Part of the debate – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 7 Chwefror 2017.
Mae gennyf ddau newid i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon, Lywydd. Mae datganiad llafar heddiw ar y fenter ymchwil i fusnesau bach wedi ei ohirio a, gan nad oes unrhyw gwestiynau wedi'u cyflwyno i'w ateb gan Gomisiwn y Cynulliad yr wythnos hon, mae amseriadau yfory wedi eu haddasu yn unol â hynny. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.