Part of the debate – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 7 Chwefror 2017.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb? Efallai na fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o'r newyddion diweddaraf bod arweinwyr yr undebau mor bryderus am y dyfodol ar hyn o bryd fel eu bod wedi rhoi pythefnos i Ford gyflwyno cynllun arall. Felly, wrth gwrs, mae pryder difrifol o hyd ymhlith 1,850 o weithwyr y ffatri am eu dyfodol. Mae'n ymddangos nad oes fawr ddim arwydd o gynnydd. Dyna yw’r sefyllfa fel y mae pethau heddiw.
A gaf i ofyn efallai am rywfaint o sicrwydd gan y Llywodraeth eich bod wedi edrych ar bob cyfle, ac wedi archwilio yn arbennig i’r dyfodol tymor hir o ran sut y gallwch gefnogi'r ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr a hefyd bod unrhyw ddatblygiadau yn cael eu cyfathrebu yn briodol i'r gweithlu a’ch rhan chi yn hynny?
Hefyd, tybed a allech chi ddweud pa drafodaethau y mae'r Llywodraeth wedi eu cynnal ynglŷn â chyfleoedd eraill ar gyfer y ffatri, yn enwedig o ystyried y ffaith fod y ffatri Ford yn Dagenham yn gweithio hyd eithaf ei chapasiti ar hyn o bryd, yn cynhyrchu injans diesel. Pa drafodaethau sydd wedi eu cychwyn gyda Ford am y posibilrwydd o ddod â'u gwaith cynhyrchu injans trydan i Ben-y-bont ar Ogwr?
Ac yn olaf, mae buddsoddiad blaenorol gan Ford wedi denu £15 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Pa fwriad sydd gan y Llywodraeth i annog cyfleoedd ar gyfer y dyfodol i gynhyrchu yn y ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr?