<p>Datblygu Economaidd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:03, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Roedd incwm y pen Cymru yn 2014 yn 70.5 y cant o gyfartaledd y DU, yr isaf a gofnodwyd erioed ers i gofnodion ddechrau ym 1954 ar gyfer Cymru—yn wir, yr isaf erioed ar gyfer unrhyw wlad neu ranbarth yn y DU. Cynyddodd yn ôl i 71 y cant yn 2015, ond roedd hwnnw’n un o'r ffigurau isaf erioed hefyd. A yw’r Prif Weinidog yn barod i ymrwymo Llywodraeth Cymru na fyddwn yn gweld y ffigur incwm y pen hwn yn gostwng hyd yn oed ymhellach, ond, os gwnaiff, ar ôl wyth mlynedd fel Prif Weinidog, a fyddai'n barod i gymryd cyfrifoldeb personol?