<p>Safonau Bwyd</p>

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

8. Pa sicrwydd y mae'r Prif Weinidog wedi'i gael gan Lywodraeth y DU na ddefnyddir y ffaith ein bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd i wanhau safonau bwyd, a gaiff eu gwarantu ar hyn o bryd drwy ein haelodaeth o'r UE? OAQ(5)0439(FM)

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:15, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Mae'r rhain, wrth gwrs, wedi eu datganoli. Mater i'r Cynulliad hwn fydd penderfynu beth fydd yn digwydd o ran safonau bwyd. Gwn fod y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyfarfod â chadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn ddiweddar. Rydym ni, wrth gwrs, i bob pwrpas, yn prynu i mewn i wasanaethau’r Asiantaeth Safonau Bwyd. Maen nhw wedi ymrwymo i sicrhau na fydd gadael yr UE yn peryglu safonau diogelwch bwyd o'r radd flaenaf y DU, a ddatblygwyd ar ôl blynyddoedd lawer o broblemau yn y gorffennol, wrth gwrs.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:16, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Yn anffodus, ceir dihirod ar draws y byd sy'n awyddus i dreiddio unrhyw wendidau yn ein hamddiffynfeydd ar y mater hwn. Gallwn gofio’r sgandal byrgyrs ceffyl. Yr hyn yr wyf yn poeni amdano yw ei bod hi’n ymddangos bod Theresa May yn gwbl benderfynol i gael cytundeb o ryw fath gyda’r Unol Daleithiau, sydd â safonau llawer is ynghylch tarddiad bwyd na’r wlad hon neu unrhyw ran arall o'r Undeb Ewropeaidd. Felly, pa sicrwydd ydym ni wedi ei gael gan Lywodraeth y DU y bydd yn cadw mewn cof y swyddogaeth bwysig y mae’r asiantaeth safonau bwyd Ewropeaidd yn ei chyflawni o ran sicrhau bod y labeli ar fwyd yn onest, a'n bod ni ar ben ein pethau yn gyfan gwbl o safbwynt nodi bwyd amhur a allai gyrraedd y farchnad fel arall?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Mae'n wir, yn ystod yr ail ryfel byd, nad oedd lluoedd Americanaidd yn fodlon defnyddio lladd-dai Prydain, oherwydd yr ystyriwyd bod eu safonau yn rhy isel. Yn y 1990au, roedd gennyf dipyn o ail fusnes fel cyfreithiwr yn erlyn lladd-dai ac roedd yn anodd amgyffred y safonau gwael mewn rhai ohonyn nhw. Yr hyn sydd gennym ni erbyn hyn, wrth gwrs, yw arferion sy'n arwain y byd, arferion y mae gwledydd eraill yn sicr wedi bod yn eu dilyn, ac arferion sy'n golygu bod ein bwyd ni ymhlith y mwyaf diogel yn y byd. Ni ddylem beryglu’r statws hwnnw y gweithiwyd mor galed i'w ennill. Byddwn yn sicrhau, o ran ein cymhwysedd datganoledig, nad yw safonau bwyd yn cael eu gostwng yma yng Nghymru.