Part of the debate – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 7 Chwefror 2017.
Wel, rwy’n credu yr hoffem ni i gyd—yn y Siambr hon—ddiolch i Jenny Rathbone am drefnu'r digwyddiad pwysig iawn hwn ddoe—digwyddiad a gafodd ei gefnogi'n dda yn y Senedd, ac yr oedd llawer o Aelodau'r Cynulliad wedi gallu dod iddo neu ei gefnogi. Dim ond gair bach i adrodd yn fyr ar gynnydd a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru. Rydym ni wedi cefnogi datblygiad darpariaeth iechyd ac wedi hyfforddiant cydlynol, sy'n hollbwysig, a dyma lle y gallwn ddysgu gan ein cydweithwyr y tu allan i Gymru, ond BAWSO sy’n arwain yr hyfforddiant ar anffurfio organau cenhedlu benywod yn ein holl fyrddau iechyd ledled Cymru. Fe ddechreuodd drwy nodi arweinwyr anffurfio organau cenhedlu benywod ym mhob bwrdd iechyd. Mae gennym ni grŵp iechyd anffurfio organau cenhedlu benywod Cymru gyfan sydd wedi ei sefydlu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae ganddo gynllun gwaith ac—i ateb eich cwestiwn pwysig—y mae wedi dechrau casglu data am fenywod a phlant sydd wedi’u heffeithio gan anffurfio organau cenhedlu benywod ar draws byrddau iechyd, ac y mae hefyd wedi dyfeisio ac mae’n rhoi llwybr nodi ac atgyfeirio clinigol Cymru gyfan ar waith, yn ogystal â’r hyfforddiant.
Mae gennym ni hefyd, wrth gwrs, y rhaglen Plant Iach Cymru. Mae gan honno raglen iechyd cyffredinol i bob teulu â phlant hyd at saith oed, ac mae hynny hefyd yn nodi cysylltiadau gwybodaeth y gellir eu gwneud ar lefel byrddau iechyd. Yn rhan o'r rhaglen hon, bydd gwybodaeth yn cael ei chofnodi ar blant a allai gael eu heffeithio gan anffurfio organau cenhedlu benywod. Dechreuodd byrddau iechyd Cymru weithredu’r llwybr hwn fis Hydref diwethaf—ar 1 Hydref 2016—ac mae ganddyn nhw ddwy flynedd i weithredu'r rhaglen yn llawn.