<p>Cyllid i Fyfyrwyr Ôl-radd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:13, 7 Chwefror 2017

Diolch am yr ateb yna. Efallai y bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol, ar ôl eitem ar newyddion ITV Cymru ychydig o ddyddiau yn ôl, am hanes Emma Stenson o’m hetholaeth i sydd wedi troi at ‘crowdfunding’ i drio helpu talu’i ffordd trwy gwrs ôl-radd i fod yn gynorthwyydd meddygol, neu ‘physician associate’, ym Mangor. Mae gan Emma radd dosbarth cyntaf mewn gwyddorau meddygol, ond mae’n cael trafferth fforddio’r cwrs oherwydd y diffyg gallu iddi hi a myfyrwyr eraill tebyg i gael benthyciad ôl-radd yng Nghymru. Mae’r gwasanaeth iechyd angen Emma, ac felly mae myfyrwyr fel Emma angen y cymorth yna rŵan. Yn ogystal â’r addewid ar gyfer myfyrwyr yn y flwyddyn nesaf, ac wrth gwrs rydym ni’n ddiolchgar am hynny, pa fodd sydd yna i edrych ar fyfyrwyr sydd mewn perig o ollwng allan o gyrsiau rŵan mewn maes lle rydym ni’n wirioneddol angen eu galluoedd nhw?