Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 7 Chwefror 2017.
Wel, mae'r rhain yn faterion y byddwn wedi disgwyl i Gyngor Sir Caerfyrddin eu hystyried wrth wneud y penderfyniad a wnaeth. Nid yw'n fater i Lywodraeth Cymru ymyrryd, ond mae'n bwysig, wrth gwrs, fod unrhyw awdurdod lleol yn ystyried barn y rhai sy'n byw yn lleol, gan bwyso a mesur, wrth gwrs, yr anogaeth yr ydym ni’n ei rhoi fel Llywodraeth i gefnogi'r Gymraeg. Ond, yn y pen draw, mae’n fater i'r cyngor benderfynu arno ac, wrth gwrs, ei esbonio.