<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:49, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Ydw, ac rwy’n gresynu’n fawr y penderfyniad a wnaed gan Gyllid a Thollau EM ym Mhorthmadog a lleoliadau eraill, gan gynnwys fy nhref fy hun rai blynyddoedd yn ôl. Yn yr un modd, yn sicr, rwy'n pryderu am fanciau masnachol yn gadael nifer o'n cymunedau, a'r angen i sicrhau, er enghraifft, y gall swyddfa’r post wedyn gynnig yr un mathau o wasanaethau y mae'r banc yn eu cynnig. Mae hynny'n dibynnu, wrth gwrs, ar bresenoldeb y swyddfeydd post hefyd, a dyna pam, wrth gwrs, yr oedd gennym ni’r gronfa datblygu swyddfeydd post ar waith a helpodd gymaint o gymunedau i gadw'r gwasanaeth hwnnw.