gael i ni pan fydd Awdurdod Refeniw Cymru yn dechrau ym mis Ebrill. Gwnaed yn eglur iawn i mi mai dod â phobl i Gaerdydd i weithio oedd y dewis hawddaf o ran recriwtio pobl, ond, wrth gwrs, nid yw hynny'n golygu yn y dyfodol na all y corff ailystyried lle y gallai fynd. Ond, ar hyn o bryd, yn sicr, bydd y corff yn mynd i Drefforest, a dyna oedd y cyngor cryf—hwnnw oedd y lleoliad mwyaf ffafriol o bell ffordd o ran gallu denu'r bobl â sgiliau arbenigol, y mae llawer ohonynt yn Llundain ar hyn o bryd.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:52, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, os oes prinder sgiliau yng Nghymru, eich cyfrifoldeb chi yw hynny. Chi sy'n gyfrifol am sgiliau pobl yn y wlad hon.

Fodd bynnag, hoffwn symud ymlaen at drafnidiaeth yn awr. Flwyddyn yn ôl, cyflwynwyd cynllun gennych ar gyfer metro gogledd Cymru, ac ni lwyddodd y cynllun hwnnw i gynnwys Gwynedd, Conwy nac Ynys Môn, er ei fod yn cynnwys Swydd Gaer, Lerpwl a Manceinion. Mae'r mapiau yn dangos bod llawer o'r llwybrau yn llwybrau rheilffyrdd a bysiau presennol, a dyfynnwyd eich ysgrifennydd economi gan y BBC yn dweud y byddai £50 miliwn ar gael ar gyfer hyn. A ydych chi wir yn credu bod £50 miliwn yn ddigon i ddarparu metro mewn gwirionedd? A wnewch chi ymrwymo heddiw i’r ffaith y bydd y ddwy system fetro sy'n cael eu cynllunio yng Nghymru yn cychwyn yn y mannau sydd bellaf i ffwrdd o'r trefi a'r dinasoedd poblog, fel y gall y bobl hynny sy'n teimlo’n bell o'r sefydliad hwn, o’r canolfannau a'r ffyrdd prifwythiennol, weld rhywfaint o fudd cynnar o’r buddsoddiad hwn mewn trafnidiaeth?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:53, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf oll, bydd Awdurdod Refeniw Cymru yn weithredol ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Mae angen pobl arno’n gyflym; nid yw'n bosibl hyfforddi pobl yn y sgiliau arbenigol yn yr amser sydd ar gael, a dyna oedd y—

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Rydych chi’n gwybod am hyn ers blynyddoedd.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

A dyna oedd y farn a gymerwyd gennym. Nid yw’n bosibl hyfforddi’n sydyn a chael cronfa o bobl fedrus mewn cyfnod byr iawn o amser. Mae'r bobl hynny yn Llundain, ar y cyfan, ar hyn o bryd; maen nhw’n arbenigwyr, ac rydym ni’n ceisio eu recriwtio. Nid yw'r sgiliau hyn yn bodoli, ar y cyfan, yng Nghymru.

O ran trafnidiaeth, ein syniad ni oedd y metro. Wrth gwrs ein bod ni eisiau ei hyrwyddo. Ein syniad ni oedd metro gogledd-ddwyrain Cymru, soniwyd am fetro de Cymru am y tro cyntaf gennyf i yng nghlwb rygbi Bedwas yn 2008, o bob man, ac rydym ni’n gweld datblygiad o ran hynny. Mae'r gwaith datblygu ar fetro gogledd-ddwyrain Cymru yn symud ymlaen ac, wrth gwrs, byddwn yn parhau i gefnogi trafnidiaeth ym mhob rhan o Gymru. Rydym ni wedi galw’n ddi-baid am drydaneiddio prif reilffordd y gogledd cyn belled â Chaergybi, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni eisiau gweld Llywodraeth y DU yn ei wneud yn y dyfodol. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr, wrth i ni ystyried metro gogledd-ddwyrain Cymru, y gall, ymhen amser, geisio ehangu i’r gorllewin wedyn. Nid yw’r rhain yn systemau metro sydd wedi'u cynllunio i fod yn hunangynhaliol; maen nhw’n systemau sydd wedi eu cynllunio i gael eu hymestyn yn y dyfodol.