Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 7 Chwefror 2017.
Wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn clywed yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud. Fel y dywedais, mae darpariaethau amgen ar waith, er mai’r bwriad yw ailgychwyn y gwasanaeth. Gallaf ddweud, fodd bynnag, oherwydd y Cynllun Gwên, fod yr arolwg deintyddol diweddaraf yn 2014-15 o blant pum mlwydd oed, yn dangos gostyngiad o 6 y cant yng nghyfran y plant sydd â phrofiad o bydredd dannedd yng Nghymru o'i gymharu â'r arolwg blaenorol, a gynhaliwyd yn 2011-12. A, dros yr wyth mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld gostyngiad o 12 y cant yng nghyfran y plant ag o leiaf un dant sydd wedi ei effeithio gan bydredd, ac mae hynny'n enghraifft o lwyddiant y Cynllun Oes.