2. Cwestiwn Brys: Ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:19, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Russell George am ei gwestiynau a hefyd am y newyddion diweddaraf oedd ganddo, y gallaf innau roi diweddariad pellach arnynt. [Chwerthin.] Byddai'r Senedd yn dymuno cael gwybod bod ysgrifennydd cyffredinol Undeb Unite, Len McCluskey, ynghyd ag ysgrifennydd cyffredinol Undeb Unite Cymru, Andy Richards, wedi ymweld â Ford Pen-y-bont ar Ogwr heddiw. Maen nhw wedi siarad ag uwch swyddogion yr undeb ac yna fe aethon nhw yn eu blaenau i drafod materion gydag uwch reolwyr Ford. Roedd y trafodaethau yn canolbwyntio ar natur gystadleuol y ffatri a chytunodd pob un dan sylw i barhau i ymdrechu i wneud y ffatri mor gystadleuol ag sy’n bosibl o'i chymharu â’r rhai cyfatebol iddi yn Ewrop. Gofynnodd Len McCluskey am ddata gan Ford ynghylch cylch gweithgynhyrchu’r ffatri. Gofynnodd hefyd am wybodaeth ynglŷn â safleoedd cystadleuol eraill ac am sicrwydd gan Ford ynghylch dyfodol ffatri Pen-y-bont ar Ogwr yn y tymor hir. Rwy'n falch o ddweud bod Ford wedi cytuno i'r cais hwn ac y bydd yn rhoi'r wybodaeth i'r ysgrifennydd cyffredinol cyn sesiwn briffio torfol yn ôl yn y ffatri ar 1 Mawrth. Mae angen i mi ailadrodd y pwynt ein bod yn parhau i weithio gyda'r holl randdeiliaid i ddiogelu dyfodol y safle, gan gynnwys cyflwyniad yr injan Dragon, a byddaf yn defnyddio'r holl asedau sydd ar gael i mi i gynorthwyo'r cwmni ac i nodi busnes newydd.

Mae’n rhaid i mi dalu teyrnged hefyd i Aelodau Cynulliad lleol sydd wedi bod yn llwyr ac yn gyson ymrwymedig i’r safle, gan gynnwys yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr, Carwyn Jones, a'r Aelod dros Ogwr, Huw Irranca-Davies. Rydym yn awyddus i weld y safle yn ffynnu ac yn llwyddo. Rwyf yn credu bod yna gyfleoedd, yn sicr, cyn belled ag y mae datblygiad injans petrol yn y cwestiwn. Gwyddom fod gostyngiad sylweddol yn y galw am injans diesel yn sgil sgandal Volkswagen ac y bu cynnydd, o’r herwydd, yn y galw am injans petrol. Ond rydym hefyd yn gwybod bod galw cynyddol am injans trydan ac rydym yn awyddus i weithio gyda Ford i nodi pa gyfleoedd yn y maes newydd sy’n datblygu hwnnw o dechnoleg y gellir eu manteisio arnynt yn Ford Pen-y-bont ar Ogwr.