Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 7 Chwefror 2017.
Ddoe oedd Diwrnod Rhyngwladol Dim Goddefgarwch i Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod. Roeddwn i’n falch iawn o gynnal cynhadledd y daeth llawer iddi yma yn y Senedd ar y pwnc ofnadwy hwn. Fe'i trefnwyd gan BAWSO, ond roedd cynrychiolwyr pwysig yn bresennol o NSPCC, Cymorth i Ferched Cymru ac o wahanol rannau o Gymru yn ogystal â Lloegr. Nid wyf yn credu bod hyn yn ymwneud yn unig â’r 30 miliwn o ferched sydd mewn perygl ledled y byd o gael eu llurgunio cyn eu pen-blwydd yn bymtheg oed, ond mae hefyd yn ymwneud ag atal hyn rhag digwydd i'r merched sy'n byw yn y wlad hon. Yn ôl Dr Chimba, sy'n arwain ar anffurfio organau cenhedlu benywod gyda BAWSO, mae rhyw 2,000 o fenywod yng Nghymru sy'n byw â rhan neu’r cyfan o’u horganau cenhedlu wedi’u torri i ffwrdd. Pe byddai hyn yn ymwneud â phidynnau dynion yn cael eu torri i ffwrdd, rwy’n siŵr y byddem i gyd yn rhoi blaenoriaeth uchel iawn i hyn.
Un o'r materion a godwyd yn y gynhadledd oedd diffyg data cywir am Gymru, oherwydd roedd cryn dipyn o ddata wedi’u casglu am Gymru a Lloegr. Rwyf ar ddeall y bydd y GIG yn Lloegr, yr wythnos hon, yn rhyddhau'r data sydd wedi eu casglu o wahanol rannau o'r GIG, gan nyrsys, bydwragedd, meddygon teulu ac unrhyw un arall sydd wedi cael gwybodaeth gywir am hyn. Roeddwn i’n meddwl tybed a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am ba bryd y gallai’r wybodaeth hon fod ar gael yng Nghymru, oherwydd ei bod yn bwysig iawn i ddeall pa wasanaethau arbenigol y dylem ni fod yn eu comisiynu yng Nghymru, yn hytrach nag anfon pobl i rannau eraill o Loegr. A oes gennym y màs critigol i gyfiawnhau gwasanaeth arbenigol o'r fath?