Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 7 Chwefror 2017.
O ran nifer y swyddi, 40 fydd cyfanswm y swyddi yn Awdurdod Refeniw Cymru. Bydd rhai pobl a fydd yn gallu gweithio gartref. Edrychais yn ofalus dros ben ar ble y gellid lleoli’r Awdurdod, a chomisiynwyd adroddiad i'r perwyl hwnnw, a dylai’r Aelodau wybod y rhoddwyd yr adroddiad hwnnw, rwy’n credu, yn y Llyfrgell ddydd Gwener. Mae'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer Awdurdod Refeniw Cymru ar hyn o bryd yn sgiliau nad ydyn nhw ar gael yng Nghymru i unrhyw raddau helaeth. Nid ydyn nhw yr un sgiliau â’r rhai sydd gan bobl ym Mhorthmadog. Mae'n rhaid i ni recriwtio o'r tu allan i Gymru, ar y cyfan, er mwyn i’r sgiliau hynny fod ar gael i ni pan fydd Awdurdod Refeniw Cymru yn dechrau ym mis Ebrill. Gwnaed yn eglur iawn i mi mai dod â phobl i Gaerdydd i weithio oedd y dewis hawddaf o ran recriwtio pobl, ond, wrth gwrs, nid yw hynny'n golygu yn y dyfodol na all y corff ailystyried lle y gallai fynd. Ond, ar hyn o bryd, yn sicr, bydd y corff yn mynd i Drefforest, a dyna oedd y cyngor cryf—hwnnw oedd y lleoliad mwyaf ffafriol o bell ffordd o ran gallu denu'r bobl â sgiliau arbenigol, y mae llawer ohonynt yn Llundain ar hyn o bryd.