1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 7 Chwefror 2017.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau deintyddol yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0441(FM)[W]
Wel, mae’r bwrdd iechyd yn gweithio tuag at wella’r ddarpariaeth o wasanaethau deintyddol ac mae cynnydd wedi cael ei weld. Mae tua 30,000 o gleifion ychwanegol yn defnyddio gwasanaethau deintyddol y gwasanaeth iechyd o’i gymharu â 10 mlynedd yn ôl.
Mae’n bosibl y byddwch chi’n gwybod, Brif Weinidog, mai’r prif reswm y mae plant yn ymweld ag unedau brys y dyddiau yma yw oherwydd pydredd dannedd, ac felly mae’n gwbl allweddol bod gofal deintyddol da yn cael ei ddarparu ar eu cyfer nhw mewn oedran ifanc. Ond, wedi dweud hynny, mae plant ysgolion o ardal y Bala i gyrion Wrecsam wedi colli’r defnydd o ddeintydd symudol a oedd yn dod i’r ysgolion i ymweld â nhw oherwydd nad oedd dim arian yn y gyllideb i brynu cerbyd newydd. Nawr, mae yna gerbyd arall, mae’n debyg, ond mae hwnnw ar hyn o bryd yn gwasanaethu fel deintyddfa barhaol ym Mhwllheli oherwydd diffyg deintyddion yn y fan yna. Mae’r gwasanaeth penodol yna wedi gweld 4,000 o blant yn y flwyddyn ddiwethaf, a 500 o’r rheini ag angen triniaeth bellach. A ydych chi yn cytuno â fi fod colli’r gwasanaeth yna yn gwbl annerbyniol, a beth ŷch chi’n ei wneud i sicrhau ei fod e ar gael yn y dyfodol?
Wel, rhywbeth dros dro yw hwn. Rwy’n gwybod bod y bwrdd iechyd yn edrych ar ffyrdd newydd o sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau yn y pen draw. Maen nhw yn edrych ar unedau ‘mobile’ o ardaloedd eraill er mwyn sicrhau hynny, ac maen nhw yn ystyried cyfleon ynglŷn â chyllido uned ‘mobile’ newydd er mwyn sicrhau bod hynny yn digwydd. Yn y cyfamser, mae yna ofal ar gael yng Nghorwen a Dolgellau, ond rhywbeth dros dro yw hwn, a’r gobaith yw y bydd y gwasanaeth yn ailddechrau yn y pen draw.
Nid yw tua 40 y cant o blant yn ymweld â'r deintydd yn rheolaidd o hyd. Mae traean o blant sy’n dechrau yn yr ysgol bob blwyddyn eisoes yn dangos arwyddion o bydredd dannedd, a dyma’r un rheswm mwyaf cyffredin pam mae’n rhaid i blant rhwng pump a naw oed gael eu derbyn i'r ysbyty. O gofio bod yr uned ddeintyddol symudol hon yn y gogledd wedi dod i ben fis Medi diwethaf, ac mai dim ond nawr y mae'r bwrdd iechyd yn hysbysu am ei gais am arian i brynu cerbyd newydd a’i fwriad i adleoli adnoddau deintyddiaeth symudol eraill i ddarparu cymorth yn yr ardal, onid yw braidd yn hwyr, chwe mis yn ddiweddarach, ac oni ddylid bod wedi ymdrin â hyn fel blaenoriaeth? Ac, os ydych chi’n cytuno â hynny, a wnaiff eich cydweithwyr fynd ar y ffôn â'r bwrdd iechyd a sicrhau, gyda’ch partneriaeth, fod hyn yn cael ei drin fel blaenoriaeth?
Wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn clywed yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud. Fel y dywedais, mae darpariaethau amgen ar waith, er mai’r bwriad yw ailgychwyn y gwasanaeth. Gallaf ddweud, fodd bynnag, oherwydd y Cynllun Gwên, fod yr arolwg deintyddol diweddaraf yn 2014-15 o blant pum mlwydd oed, yn dangos gostyngiad o 6 y cant yng nghyfran y plant sydd â phrofiad o bydredd dannedd yng Nghymru o'i gymharu â'r arolwg blaenorol, a gynhaliwyd yn 2011-12. A, dros yr wyth mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld gostyngiad o 12 y cant yng nghyfran y plant ag o leiaf un dant sydd wedi ei effeithio gan bydredd, ac mae hynny'n enghraifft o lwyddiant y Cynllun Oes.