1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 7 Chwefror 2017.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dyrannu ffyniant economaidd ar draws Cymru? OAQ(5)0428(FM)[W]
Mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn nodi ein hymrwymiadau i sicrhau cymunedau cadarn a ffyniant i bawb. Bydd ffyniant economaidd yn sail i bedair strategaeth drawsbynciol a fydd yn cael eu cyhoeddi yn y gwanwyn.
Fel yr ydym ni wedi ei glywed, fe gafwyd cyhoeddiad mai i Drefforest y bydd pencadlys Awdurdod Refeniw Cymru yn mynd. Ar ôl gweld yr arfarniad yr oeddech chi’n sôn amdano fo ar sut y dewiswyd y lleoliad, roedd y meini prawf yn ei gwneud hi’n gwbl amhosibl i unrhyw beth ddod i’r gogledd, nac i unrhyw le y tu hwnt i gyrraedd hawdd i Gaerdydd. Roedden nhw’n ymwneud â sgiliau—un ohonyn nhw—ond yr oedd dau yn ymwneud â bod yn agos at randdeiliaid ac yn agos at gwsmeriaid. Nid oedd Caernarfon na Phorthmadog ar y rhestr o’r chwe lleoliad a oedd yn cael eu hystyried gan y Llywodraeth, er gwaethaf beth ddywedoch chi wrthym ni yn fan hyn ar 10 Ionawr. A wnewch chi roi sylw manwl i’r angen am feini prawf newydd wrth ystyried lleoli swyddi—meini prawf a fydd yn caniatáu gwasgaru twf ar draws Cymru? Fel arall, geiriau gwag iawn ydy’r rhai diweddar gan y Blaid Lafur yn fan hyn ac yn San Steffan gan eich Canghellor cysgodol, John McDonnell.
Mae’n rhaid i ni gofio realiti fan hyn ac mae’n bwysig dros ben i sylweddoli fod yn rhaid i ni sicrhau ei bod hi’n ddigon hawdd i gael yr arbenigedd sydd ei eisiau arnom ni. Rŷm ni’n gwybod ei bod hi’n rhwyddach i wneud hynny mewn rhai rhannau o Gymru nac eraill. Nid yw hynny’n meddwl, wrth gwrs, nad oes rôl na rhan i’r gogledd, na hefyd i’r canolbarth, a dyna pam rŷm ni’n moyn sicrhau bod yna swyddfeydd fanna hefyd er mwyn rhoi gwasanaeth i gwsmeriaid. Ond, rŷm ni yn siarad am swyddi sydd ag arbenigedd sydd ddim ar gael yng Nghymru, fwy neu lai. Mae’r rhan fwyaf o’r bobl yn mynd i ddod o Lundain ac felly mae’n rhaid i ni sylweddoli taw swyddi gwahanol ydyn nhw i’r swyddi a gafodd eu creu ym Mhorthmadog. Ond, byddwn i’n moyn gweld mewn amser, wrth gwrs, gyfleon i bobl mewn trefi fel Porthmadog i ddod yn rhan o’r awdurdod yn y pen draw pan fydd yr awdurdod yn tyfu.
Brif Weinidog, ddoe, dechreuodd Ysgrifennydd yr economi wythnos o gyhoeddiadau am swyddi gyda'r newyddion rhagorol bod y BBI Group yn crynhoi ac yn ehangu ei weithrediadau gweithgynhyrchu yn y DU ar un safle yng Nghrymlyn, yn fy etholaeth i, ym Mharc Technoleg Border. Mae hyn, i raddau helaeth, o ganlyniad i grant gan Lywodraeth Cymru o £1.8 miliwn, a bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn arwain at y gyflogaeth BBI hon yng Nghymru yn cynyddu—yn dyblu bron—erbyn 2020, a bydd yn cynnig cyfleoedd gyrfaol ardderchog ac o ansawdd yn rhanbarth cymoedd de Cymru, gan feithrin cysylltiadau agosach â’r gymuned academaidd wyddonol, a bydd yn rhoi hwb sylweddol i'r economi leol. Brif Weinidog, onid yw hyn yn dystiolaeth bellach fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu dosbarthu ffyniant economaidd ledled Cymru? A phryd all y Prif Weinidog ddod i Islwyn nesaf i ddathlu'r newyddion gwych hyn?
Wel, rwy'n siŵr y byddaf yn ymweld ag Islwyn yn fuan, ond mae cyhoeddiad BBI yn arwydd o'r gwaith caled a wnaed gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau ledled y wlad i'w helpu i gadw ac i ehangu eu gweithrediadau yma. Roeddwn i’n falch iawn bod buddsoddiad a chefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi caniatáu i nifer y gweithwyr BBI Group yng Nghymru dyfu, yn enwedig gan y bydd y rhain yn swyddi rheoli, yn swyddi gwyddonol ac yn swyddi technegol o ansawdd. Yn ogystal â hynny, roedd yn bleser i mi gael treulio amser yn y gogledd bythefnos yn ôl i weld rhai o'r prosiectau ardderchog sydd wedi eu datblygu yno hefyd, o ran creu swyddi ym meysydd twristiaeth ac addysg.
Brif Weinidog, nod strategaeth ddiwydiannol y DU yw cau’r bylchau mewn cynhyrchiant rhanbarthol. Yma, yng Nghymru, mae cynhyrchiant rhanbarthol yn amrywio'n fawr, gydag Ynys Môn â 53 y cant o werth ychwanegol gros y DU, o’i gymharu â 90 y cant yng Nghaerdydd. Mae eich Llywodraeth wedi datgan yn y gorffennol fod amrywiadau yn lefelau gwerth ychwanegol gros y pen yn cael eu heffeithio gan batrymau cymudo. Er bod Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £80 miliwn o gyllid Ewropeaidd at wella ffyrdd Blaenau'r Cymoedd, mae’r canolbarth a’r gogledd wedi dioddef cysylltedd trafnidiaeth gwael yn draddodiadol. Nodaf eithriad, wrth gwrs, ffordd osgoi'r Drenewydd, sy’n gwneud cynnydd da. A gaf i ofyn beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i gau'r bylchau rhanbarthol hyn o ran ffyniant economaidd a achosir gan seilwaith trafnidiaeth annigonol?
Wel, mae wedi dadlau yn erbyn ei hun braidd trwy ddweud bod diffyg seilwaith pan fo ffordd osgoi'r Drenewydd, yn wir, yn cael ei hadeiladu. Mae hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, sy’n hynod bwysig. Rydym ni wedi gweld gwelliannau ar yr A470 dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf o ran sythu’r ffordd. Rydym ni wedi gweld hyn yn ddiweddar yn Nolgellau, er enghraifft; a, dros y blynyddoedd, Cross Foxes; Pont-yr-Afanc; ymhellach i'r de yng Nghwmbach Llechryd, gyda'r ffordd osgoi; a Christmas Pitch, fel y’i gelwir, ar y ffordd o Erwyd. Felly, ceir llawer iawn o enghreifftiau lle mae'r A470 wedi cael ei chryfhau. Ac, wrth gwrs, o ran y rhwydwaith rheilffyrdd, rydym ni wedi gweld gwelliannau o ran gwasanaethau i deithwyr drwy'r etholaeth y mae’n ei chynrychioli, a cheir cyfleoedd pwysig yn y dyfodol, i wella'r gwasanaeth ac i ystyried gorsafoedd newydd o bosibl. Mae Bow Street yn enghraifft o hynny. Felly, rydym ni wedi dangos ein hymrwymiad i drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat.