<p>Datblygu Economaidd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:04, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Cofiwch, wrth gwrs, mai ei blaid ef oedd yn gyfrifol am ddatblygu economaidd am bedair blynedd, felly nid yw fel pe na bai gan ei blaid ef unrhyw swyddogaeth yn hyn. Gwelsom CMC yn gostwng bryd hynny, ac mae'n dangos—[Torri ar draws.] Mae'n dangos—[Torri ar draws.] Wel, rwy’n gwybod; mae’n hawdd anghofio hynny, onid yw, ond dyna ni. Mae'n dangos yr heriau sy'n bodoli o ran codi CMC. Yr allwedd i’r cwbl, i mi, yw sgiliau. Po fwyaf y sgiliau sydd gan bobl, y mwyaf y gallan nhw ei ennill, yr uchaf y mae eu CMC yn ei gyrraedd. Rydym ni wedi dangos ein bod yn gallu cyflawni. Fel y dywedais, cyflogaeth 4.1 y cant—is na Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon— y ffigurau gorau ar gyfer buddsoddiad uniongyrchol o dramor ers 30 mlynedd, a CMC yw’r her yn awr. Nid yw diweithdra yn gymaint o broblem â CMC. Mae'n mynd i'r cyfeiriad iawn, a byddwn yn parhau i arfogi ein pobl â'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i gynyddu eu cynhyrchiant, mae cymaint â hynny’n wir, ond hefyd, wrth gwrs, i gynyddu CMC y pen hefyd.