Part of the debate – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 7 Chwefror 2017.
A gaf i ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau, a dweud bod dyddiadau allweddol ar gael, a bod y cynllun pum mlynedd, wrth gwrs, yn hanfodol? Gofynnodd Len McCluskey yn briodol am ragor o wybodaeth ynghylch y cynllun pum mlynedd er mwyn ei rannu gyda'r gweithlu, sydd yn iawn i fod yn bryderus. Ond, mae 2020 hefyd yn ddyddiad allweddol ac rydym yn ceisio sicrwydd gan Ford ac rydym yn barod i weithio gyda nhw a buddsoddi, os bydd angen, mewn cyfleoedd i wneud yn siŵr bod yna ddyfodol cynaliadwy yn y tymor hir ar gyfer y ffatri. Rydym eisoes wedi gweithio gyda Ford Pen-y-bont ar Ogwr drwy fuddsoddi mwy na £140 miliwn yn y safle ers 1978, ac mae hyn wedi cynnwys cymorth ar gyfer sgiliau. Mae wedi cynnwys cymorth ar gyfer buddsoddi cyfalaf, gwelliannau i isadeiledd a gwelliannau amgylcheddol hefyd. Byddwn yn gwneud yr hyn a allwn er mwyn gwneud yn siŵr bod dyfodol cryf ac ymarferol i’r gwaith a’i fod yn manteisio ar y lefelau cynhyrchiant anhygoel yr ydym wedi eu gweld yn ddiweddar. Ond, rydym yn awyddus i sicrhau bod y ffatri yr un mor gystadleuol â’r rhai cyfatebol yn Ewrop, fel yr wyf wedi ei ddweud. Byddwn yn hyblyg yn ein hymagwedd i’r cymorth a allai fod yn ofynnol, pe byddai Ford yn dod atom gyda chais am gefnogaeth, yn arbennig i fanteisio ar dechnolegau newydd sy'n datblygu. Rydym yn cynnig ystod o ddulliau cymorth i helpu busnesau—bach a mawr—i fanteisio ar dechnoleg newydd, ac rwy'n siŵr bod hyn yn rhywbeth y byddai Ford yn awyddus iawn i’w archwilio gyda ni.
O ran ysgogi’r galw am injans petrol, fel yr wyf wedi ei amlinellu eisoes, mae'r dirywiad cymharol yn y galw am yr injan diesel yn dilyn sgandal Volkswagen wedi arwain at alw cynyddol am injans petrol. Mae Ford wedi ailadrodd bod faint o injans y rhagwelir y byddant yn cael eu cynhyrchu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn parhau i fod yn iach yn y blynyddoedd sydd i ddod, ac rwyf yn credu y dylem gael ffydd o hynny, gyda’r disgwyl y bydd gofynion ar lafur cysylltiedig yn debyg i lefelau heddiw.