4. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 2:49, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, neu hyd yn oed dim ond llythyr yn y Llyfrgell, yn gyntaf gan y Gweinidog cyllid, yn esbonio'r cynllun ardrethi busnes newydd—yr arian ychwanegol a roddwyd ar y bwrdd? Rwyf yn sylweddoli y codwyd hyn ryw ddwy neu dair wythnos yn ôl, ac, yn ein dadl ar y dydd Mercher, nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ei fod yn obeithiol o gyflwyno’r cynigion yn gynnar ym mis Chwefror. Rwy'n ymwybodol ei bod, yn awr, yn gynnar ym mis Chwefror a, hyd y gwn i, nid oes unrhyw wybodaeth newydd wedi dod i law o ran sut y bydd y £10 miliwn ychwanegol a amlygwyd cyn y Nadolig gan Lywodraeth Cymru i’w roi ar gael i lywodraeth leol ar gyfer busnesau a gafodd eu dal gan yr ailbrisio, yn cael ei weinyddu a'i gyflwyno i'r busnesau hynny. Felly, yn absenoldeb yr wybodaeth honno, a wnewch chi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol am yr wybodaeth ddiweddaraf am ble yn union y mae'r Llywodraeth o ran ei gwybodaeth fel bod awdurdodau lleol ac, yn wir, busnesau, yn gallu deall sut y byddan nhw’n elwa ar yr arian ychwanegol hwn?

Yn ail, er fy mod i’n croesawu'r symudiad i greu swyddi ledled Cymru, yn enwedig y banc datblygu y mae'r Llywodraeth wedi ei roi yn y gogledd-ddwyrain ac, yn amlwg, yr awdurdod refeniw yn Nhrefforest, rwyf braidd yn bryderus am y diffyg trefn ym mholisi'r Llywodraeth, a byddwn i’n ddiolchgar pe byddem yn cael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, oherwydd bod gennym ni ardal fenter gwasanaethau ariannol yma yng Nghaerdydd, a does bosib na ddylai Llywodraeth Cymru fod yn hyrwyddo honno, ac eto pan fydd swyddi ar gael yn y sector gwasanaethau ariannol, nid yw'n ceisio’u lleoli o fewn fy rhanbarth i yng Nghanol De Cymru yn yr ardal fenter. Yn yr un modd, mae'n gynllun creu swyddi gwych bod Aston Martin wedi mynd i Sain Tathan, a chroesawn y cyfle hwnnw, ond, o dan strategaeth economaidd y Llywodraeth, canolbwynt hedfanaeth yw hwnnw i fod, ac mae’r sector modurol i fod yn yr ardal fenter yng Nglyn Ebwy. Felly, rwy'n ymwybodol bod gennym Ysgrifennydd y Cabinet newydd, rwy'n ymwybodol bod yr ardaloedd menter wedi eu cyflwyno gan y Gweinidog blaenorol, ond, mewn cyhoeddiadau diweddar gan y Llywodraeth, ymddengys bod yna darfu rhwng y polisi o hyrwyddo ardaloedd menter a gweithredoedd y Llywodraeth. Fel y dywedais, rwyf i’n croesawu'r cyfle i Lywodraeth Cymru ledaenu swyddi ledled Cymru; ond ryw’n poeni am ba un a yw'r gwahaniaethau rhwng y mentrau polisi a’r ysgogiadau polisi ynghylch hyrwyddo ardaloedd menter.