Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 7 Chwefror 2017.
Wel, wrth gwrs, os yw’r cwrs yn dechrau yn yr hydref eleni, felly, bydd y cymorth ar gael i rywun fel yna. Fe fyddai wedi cael, wrth gwrs, lles lot yn llai na myfyrwyr o Loegr, ynglŷn â’r cwrs y byddai wedi’i wneud o’r blaen. Ond, wrth gwrs, un o’r pethau roedd rhaid inni ei ddatrys oedd sicrhau bod mwy o arian ar gael i’r rheini sy’n dod mas o’r prifysgolion, y graddedigion ôl-radd, er mwyn sicrhau bod yna gymorth ar gael iddyn nhw’n ariannol. Dyna beth yn gwmws sy’n mynd i ddigwydd yn yr hydref.