<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:46, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'r strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn dweud y dylai Cymru fod yn wlad lle y gall pobl ddewis byw eu bywydau trwy gyfrwng y naill neu’r llall, neu'r ddwy, Cymraeg neu Saesneg, ac rwy'n credu bod hynny'n amcan rhesymol iawn. Yma rydym ni wedi cael proses ymgynghori yn Llangennech, 18 mis ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud, lle y mae pump o bobl wedi gwrthwynebu'r cynnig ar gyfer pob un o blaid, a bu 757—sy’n nifer enfawr mewn pentref bach—o ymatebion yn erbyn y cynnig hwn gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Nid ymgynghoriad yw hwn, ond 'dimgynghoriad'.

A yw'n cytuno â Michaela Beddows, sy'n arwain y bobl sydd yn erbyn y cynnig hwn, pan fo’n dweud bod 'Cymraeg drwy orfodaeth yn magu dicter'?