Part of the debate – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 7 Chwefror 2017.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad? Yn ychwanegol at hynny, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ddatganiad ysgrifenedig ddydd Gwener diwethaf, yn nodi dull o sicrhau llwyddiant, cydnerthedd a chynaliadwyedd ar gyfer treftadaeth Cymru’, mae'n dweud yn y fan yma. Yn amlwg, mae argymhellion y grŵp adolygu sydd wedi bod yn edrych ar ddyfodol yr hyn a elwir yn Gymru Hanesyddol wedi cael croeso gofalus. Mae'n sôn am bartneriaeth strategol sydd, mae’n ymddangos, yn cyfiawnhau annibyniaeth lleoedd fel Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Felly, mae hynny i gyd i'w groesawu mewn datganiad ysgrifenedig. Ar ddiwedd y datganiad ysgrifenedig, ceir sôn am adolygiad newydd i strategaeth a gweithrediadau Amgueddfa Genedlaethol Cymru—atodiad bach annisgwyl yn y fan yna. Roeddwn i’n meddwl tybed, o’r safbwynt hwnnw, a gaf i ofyn am ddatganiad llafar ar fanylion yr adolygiad hwnnw i Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Diolch yn fawr.