Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 7 Chwefror 2017.
Diolch, Lywydd.
Ar 6 Ionawr eleni, cyhoeddais y 'Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau ar y Galon’ ar ei newydd wedd. Mae'r cynllun hwn yn ailddatgan ein hymrwymiad i leihau clefyd y galon y gellir ei atal ac i sicrhau bod pobl yr effeithir arnynt gan unrhyw fath o gyflwr ar y galon yn cael mynediad amserol at ofal o ansawdd uchel. Ac y dylid darparu gofal o ansawdd uchel ni waeth ble y mae pobl yn byw. Yn gynyddol, rydym yn disgwyl y caiff y gofal hwnnw ei ddarparu yn y gymuned yn ogystal ag yn yr ysbyty, pan fo hynny'n briodol. Mae'r cynllun cyflawni bellach yn cynnwys adran benodol ar blant a phobl ifanc, ac rydym wedi gwneud hyn er mwyn cynnwys canfyddiadau’r adolygiad annibynnol ar wasanaethau cardiaidd i blant ym Mryste a gyhoeddwyd y llynedd. Dylai plant sy'n byw gyda chyflwr ar y galon gael y cymorth a'r gofal gorau posibl yng Nghymru.
Bu datblygiadau sylweddol mewn gofal cardiaidd ar draws Cymru ers y cynllun cyflawni gwreiddiol yn 2013. Mae llai o bobl yn marw o glefyd cardiofasgwlaidd yng Nghymru erbyn hyn: bu gostyngiad mewn cyfraddau gan bron i 1,000 o bobl y flwyddyn rhwng 2010 a 2015. Mae hyn yn rhannol o ganlyniad i welliannau mewn gofal, ond gwyddom y gellir gwneud mwy. Bu gostyngiad o 21 y cant mewn derbyniadau i'r ysbyty ar gyfer clefyd coronaidd dros y pum mlynedd diwethaf, o ganlyniad i aelodau staff a chleifion yn rheoli’r cyflwr yn well. A gwyddom fod nifer o brosiectau gwella arloesol bellach ar waith, ac mae'r rhain yn cynnwys: datblygu’r rhaglen hypercolesterolemia etifeddol; cardioleg cymunedol; gwell asesiad o risg cardiofasgwlaidd; gwasanaeth clefyd cynhenid y galon i oedolion yn y de; mynediad uniongyrchol i’r rhai sy’n derbyn gofal sylfaenol at ddiagnosteg; diagnosteg o dan arweiniad nyrsys; a systemau e-atgyfeirio ac e-gyngor. Mae pob un o'r datblygiadau newydd hyn wedi arwain at well canlyniadau i gleifion, ac rwy’n dymuno talu teyrnged i bawb sy'n gysylltiedig â’r gwaith o gynllunio a darparu’r gwasanaethau hyn.
Yn ddiweddar, disgrifiwyd Cymru gan Sefydliad Prydeinig y Galon, fel y bydd yr Aelodau'n ymwybodol, fel gwlad sy’n arwain y byd o ran adsefydlu cardiaidd, oherwydd y cynnydd sylweddol yn nifer y cleifion sy'n derbyn y gwasanaeth yng Nghymru. Cynyddodd niferoedd Cymru o 42 y cant yn 2014-15 i 59 y cant yn 2015-16. Fodd bynnag, nid ydym am laesu dwylo a byddwn yn ceisio gwella mwy eto yn y dyfodol. Mae'r weledigaeth a nodir yn ein cynllun ar gyfer llwybrau gofal sylfaenol, cymunedol, eilaidd ac arbenigol wedi’u llwyr integreiddio, a chynllunnir y rhain er mwyn bodloni anghenion y claf, gan ddarparu'r cymorth sydd ei angen arno er mwyn ei alluogi i wneud yr hyn y mae’n gallu ei wneud i reoli ei gyflwr ei hun. Mae clefyd cardiofasgwlaidd yn parhau i fod un o brif achosion salwch a marwolaeth yng Nghymru, ac mae’r grŵp gweithredu ar gyfer cyflyrau ar y galon wedi buddsoddi £1 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen asesu risg cardiofasgwlaidd a gwasanaethau cardioleg cymunedol.
Mae achosion o glefyd y galon, fe wyddom, yn amrywio'n sylweddol ac yn annerbyniol rhwng ein cymunedau mwyaf difreintiedig a’n cymunedau lleiaf difreintiedig yma yng Nghymru. Ym Mlaenau Gwent, mae’r gyfradd marwolaethau ar gyfer pobl o dan 75 oed yn 106 fesul 100,000 o bobl, sydd bron ddwywaith y gyfradd ym Mro Morgannwg, sydd ond yn 56 fesul 100,000 o bobl. Yn ddiweddar, roeddwn ym Meddygfa Tynycoed yn Sarn yn lansiad y rhaglen asesu risg cardiofasgwlaidd cymunedol yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, a gwnaed argraff fawr arnaf gan frwdfrydedd aelodau’r staff sy’n adeiladu ar lwyddiant y rhai yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf ac yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan. Nhw, mewn gwirionedd, arweiniodd y prosiect hwn ar y cychwyn cyntaf, ac yn ogystal â chael arweinyddiaeth gan feddygon teulu mewn practisau unigol ac ar lefel clwstwr, mae'r rhaglen hon yn dibynnu ar weithwyr cymorth gofal iechyd am ei llwyddiant, oherwydd eu gallu nhw i ymgysylltu â grwpiau o bobl sy’n anfoddog ond â risg uchel, nad ydynt yn cysylltu’n rheolaidd â meddygon teulu, sy'n hanfodol ar gyfer llwyddiant y rhaglen. Mae’r ymgysylltu hwnnw yn fwriadol yn digwydd i ffwrdd oddi wrth leoliadau clinigol neu feddygol. Felly, mae arfogi pobl â gwybodaeth i’w galluogi a’u grymuso i newid eu hiechyd presennol ac yn y dyfodol eisoes wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, a dylai’r rhaglen hon barhau i gael effaith wirioneddol ar anghydraddoldebau o ran iechyd. Mae datblygu gwasanaethau cardioleg cymunedol, er bod hynny’n amrywio ar draws ardaloedd byrddau iechyd, i gyd yn cefnogi ein blaenoriaeth i wella mynediad at ofal sylfaenol a chymunedol, ac rydym yn ystyried gwahanol ffyrdd o drin pobl, lle bo'n briodol, mor lleol â phosibl, er mwyn helpu i leihau rhestrau aros ac i osgoi eu derbyn neu eu haildderbyn i'r ysbyty. Mae hynny'n arbennig o bwysig ar gyfer yr eiddil, yr henoed a phobl â chyflyrau hirdymor.
Mae'r grŵp gweithredu ar gyfer cyflyrau ar y galon wedi nodi eu blaenoriaethau ar gyfer 2017-18, ac mae'r rhain yn cynnwys datblygu llwybrau triniaeth ar gyfer cyflyrau cardiaidd cyffredin, treialu amseroedd aros cydrannol ac amseroedd aros ar gyfer diagnosis, datblygu a gweithredu cynllun trawiad ar y galon y tu allan i'r ysbyty, a gwella mwy ar wasanaethau ffisioleg ac adsefydlu cardiaidd, gweithredu’r prosiect gwybodeg cardiaidd carlam Cymru gyfan, a datblygu system adolygu materion cardiaidd gan gymheiriaid ar draws Cymru.
Rydym eisoes wedi gweld gwelliannau mewn amseroedd aros cardiaidd drwy welliannau mewn gwasanaethau megis y gwaith ailddatblygu gwerth £6.6 miliwn yn y ganolfan gardiaidd yn Abertawe, sydd wedi mynd i'r afael â’r cynnydd yn y galw am welyau gofal critigol cardiaidd ar ôl llawdriniaeth ar y galon. Bydd y llwybrau clinigol drafft ar gyfer cyflyrau cardiaidd cyffredin yn cael eu trafod yng nghyfarfod y gwanwyn Cymdeithas Gardiofasgwlaidd Cymru ar ddiwedd mis Ebrill i gael consensws clinigol Cymru gyfan. Mae gweithredu’r llwybrau hynny ledled Cymru yn allweddol i gyflawni’r dyheadau a nodir yn y cynllun.
Mae ffigurau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn dangos bod tua 8,000 o bobl yn dioddef trawiadau sydyn ar y galon y tu allan i'r ysbyty bob blwyddyn yng Nghymru. Mae cyfraddau goroesi yn isel, ond mae’n bosib achub llawer mwy o fywydau pe byddai dadebru cardio-anadlol a diffibrilio cynnar yn cael eu cynnal yn amlach. Mae’r ffaith bod gwasanaethau ymyrraeth coronaidd sylfaenol drwy'r croen ar gael 24 awr y dydd saith diwrnod yr wythnos yn y gogledd o 3 Ebrill ymlaen yn ddatblygiad arwyddocaol. Nawr bydd gennym ddarpariaeth Cymru gyfan.
Fis Rhagfyr diwethaf, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn tynnu sylw at y cynnydd yr ydym eisoes wedi'i wneud yng Nghymru o ran codi ymwybyddiaeth, yn enwedig mewn ysgolion, o bwysigrwydd sgiliau achub bywyd megis dadebru cardio-anadlol a defnyddio diffibrilwyr allanol awtomataidd. Mae'r cynllun trawiad ar y galon y tu allan i'r ysbyty, y byddwn yn ei gyhoeddi yn ystod y gwanwyn, yn adeiladu ar y llwyddiant hwn. Bydd yn ymdrin â chanfod trawiad ar y galon yn gynnar, CPR ar unwaith ac o ansawdd uchel, a diffibrilio cynnar yn ogystal â gofal effeithiol ar ôl dadebru.
Gwyddom fod yn rhaid i ni wneud y mwyaf o'n hadnoddau yma yng Nghymru—yn enwedig sgiliau, ymroddiad a gwaith caled ein haelodau staff clinigol, rheolwyr gwasanaeth, a sefydliadau trydydd sector. Rydym ni’n dymuno meithrin perthynas mwy cyfartal rhwng y cleifion a’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan alluogi pobl i gydgynhyrchu eu triniaeth yn seiliedig ar eu gwerthoedd, eu nodau a’u hamgylchiadau. Datblygwyd y cynllun hwn ar ei newydd wedd trwy bartneriaeth effeithiol. Mae’r cydweithrediad parhaus hwnnw rhwng Llywodraeth Cymru, y grŵp gweithredu, Rhwydwaith y Galon Cymru, cyrff proffesiynol, a'r trydydd sector yn allweddol i gyflawni’r cam nesaf o weithio gyda'n gilydd, oherwydd y dasg a rennir rhyngom yw sicrhau gwell canlyniadau yn gyflymach a gydag mwy o effaith.