Part of the debate – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 7 Chwefror 2017.
Croesawaf yn fawr iawn eich cydnabyddiaeth bod adolygiad y gwasanaethau treftadaeth yn y datganiad ysgrifenedig, Dai Lloyd, yn seiliedig ar yr adolygiad agored yr oedd y pwyllgor a'r Aelodau yn cael cyfrannu ato, ac mae’r holl bartneriaid sy'n cael eu heffeithio ganddo, wrth gwrs, wedi cymryd rhan mewn datblygu’r dewisiadau hynny. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i egluro maes o law yr adolygiad hwn y mae wedi’i gomisiynu o ran strategaeth a gweithrediadau’r amgueddfa genedlaethol.