Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 7 Chwefror 2017.
Mae'n wir, yn ystod yr ail ryfel byd, nad oedd lluoedd Americanaidd yn fodlon defnyddio lladd-dai Prydain, oherwydd yr ystyriwyd bod eu safonau yn rhy isel. Yn y 1990au, roedd gennyf dipyn o ail fusnes fel cyfreithiwr yn erlyn lladd-dai ac roedd yn anodd amgyffred y safonau gwael mewn rhai ohonyn nhw. Yr hyn sydd gennym ni erbyn hyn, wrth gwrs, yw arferion sy'n arwain y byd, arferion y mae gwledydd eraill yn sicr wedi bod yn eu dilyn, ac arferion sy'n golygu bod ein bwyd ni ymhlith y mwyaf diogel yn y byd. Ni ddylem beryglu’r statws hwnnw y gweithiwyd mor galed i'w ennill. Byddwn yn sicrhau, o ran ein cymhwysedd datganoledig, nad yw safonau bwyd yn cael eu gostwng yma yng Nghymru.