<p>Safonau Bwyd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:15, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Mae'r rhain, wrth gwrs, wedi eu datganoli. Mater i'r Cynulliad hwn fydd penderfynu beth fydd yn digwydd o ran safonau bwyd. Gwn fod y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyfarfod â chadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn ddiweddar. Rydym ni, wrth gwrs, i bob pwrpas, yn prynu i mewn i wasanaethau’r Asiantaeth Safonau Bwyd. Maen nhw wedi ymrwymo i sicrhau na fydd gadael yr UE yn peryglu safonau diogelwch bwyd o'r radd flaenaf y DU, a ddatblygwyd ar ôl blynyddoedd lawer o broblemau yn y gorffennol, wrth gwrs.