– Senedd Cymru am 3:10 pm ar 7 Chwefror 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar y ‘Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau ar y Galon’, ac rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.
Diolch, Lywydd.
Ar 6 Ionawr eleni, cyhoeddais y 'Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau ar y Galon’ ar ei newydd wedd. Mae'r cynllun hwn yn ailddatgan ein hymrwymiad i leihau clefyd y galon y gellir ei atal ac i sicrhau bod pobl yr effeithir arnynt gan unrhyw fath o gyflwr ar y galon yn cael mynediad amserol at ofal o ansawdd uchel. Ac y dylid darparu gofal o ansawdd uchel ni waeth ble y mae pobl yn byw. Yn gynyddol, rydym yn disgwyl y caiff y gofal hwnnw ei ddarparu yn y gymuned yn ogystal ag yn yr ysbyty, pan fo hynny'n briodol. Mae'r cynllun cyflawni bellach yn cynnwys adran benodol ar blant a phobl ifanc, ac rydym wedi gwneud hyn er mwyn cynnwys canfyddiadau’r adolygiad annibynnol ar wasanaethau cardiaidd i blant ym Mryste a gyhoeddwyd y llynedd. Dylai plant sy'n byw gyda chyflwr ar y galon gael y cymorth a'r gofal gorau posibl yng Nghymru.
Bu datblygiadau sylweddol mewn gofal cardiaidd ar draws Cymru ers y cynllun cyflawni gwreiddiol yn 2013. Mae llai o bobl yn marw o glefyd cardiofasgwlaidd yng Nghymru erbyn hyn: bu gostyngiad mewn cyfraddau gan bron i 1,000 o bobl y flwyddyn rhwng 2010 a 2015. Mae hyn yn rhannol o ganlyniad i welliannau mewn gofal, ond gwyddom y gellir gwneud mwy. Bu gostyngiad o 21 y cant mewn derbyniadau i'r ysbyty ar gyfer clefyd coronaidd dros y pum mlynedd diwethaf, o ganlyniad i aelodau staff a chleifion yn rheoli’r cyflwr yn well. A gwyddom fod nifer o brosiectau gwella arloesol bellach ar waith, ac mae'r rhain yn cynnwys: datblygu’r rhaglen hypercolesterolemia etifeddol; cardioleg cymunedol; gwell asesiad o risg cardiofasgwlaidd; gwasanaeth clefyd cynhenid y galon i oedolion yn y de; mynediad uniongyrchol i’r rhai sy’n derbyn gofal sylfaenol at ddiagnosteg; diagnosteg o dan arweiniad nyrsys; a systemau e-atgyfeirio ac e-gyngor. Mae pob un o'r datblygiadau newydd hyn wedi arwain at well canlyniadau i gleifion, ac rwy’n dymuno talu teyrnged i bawb sy'n gysylltiedig â’r gwaith o gynllunio a darparu’r gwasanaethau hyn.
Yn ddiweddar, disgrifiwyd Cymru gan Sefydliad Prydeinig y Galon, fel y bydd yr Aelodau'n ymwybodol, fel gwlad sy’n arwain y byd o ran adsefydlu cardiaidd, oherwydd y cynnydd sylweddol yn nifer y cleifion sy'n derbyn y gwasanaeth yng Nghymru. Cynyddodd niferoedd Cymru o 42 y cant yn 2014-15 i 59 y cant yn 2015-16. Fodd bynnag, nid ydym am laesu dwylo a byddwn yn ceisio gwella mwy eto yn y dyfodol. Mae'r weledigaeth a nodir yn ein cynllun ar gyfer llwybrau gofal sylfaenol, cymunedol, eilaidd ac arbenigol wedi’u llwyr integreiddio, a chynllunnir y rhain er mwyn bodloni anghenion y claf, gan ddarparu'r cymorth sydd ei angen arno er mwyn ei alluogi i wneud yr hyn y mae’n gallu ei wneud i reoli ei gyflwr ei hun. Mae clefyd cardiofasgwlaidd yn parhau i fod un o brif achosion salwch a marwolaeth yng Nghymru, ac mae’r grŵp gweithredu ar gyfer cyflyrau ar y galon wedi buddsoddi £1 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen asesu risg cardiofasgwlaidd a gwasanaethau cardioleg cymunedol.
Mae achosion o glefyd y galon, fe wyddom, yn amrywio'n sylweddol ac yn annerbyniol rhwng ein cymunedau mwyaf difreintiedig a’n cymunedau lleiaf difreintiedig yma yng Nghymru. Ym Mlaenau Gwent, mae’r gyfradd marwolaethau ar gyfer pobl o dan 75 oed yn 106 fesul 100,000 o bobl, sydd bron ddwywaith y gyfradd ym Mro Morgannwg, sydd ond yn 56 fesul 100,000 o bobl. Yn ddiweddar, roeddwn ym Meddygfa Tynycoed yn Sarn yn lansiad y rhaglen asesu risg cardiofasgwlaidd cymunedol yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, a gwnaed argraff fawr arnaf gan frwdfrydedd aelodau’r staff sy’n adeiladu ar lwyddiant y rhai yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf ac yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan. Nhw, mewn gwirionedd, arweiniodd y prosiect hwn ar y cychwyn cyntaf, ac yn ogystal â chael arweinyddiaeth gan feddygon teulu mewn practisau unigol ac ar lefel clwstwr, mae'r rhaglen hon yn dibynnu ar weithwyr cymorth gofal iechyd am ei llwyddiant, oherwydd eu gallu nhw i ymgysylltu â grwpiau o bobl sy’n anfoddog ond â risg uchel, nad ydynt yn cysylltu’n rheolaidd â meddygon teulu, sy'n hanfodol ar gyfer llwyddiant y rhaglen. Mae’r ymgysylltu hwnnw yn fwriadol yn digwydd i ffwrdd oddi wrth leoliadau clinigol neu feddygol. Felly, mae arfogi pobl â gwybodaeth i’w galluogi a’u grymuso i newid eu hiechyd presennol ac yn y dyfodol eisoes wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, a dylai’r rhaglen hon barhau i gael effaith wirioneddol ar anghydraddoldebau o ran iechyd. Mae datblygu gwasanaethau cardioleg cymunedol, er bod hynny’n amrywio ar draws ardaloedd byrddau iechyd, i gyd yn cefnogi ein blaenoriaeth i wella mynediad at ofal sylfaenol a chymunedol, ac rydym yn ystyried gwahanol ffyrdd o drin pobl, lle bo'n briodol, mor lleol â phosibl, er mwyn helpu i leihau rhestrau aros ac i osgoi eu derbyn neu eu haildderbyn i'r ysbyty. Mae hynny'n arbennig o bwysig ar gyfer yr eiddil, yr henoed a phobl â chyflyrau hirdymor.
Mae'r grŵp gweithredu ar gyfer cyflyrau ar y galon wedi nodi eu blaenoriaethau ar gyfer 2017-18, ac mae'r rhain yn cynnwys datblygu llwybrau triniaeth ar gyfer cyflyrau cardiaidd cyffredin, treialu amseroedd aros cydrannol ac amseroedd aros ar gyfer diagnosis, datblygu a gweithredu cynllun trawiad ar y galon y tu allan i'r ysbyty, a gwella mwy ar wasanaethau ffisioleg ac adsefydlu cardiaidd, gweithredu’r prosiect gwybodeg cardiaidd carlam Cymru gyfan, a datblygu system adolygu materion cardiaidd gan gymheiriaid ar draws Cymru.
Rydym eisoes wedi gweld gwelliannau mewn amseroedd aros cardiaidd drwy welliannau mewn gwasanaethau megis y gwaith ailddatblygu gwerth £6.6 miliwn yn y ganolfan gardiaidd yn Abertawe, sydd wedi mynd i'r afael â’r cynnydd yn y galw am welyau gofal critigol cardiaidd ar ôl llawdriniaeth ar y galon. Bydd y llwybrau clinigol drafft ar gyfer cyflyrau cardiaidd cyffredin yn cael eu trafod yng nghyfarfod y gwanwyn Cymdeithas Gardiofasgwlaidd Cymru ar ddiwedd mis Ebrill i gael consensws clinigol Cymru gyfan. Mae gweithredu’r llwybrau hynny ledled Cymru yn allweddol i gyflawni’r dyheadau a nodir yn y cynllun.
Mae ffigurau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn dangos bod tua 8,000 o bobl yn dioddef trawiadau sydyn ar y galon y tu allan i'r ysbyty bob blwyddyn yng Nghymru. Mae cyfraddau goroesi yn isel, ond mae’n bosib achub llawer mwy o fywydau pe byddai dadebru cardio-anadlol a diffibrilio cynnar yn cael eu cynnal yn amlach. Mae’r ffaith bod gwasanaethau ymyrraeth coronaidd sylfaenol drwy'r croen ar gael 24 awr y dydd saith diwrnod yr wythnos yn y gogledd o 3 Ebrill ymlaen yn ddatblygiad arwyddocaol. Nawr bydd gennym ddarpariaeth Cymru gyfan.
Fis Rhagfyr diwethaf, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn tynnu sylw at y cynnydd yr ydym eisoes wedi'i wneud yng Nghymru o ran codi ymwybyddiaeth, yn enwedig mewn ysgolion, o bwysigrwydd sgiliau achub bywyd megis dadebru cardio-anadlol a defnyddio diffibrilwyr allanol awtomataidd. Mae'r cynllun trawiad ar y galon y tu allan i'r ysbyty, y byddwn yn ei gyhoeddi yn ystod y gwanwyn, yn adeiladu ar y llwyddiant hwn. Bydd yn ymdrin â chanfod trawiad ar y galon yn gynnar, CPR ar unwaith ac o ansawdd uchel, a diffibrilio cynnar yn ogystal â gofal effeithiol ar ôl dadebru.
Gwyddom fod yn rhaid i ni wneud y mwyaf o'n hadnoddau yma yng Nghymru—yn enwedig sgiliau, ymroddiad a gwaith caled ein haelodau staff clinigol, rheolwyr gwasanaeth, a sefydliadau trydydd sector. Rydym ni’n dymuno meithrin perthynas mwy cyfartal rhwng y cleifion a’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan alluogi pobl i gydgynhyrchu eu triniaeth yn seiliedig ar eu gwerthoedd, eu nodau a’u hamgylchiadau. Datblygwyd y cynllun hwn ar ei newydd wedd trwy bartneriaeth effeithiol. Mae’r cydweithrediad parhaus hwnnw rhwng Llywodraeth Cymru, y grŵp gweithredu, Rhwydwaith y Galon Cymru, cyrff proffesiynol, a'r trydydd sector yn allweddol i gyflawni’r cam nesaf o weithio gyda'n gilydd, oherwydd y dasg a rennir rhyngom yw sicrhau gwell canlyniadau yn gyflymach a gydag mwy o effaith.
Rwy’n falch o ddweud bod GIG Cymru yn cymryd camau bras ymlaen. Mae cyfraddau goroesi a gofal cardiaidd yn parhau i wella. Rwy’n gobeithio y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn ymuno â mi i gydnabod gwaith caled ac ymroddiad aelodau staff y GIG a rhanddeiliaid eraill, sydd wedi gwneud y gwelliannau hyn yn bosibl ac sy’n hanfodol ar gyfer ein llwyddiant parhaus wrth wella mwy o fywydau ac achub mwy o fywydau.
Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Ydw, rwy’n ymuno â chi i ddiolch i’n haelodau staff gweithgar yn y GIG. Mae'n anhygoel ac yn foddhaus iawn gweld y gwelliannau mewn gofal cardiaidd, ac rwy’n llwyr groesawu'r gwelliannau hyn ac yn diolch i'r aelodau staff sydd wedi gwneud hyn i gyd yn bosibl o ganlyniad i’w gwaith caled iawn.
Roeddwn wrth fy modd yn darllen y datganiad a'r cynllun. Rydych wedi nodi yn eich datganiad rywbeth y gwyddom i gyd, sef bod clefyd cardiofasgwlaidd yn parhau i fod yn un o brif achosion salwch a marwolaeth yng Nghymru. A wnewch chi ymhelaethu ychydig yn fwy ar unrhyw raglenni addysg posibl? Mae Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant wedi awgrymu dull 'sicrhau bod pob cyswllt yn gwneud gwahaniaeth’ wrth geisio mynd i'r afael â’r materion o golli pwysau a gordewdra. Pa gyfle sydd i annog y math hwn o ddull er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r ffactorau sy'n cyfrannu at glefyd y galon? Roeddwn i’n falch iawn o weld bod adran benodol ar gyfer plant a phobl ifanc erbyn hyn, ond mae’r camau gweithredu allweddol yn ymwneud â’r rhai hynny sydd eisoes â chlefyd neu gyflwr cronig yn hytrach nag atal y clefyd er mwyn osgoi cyrraedd y sefyllfa hon. Felly, byddai ychydig mwy o fanylion am hynny a sut efallai y byddai’r cynllun gweithredu yn gallu hybu hynny, yn fwy na defnyddiol.
Rydych yn llygad eich lle wrth nodi bod nifer yr achosion o glefyd y galon, yn uchel iawn yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Pan eich bod yn sôn am yr anghydraddoldebau enfawr hyn, a wnewch chi amlinellu ymhellach pa gynlluniau sydd gennych i addysgu pobl y tu allan i'r lleoliadau gofal iechyd traddodiadol hyn fel y gallwn weld yn glir sut efallai y byddwn ni’n gallu atal yr anghydraddoldebau hyn, neu o leiaf lliniaru rhywfaint arnynt?
Mae ffigurau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a’ch paragraff, os mynnwch, ar ddiffibrilio a dadebru cardio-anadlol—rwy’n falch iawn o glywed bod cynlluniau i roi pwyslais ar sgiliau achub bywyd, ond a wnewch chi hefyd ystyried pa grwpiau eraill y gellid eu targedu i ddysgu'r sgiliau hyn, megis Sefydliad y Merched, y sgowtiaid, y geidiaid, sefydliadau cymunedol eraill? Rydym wedi rhoi pwyslais enfawr ar gynlluniau rhoi megis rhoi gwaed a rhoi organau. Tybed a ddylid defnyddio adnoddau tebyg yn awr er mwyn hyrwyddo technegau achub bywyd.
Gan gyfeirio at fuddsoddiad gwerth £1 miliwn y grŵp gweithredu ar gyfer cyflyrau ar y galon, a wnewch chi roi syniad i ni o sut y bydd hwn yn cael ei ledaenu neu ei ddosrannu ar draws y byrddau iechyd? Yn olaf, tybed, Weinidog, sut yr ydych chi’n bwriadu mesur llwyddiant. Gwelaf, yn y cynllun cyflawni ar gyfer cyflyrau ar y galon, fod gennych chi adran fach iawn ar ddangosyddion canlyniadau a mesurau sicrwydd. Mewn rhai ffyrdd, nid ydyn nhw’n ymddangos yn bendant iawn. A fyddwch chi’n gweithio i weithredu ambell DPA llawer mwy dwys mewn gwirionedd fel y gallwn weld pa mor dda y mae hyn yn cael ei gyflawni yn erbyn y canlyniadau? Oherwydd, er enghraifft, dim ond dweud:
Ar gyfer canlyniadau sy'n ymwneud â phlant, byddwn yn ystyried gwybodaeth sydd ar gael ar ysmygu yn ystod beichiogrwydd, marwolaeth amenedigol, pwysau geni isel, ac ati—nid yw ‘ystyried’ yn ddull dwys a chyflym ar gyfer monitro canlyniadau mewn gwirionedd. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn cael gwybod sut yr ydych chi’n bwriadu gwneud hynny. Diolch.
Diolch i chi am y gyfres yna o gwestiynau. Gwn eich bod chi’n hoffi gofyn llawer o gwestiynau, ac nid oes gennyf unrhyw broblem â hynny; rwy’n bwriadu ceisio ateb bob un o fewn yr amser penodedig.
Rwyf yn croesawu eich cydnabyddiaeth ar y dechrau o swyddogaeth aelodau staff wrth gyflawni gwelliannau real iawn gan GIG Cymru. Gwn, bob hyn a hyn, fod hanfod y ddadl ynglŷn ag iechyd yn ymwneud â'r heriau sydd gennym, ac rwy’n cydnabod bod gennym ni heriau, ond mae hwn yn faes lle y bu gwelliant gwirioneddol a sylweddol, a mwy o fywydau yn cael eu hachub o ganlyniad uniongyrchol i'r hyn y mae'r GIG yn ei wneud.
Yn gyntaf, af i’r afael â’r pwynt ynglŷn â sgiliau achub bywyd, oherwydd mewn gwirionedd, roeddwn wedi dangos, yn y—. Bydd gennym gynllun sy'n mynd i gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill. Mae’r cynllun hwnnw yn cael ei ddatblygu gan amrywiaeth o wahanol bobl o ran sut yr ydym yn cyflwyno mwy o sgiliau achub bywyd ac yn adeiladu ar y llwyddiant presennol, yn ogystal â deall lle y mae’r diffibrilwyr hynny a'r bobl sydd wedi’u hyfforddi i'w defnyddio. Felly, mae mwy o waith sy'n mynd rhagddo a byddaf yn lansio’r cynllun hwnnw. Rwy’n edrych ymlaen at ei weithredu yn ystod gweddill y tymor hwn gyda phartneriaid ac i asesu ei effaith unwaith eto ar gyflawni rhagor o welliant.
Ynglŷn â’ch cwestiwn ynghylch sut y bydd yr £1 miliwn yn cael ei ddefnyddio, nid yw'n mynd i gael ei ddyrannu ar sail fformiwla ar draws byrddau iechyd. Caiff yr £1 miliwn, yr un fath â phob cynllun cyflawni arall, ei ddyrannu mewn gwirionedd gan y grŵp gweithredu yn erbyn ei flaenoriaethau. Dylech allu gweld y rheiny yn y cynllun, ond rwyf wedi nodi rhai ohonynt. Felly, dyna sut y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio.
Rwy’n credu y bydd rhan o'r hyn y byddant yn ei wneud yn ateb rhai o'ch cwestiynau eraill ynglŷn â mesurau, gan eu bod yn ystyried treialu camau cydrannol i geisio deall, ar wahanol adegau, wrth i chi gael eich trin, pa mor hir y mae pobl yn aros ar hyd y llwybr cyfan hwnnw, er mwyn nodi lle y ceir rhwystrau neu anghydraddoldeb posibl. Rwy'n credu bod hynny'n ddefnyddiol iawn. Dylai hynny roi trosolwg diddorol iawn i glinigwyr, yn ogystal â'r cyhoedd, ac ar gyfer y ffordd y byddwn ni wedyn yn datblygu ac yn darparu ein gwasanaethau.
Efallai i gychwyn na fydd hi’n hawdd cael gwybod am ble yr ydym ni’n aros a’r pethau nad ydyn ni’n hapus â nhw. Ond mae'n rhaid i ni allu deall sut yr ydym ni’n cyflawni’r gwelliant hwnnw, ac mae hynny’n cael ei sbarduno gan glinigwyr i ddeall lle y mae’r amseroedd aros cydrannol hynny'n bodoli, a’r hyn y gallan nhw ei wneud wedyn i'w lleihau, yn y ffordd y mae bron pob un o’r elfennau yr ydym ni’n sôn amdanyn nhw wedi deillio o’r sgwrs rhwng clinigwyr, y trydydd sector, a chleifion.
Mae’r un peth yn wir o ran y datblygiadau mewn cardioleg cymunedol sy'n cael eu cyflwyno. Ac, yn arbennig, yn fy marn i, ynglŷn â’ch pwynt cyffredinol am anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol, a'r negeseuon sydd gennym o ran hynny mewn cysylltiad â heriau iechyd y cyhoedd, nid dim ond ynghlwm wrth glefyd y galon, ond amrywiaeth eang o gyflyrau yr ydym ni i gyd yn gyfarwydd â nhw: y gallu i wneud rhywbeth ynghylch cyfraddau ysmygu, er mwyn parhau i weld y rheiny’n gostwng, i wneud rhywbeth ynghylch ein defnydd o alcohol, ond hefyd deiet ac ymarfer corff, oherwydd gwyddom fod gordewdra yn broblem enfawr. Felly, os na allwn ni wneud rhywbeth ynglŷn â deiet ac ymarfer corff, yna byddwn ni’n cael ein rhwystro rhag gallu gwneud unrhyw gynnydd pellach ar leihau achosion o glefyd y galon o fewn y boblogaeth.
Dyna hefyd pam y cychwynnodd y rhaglen asesu risg cardiofasgwlaidd yn Aneurin Bevan a Chwm Taf, yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig—a dargedwyd yn fwriadol felly gan ein bod wedi cydnabod yr anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol sy'n bodoli. Dyna hefyd pam mae’r rhaglen bellach yn cael ei chyflwyno yn ardal ABM a'r ardaloedd mwy difreintiedig yn gyntaf. Y rheswm dros hyn yw ein bod ni'n cyrraedd y bobl hynny nad ydyn nhw’n mynd at y gwasanaethau iechyd yn aml, pobl sydd yn y grwpiau risg uchel hynny, ac os nad ydyn nhw’n cael eu gweld a'u trin ac yn cael eu hannog mewn gwirionedd i wneud dewisiadau ynglŷn â’u hiechyd eu hunain mewn ffordd wahanol, yna nid ydym yn debygol o weld eu cyflyrau meddygol sylfaenol sydd eisoes yn bodoli, na’r risg ychwanegol y maen nhw’n ei ddatblygu, yn cael eu herio.
Dyna pam mae hi’n fwriadol yn cael ei thargedu mewn ffordd sy'n ceisio cael gwared ar yr elfen feddygol sydd ynghlwm wrth hynny, i geisio annog pobl yn eu cymunedau eu hunain i ymgymryd â gwahanol fathau o weithgarwch, ac mae'n pwysleisio’r pethau pwysig fel rhagnodi cymdeithasol a'r ffordd y gallwn ni wneud gweithgarwch a dewisiadau iachach yn haws, heb fod yn feirniadol. Mae'n ymwneud mewn gwirionedd â sut yr ydych chi’n cynnal sgwrs â rhywun yn eu cymuned y maen nhw’n teimlo’n gyfforddus ynddi, a’u bod nhw’n cydnabod y budd gwirioneddol iddyn nhw o wneud newid. Felly, mae llawer i'w wneud, ond mae llawer i fod yn gadarnhaol amdano hefyd, yn fy marn i.
Rydw i’n diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad yma a fydd wrth gwrs o ddiddordeb i lawer iawn o bobl yng Nghymru oherwydd bod gymaint yn byw efo cyflyrau ‘cardiac’ neu’n dioddef o glefyd y galon. Wrth gwrs, rydym ni yn croesawu hefyd lle mae yna dir wedi cael ei ennill oherwydd gwaith caled ein staff ni o fewn y gwasanaeth iechyd a hefyd mae’n rhaid cofio oherwydd pethau sydd wedi deillio o fan hyn fel y gwaharddiad ar ysmygu mewn llefydd cyhoeddus, sy’n cael ‘impact’ go iawn ar iechyd.
Mae gennyf bedwar cwestiwn i’w gofyn. Mae’r datganiad yn sôn am wasanaethau adferiad cardiaidd neu ‘cardiac rehabilitiation’. Mae’r Llywodraeth yn llongyfarch ei hunain bod bron i 60 y cant o gleifion rŵan yn cael cymryd rhan mewn gwasanaeth adferiad. Ond mae’r cynllun cyflawni ei hun yn dweud ar hyn o bryd fod pobl yng Nghymru yn aros yn rhy hir cyn dechrau triniaeth adferiad. Rŵan, rydym ni’n gwybod am yr amseroedd aros ar gyfer triniaeth yn y lle cyntaf. Rydym ni’n gwybod fawr ddim am yr amseroedd aros ar gyfer triniaeth adferiad, sydd mor bwysig. Felly, pa bryd fydd y data yna yn cael ei wneud yn fwy cyhoeddus, ac a fydd y Llywodraeth wedyn yn sefydlu pa mor hir y dylai cleifion aros cyn dechrau triniaeth adferiad, o gofio, wrth gwrs, bod y cynllun ei hun yn dweud bod yr amser aros yn rhy hir ar hyn o bryd?
Yn ail, mae’r datganiad hefyd yn cydnabod bod angen mynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran canlyniadau, a bod angen cynyddu’r lefel o ymgysylltu sydd yna rhwng pobl a thimau gofal sylfaenol, rhywbeth nad yw pobl mewn grwpiau risg uchel yn aml iawn yn ei wneud. Felly, o ystyried bod y Llywodraeth am roi pwysau ychwanegol yn hynny o beth ar y sector gofal sylfaenol, pa fwriad sydd yna i roi adnoddau ychwanegol i gyd-fynd â hynny, gan gynnwys meddygon ychwanegol ac ati, er mwyn i’r sector gofal sylfaenol allu cyflawni’r amcanion y mae’r Llywodraeth yn eu gosod ar eu cyfer nhw?
Mae’r nesaf yn un i’r Ysgrifennydd Cabinet ei drafod efo Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg o bosib. Rydw i’n croesawu’r adran yn y cynllun cyflawni ar blant â chyflyrau ar y galon. Yn y cynllun hwnnw, mae yn nodi bod yr Ysgrifennydd Cabinet—y Llywodraeth—am i blant sydd efo cyflyrau ar y galon allu mwynhau mynediad llawn at addysg, gan gynnwys teithiau ysgol. A ydy’r Ysgrifennydd, felly, yn credu, o ran cyflawni’r amcanion strategol yna, bod angen adolygu’r cyfreithiau ar dripiau ysgol i sicrhau diogelwch plant? Rydym ni’n ymwybodol o nifer o achosion lle mae plant sydd efo cyflyrau cronig wedi bod yn agored i risg ac, ar y lleiaf o bosib, rydw i’n credu bod angen cynyddu’r ddarpariaeth cymorth cyntaf i’w wneud yn rhan ehangach o’r cwricwlwm.
Ac, yn olaf, rydym ni hefyd yn gwybod yn y blynyddoedd blaenorol bod amseroedd hir am driniaeth wedi bod yn broblem: cleifion yn aros mwy nag sy’n dderbyniol yn glinigol. Dyna pam bod rhai triniaethau wedi cael eu rhoi ar gontract i’r sector preifat ac wedi cael eu hallanoli. A ydy’r Ysgrifennydd Cabinet, yn olaf, felly, yn gallu rhoi sicrwydd bod y capasiti bellach yno o fewn y system er mwyn gallu osgoi troi at y math yna o weithredu yn rhy gyson?
Diolch am y sylwadau yna. Rwy’n credu, ynglŷn â’ch pwynt olaf, fod gennym ni’r capasiti priodol o fewn ein system erbyn hyn. Byddwch yn gweld bod amseroedd aros wedi gwella'n sylweddol yn ein dwy ganolfan yn y de ac roedd hynny ynddo'i hun yn her. Bydd yr Aelodau yma yn ymwybodol yr anfonwyd nifer sylweddol o bobl, ar wahanol adegau, i ddefnyddio gwasanaethau yn Lloegr am nad oedd gennym y capasiti yma. Felly, dylid canmol canolfannau yn Abertawe a Chaerdydd am y gwaith sylweddol y maen nhw wedi’i wneud, nid dim ond o ran cyfrannu'n sylweddol at leihau amserau aros ar gyfer llawdriniaeth, ond hefyd y ffaith bod eu canlyniadau’n dda iawn, iawn ac yn well na chyfartaledd y DU. Felly, unwaith eto, ni ddylem fod yn swil wrth ganmol ein GIG pan i fod mewn gwirionedd yn cyflawni canlyniadau da iawn a gofal o ansawdd uchel iawn. Nid yw hynny'n golygu, wrth gwrs, nad oes mwy y byddem ni’n dymuno ei wneud, ac mae rhai pobl sy'n aros ychydig yn hirach nag y byddem ni’n ei hoffi, ond mae’r rheiny’n niferoedd llawer, llawer llai. Felly, rwy'n hyderus ynghylch ein gallu i ymdrin â'r capasiti o ran hynny. Ond mae hefyd yn pwysleisio eich pwyntiau ynglŷn â’r cynnydd y byddwn yn ei wneud o ran cardioleg cymunedol a’r cynnydd na fyddwn yn ei wneud, oherwydd yr hyn a oedd yn galonogol iawn—wn i ddim os yw’r gŵr bonheddig y tu ôl i chi wedi bod yn rhan o hyn yn ei bractis cyn dychwelyd i'r lle hwn—oedd edrych ar y ffordd y mae gwasanaethau cardioleg cymunedol ardal Abertawe eisoes wedi’u cyflwyno. A meddygon teulu â chanddyn nhw ddiddordeb arbenigol, neu sgiliau arbenigol, yn dibynnu ar bwy yr ydych chi’n siarad â nhw a sut y maen nhw’n disgrifio hynny, sy’n gweithredu hyn mewn gwirionedd. Ac yr oedd yn her o ran y sgwrs rhwng y clinigwyr gofal sylfaenol hynny a'u cydweithwyr ym maes gofal eilaidd ynghylch a fydden nhw’n gallu cyflawni rhywfaint o’r swydd hon mewn gwirionedd. Ac nid oedd pob clinigydd gofal eilaidd yn frwdfrydig drosto, ond maen nhw’n frwdfrydig erbyn hyn, oherwydd eu bod yn cydnabod y ceir sgiliau mewn gofal sylfaenol y gellir eu defnyddio, ac nid dim ond pobl sy'n feddygon teulu, ond mewn gwirionedd yn ymwneud â rhywfaint o'r gwaith mwy ataliol. Mae wedi gostwng amseroedd aros yn y maes hwnnw hefyd mewn gwirionedd, felly mae pobl yn cael gwasanaeth gwell, mwy lleol ym maes gofal sylfaenol, ac mae pobl sydd angen gofal eilaidd neu drydyddol yn cael mynediad cyflymach o ganlyniad i hynny. Ac mae'n helpu ein rhaglenni adsefydlu hefyd mewn gwirionedd.
Fy nealltwriaeth i yw bod gennym ni’r capasiti i allu gwneud hynny o fewn gofal sylfaenol, ond fel yr wyf wedi dweud o'r blaen pan fo pobl yn gwneud ceisiadau gwahanol am adnoddau ychwanegol mewn gwahanol rannau o'r system, ar y cyfan mae ein cyllideb yn gyfyngedig, ac felly, os byddwn yn gofyn am ragor o arian ar gyfer un rhan o'n system gofal iechyd, mae angen i ni dynnu’r arian hwnnw o rywle arall, ac mae hynny’n eithaf anodd ei wneud mewn gwirionedd. Ond, os ydym ni am drosglwyddo gwasanaethau i fod yn rhan o ofal sylfaenol, yna mae’n rhaid i’r adnodd fod yno ac ar gael naill ai yn ariannol, neu o ran pobl, er mwyn gallu cyflawni hynny yn y ffordd yr ydym yn disgwyl i'r gwasanaeth gael ei ddarparu'n wahanol.
Felly, mae rhywfaint o hyn yn ymwneud â defnyddio ein holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn well, ac mae'n cyfeirio’n ôl at y sgyrsiau rheolaidd yr ydym ni’n eu cael ynglŷn â gwneud y defnydd gorau o amser meddygon teulu, oherwydd gall gweithwyr proffesiynol eraill ymdrin â rhywfaint o'r hyn y mae meddygon teulu yn ei wneud ar hyn o bryd. Felly, mae pethau fel hyn, lle y gallai meddygon teulu sydd â diddordeb arbennig wneud mwy, a darparu gofal o ansawdd uchel yn fwy lleol, yn rhan o'r hyn y mae angen i ni ei weld yn cael ei ysgogi yn fwy cyson mewn gwirionedd. Ac rwy’n falch iawn o weld bod pob bwrdd iechyd wedi cymryd sylw o’r dysgu llwyddiannus yn ardal Abertawe, yn rhan o fwrdd iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr iawn, sy’n bwysig ac yn gadarnhaol ar gyfer cleifion.
Rwyf yn cydnabod y pwyntiau a wnewch am y ffordd yr ydym ni’n rheoli plant â chyflyrau cronig—nad ydynt yn ymwneud â’u gallu i ddysgu, o reidrwydd—ond yr anghenion iechyd cronig a allai fod ganddynt a sut y maen nhw’n cael eu rheoli gyda lefel briodol o reoli risg. Ond, yr hyn nad wyf eisiau ei weld yw ein bod yn defnyddio ymagwedd gwrth-risg sy'n golygu nad yw plant yn cael cyfleoedd oherwydd eu cyflwr iechyd. Ond mae’n ymwneud â sut y caiff y lefel honno o risg ei rheoli'n gywir ac yn briodol, a bydd angen sgwrs barhaus rhwng llywodraeth leol, yn ogystal â Gweinidogion a swyddogion yn y Llywodraeth, ynglŷn â sut y mae hynny'n cael ei wneud yn iawn. Rwy’n cydnabod yr enghreifftiau trasig diweddar a roddir lle mae'n ymddangos fod pethau wedi mynd o chwith, ond rwy'n awyddus ein bod mewn gwirionedd yn cymryd safbwynt synhwyrol nad yw'n lleihau’r cyfleoedd sydd ar gael i amrywiaeth o blant.
Ac ar eich pwynt am gynnydd o ran gwasanaethau adsefydlu'r galon, rwy'n hapus iawn â'r ymgysylltu mwy llwyddiannus yr ydym wedi ei gael gyda chleifion. Ond mae peth o hyn yn dal i fod ynghylch faint o bobl sy'n barod i gymryd rhan mewn rhaglen adsefydlu. Efallai eich bod yn meddwl ei bod yn rhyfedd, ar ôl i rywun gael llawdriniaeth neu ymyrraeth ar gyfer gofal y galon, nad ydynt yn fodlon ar y pwynt hwnnw i fynd a cheisio gwella eu gofal. Ond nid yw pawb yn fodlon gwneud hynny, ac felly, rhan o her hyn yw sut yr ydym yn argyhoeddi’r bobl hynny o’i werth, yn ogystal â chynnig y cyfle hwnnw yn gynharach. Rwy'n wirioneddol falch o'r cynnydd sylweddol a wnaed gan Gymru ym mlwyddyn ddiwethaf y ffigurau a gofnodwyd, gan ei bod yn dangos ein bod ar y blaen i bob cenedl arall yn y DU ym maes adsefydlu'r galon. Ac, unwaith eto, dylem i gyd fod yn falch iawn. Nid dim ond y Llywodraeth yn llongyfarch ei hun yw hyn; mae'n ymwneud â llongyfarch ein gwasanaeth cyfan am yr hyn y mae'n ei wneud—y ffaith ein bod yn ail-ymgysylltu dinasyddion i wneud dewisiadau gwahanol ar gyfer eu gofal eu hunain, oherwydd mae’n rhaid iddyn nhw ymgysylltu â’r rhaglen er mwyn iddi fod yn llwyddiannus.
Ond rwyf yn awyddus i fod yn glir iawn: nid yw hyn yn lleihau ein huchelgais i wella. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn hefyd. Byddwn ni’n gweld cyfres newydd o ffigurau a fydd yn cael eu cyhoeddi ac fe wnawn ni edrych eto ar yr hyn yr ydym wedi ei wneud o ran yr amser y mae pobl yn aros i fynd a chael y rhaglen adsefydlu wedi’i chychwyn, yn ogystal â nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn y rhaglen adsefydlu hefyd. Rwyf i wedi ymrwymo i fod yn agored am yr hyn yr ydym yn gallu ei wneud a'r gwelliannau yr ydym yn eu gwneud, ac rwy'n hyderus y byddwn yn gwneud rhagor o welliannau eto—ond hefyd y gwelliant yr ydym yn dal i gydnabod y gallem ac y dylem ei wneud gyda'n poblogaeth hefyd.
Y bwyd yr ydym ni’n ei fwyta ydym ni ac, yn drist, mae llawer gormod o bobl nad ydynt ond yn bwyta bwyd sydd wedi’i drochi’n gyfan gwbl mewn braster, siwgr a halen. Ac mae hynny, ynghyd â pheidio â gwneud llawer o ymarfer corff, yn amlwg yn rysáit ar gyfer clefyd y galon. Rydych chi’n dweud yn hollol gywir yn eich datganiad bod llawer o'r grwpiau targed yn rhai sy'n amharod i fynd at y meddyg teulu. Roeddwn i’n myfyrio ar hynny, ac rwy’n dymuno canmol gwaith pobl fel Bwyd Caerdydd, sydd yn estyn allan at bobl i geisio eu cael i newid eu deiet, yn arbennig drwy ysgolion. Ond mae dynion, rwy’n meddwl, mewn perygl penodol o gael clefyd y galon ac maen nhw’n llai tebygol o fod yn mynd i’r ysgol a chlywed am beth sydd ar gael yno. Roeddwn i braidd yn siomedig o weld nad yw hyn yn estyn allan at y rhai hynny nad ydynt yn mynd at y meddyg teulu yn aml iawn, neu nid tan ei bod yn rheidrwydd meddygol, ac nad yw hynny ar y rhestr o flaenoriaethau a amlinellwyd gennych ar ddiwedd eich datganiad. Felly, tybed a allech chi ddweud ychydig mwy am sut yr ydym ni’n mynd i gyrraedd y bobl hyn sy'n cael eu lladd yn gynnar ac yn cael eu hanfon i fedd cynnar. Maent yn cael eu hanfon i fedd cynnar gan y proseswyr bwyd, sef, wrth gwrs, pam yr wyf i eisiau gweld treth ar siwgr, halen a braster, i’n galluogi ni i ofalu am y bobl hyn pan fyddant yn anochel yn cyrraedd y sector aciwt .
Diolch am y sylwadau yna. Rwy’n cydnabod eich diddordeb cyson ym maes deiet, iechyd, ac ymarfer corff. Nid dim ond ynghylch diabetes y mae hyn, gan fod llawer o'r ffactorau risg yr ydym yn sôn amdanynt ym maes diabetes yn ffactorau risg mewn amrywiaeth o gyflyrau eraill, gan gynnwys clefyd y galon a chyflyrau ar y galon hefyd.
Rydym yn cydnabod yr effaith sylweddol y mae deiet ac ymarfer corff yn ei gael ar amrywiaeth eang o gyflyrau, ac rwyf innau hefyd yn cydnabod y gwaith y mae Bwyd Caerdydd yn ei wneud i gyrraedd nifer o bobl. Ond pan fyddaf yn disgrifio'r rhaglen asesu risg cardiofasgwlaidd, mae honno'n ymestyn yn fwriadol at bobl nad ydynt yn cymryd rhan mewn gwasanaethau arferol. Dyna’r llwyddiant yr ydym wedi ei weld yng Nghwm Taf ac Aneurin Bevan, ac rwy’n disgwyl y byddwn yn gweld mwy o lwyddiant yn ardal Abertawe Bro Morgannwg hefyd.
Ac felly rydym yn disgwyl i'r rhaglen gael ei chyflwyno yn llwyddiannus, i ymestyn at y bobl hynny nad ydynt yn cymryd rhan yn eu dewisiadau gofal iechyd eu hunain yn awr, er gwaethaf yr holl dystiolaeth sy'n bodoli. Mae ystod gyfan o bethau, ond mae'n debyg mai astudiaeth Caerffili sy’n dal i fod yr hyn sy'n dweud wrthym am effaith hirdymor gwneud dewisiadau iechyd gwahanol. Ac felly dyna pam y mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno, oherwydd ei bod yn mynd at y bobl hynny lle’r ydym yn cydnabod bod anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol ac yn cydnabod eu bod yn annhebygol o ymgysylltu â’r negeseuon iechyd cyhoeddus ehangach hynny, lle bynnag y maent. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn defnyddio ysgolion fel sbardun gwirioneddol—ysgolion cynradd yn enwedig, lle mae rhieni yn fwy tebygol o ymgysylltu. Ond rwy’n cydnabod, hyd yn oed yn yr ysgol gynradd, mae'n dal i fod yn fwy tebygol mai menywod a fydd yn ymgysylltu â bywyd yr ysgol.
A gyda’r llwyddiant yr ydym wedi’i weld, rydym mewn gwirionedd yn gweld cyfraddau amrywiol, rhwng 50 y cant a 70 y cant, o ymgysylltu â'r rhaglenni risg cardiofasgwlaidd yng Nghwm Taf ac Aneurin Bevan. Mae hwnnw’n welliant sylweddol; yn ymgysylltiad sylweddol o bobl na fyddai yno fel arall. Dyna pam—rwyf wedi’i bwysleisio yn y datganiad—y byddwch yn gweld mwy o hynny’n digwydd ledled y wlad.
Ac yn yr holl bethau hyn, mae angen i ni ddeall pam y mae'r rhain wedi bod yn llwyddiannus. Ac nid dim ond model o weithwyr cymorth gofal iechyd sy'n gweithio mewn lleoliadau gwahanol yw hwn—ond y cwestiwn yw a yw’n dal yn mynd i weithio mor llwyddiannus wrth iddo gael ei gyflwyno? Rwy'n hyderus y dylai weithio yn bron pob un o'n lleoliadau, mewn gwirionedd, ond, unwaith eto, mae’n rhaid i ni gymryd cam yn ôl a dysgu bob amser: a yw’n dal i fod y dull cywir, a oes mwy y gallwn ei wneud, a sut mae'n cyd-fynd â’n hymyrraethau eraill, a gwaith arall ar draws y Llywodraeth? Felly nid dim ond iechyd ym mhob polisi, ond yr holl bolisïau mewn iechyd hefyd, a sut yr ydym yn gweld hynny’n cael ei gyflawni ar draws yr holl Lywodraeth a'n partneriaid.
Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Er gwaethaf datblygiadau diweddar mewn gofal coronaidd, mae clefyd y galon yn parhau i fod yn un o'r lladdwyr mwyaf yng Nghymru. Y mis hwn, bydd tua 750 o bobl yn colli eu bywydau i glefyd cardiofasgwlaidd; bydd 720 yn mynd i'r ysbyty oherwydd trawiad ar y galon; ac, yn anffodus, bydd 340 o'r rheini yn marw. Hefyd, y mis hwn, bydd tua 16 o fabanod yn cael eu geni gyda nam ar y galon. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, mae croeso mawr i’r cynllun cyflawni ar gyfer cyflyrau ar y galon.
Fel y mae’r cynllun yn amlygu, rydym wedi cyrraedd pwynt lle mae angen i ni gyflawni nid gwelliant graddol, cynaliadwy, ond newid ar unwaith a sylfaenol o ran cyflymder. Mae'r cynllun cyflawni yn briodol yn rhoi llawer o bwyslais ar atal. I leihau nifer yr oedolion sy'n ysmygu, mae'r cynllun yn nodi bod yn rhaid inni sicrhau bod pob cysylltiad â'r gwasanaethau iechyd a gofal yn cael ei ddefnyddio i atal nifer y bobl sy’n dechrau ysmygu ac yn annog pobl i roi'r gorau i ysmygu. Er gwaethaf blynyddoedd o dynnu sylw at beryglon ysmygu, mae nifer yr ysmygwyr yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel. Ysgrifennydd y Cabinet, pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i'r defnydd o e-sigaréts fel ffordd o leihau’r niwed gan fwg tybaco ymhlith y 19 y cant o oedolion yng Nghymru sy'n parhau i ysmygu?
O ran y prif ffactor ffordd o fyw arall o ran clefyd y galon, y diffyg gweithgarwch corfforol, a deiet gwael, mae dros hanner y boblogaeth sy'n oedolion yng Nghymru naill ai'n rhy drwm neu'n ordew. Mae mynd i'r afael â'r broblem hon yn llawer anoddach na lleihau niwed o ganlyniad i ysmygu. Felly, pa ystyriaeth y mae eich Llywodraeth wedi’i rhoi i sicrhau bod rhan o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd yn canolbwyntio ar addysgu ein pobl ifanc sut i fwyta'n iach, a sut i fyw'n iach?
Wrth gwrs, byddwn ni ond yn rhwystro hyn a hyn o glefyd y galon, ac felly mae'n rhaid i ni sicrhau bod gennym ddulliau o ganfod a thrin amserol ac effeithiol. Y tro diwethaf i’r targed 95 y cant i drin cleifion y galon o fewn 26 wythnos ar ôl atgyfeiriad gael ei gyflawni oed ym mis Ebrill 2012. Rydym ni’n croesawu'r cynnydd sydd wedi ei wneud, a hefyd y staff sy'n gweithio bob awr o’r dydd a’r nos i sicrhau ein bod yn cael y gwasanaeth gorau posibl. Mae angen lleihau nifer y bobl sy'n aros mwy na 26 wythnos ac mae angen gwneud hynny ar frys. Ysgrifennydd y Cabinet, beth yw'r prif ffactorau wrth fethu'r targed atgyfeirio i driniaeth? A yw o ganlyniad i brinder o bobl, neu a yw'n dioddef effaith y gostyngiad yn nifer y gwelyau sydd ar gael?
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, mae Sefydliad Prydeinig y Galon wedi amlygu bod nifer fawr o bobl yn y DU yn byw gyda genyn diffygiol sy'n eu rhoi mewn perygl o ddatblygu clefyd coronaidd y galon, neu hyd yn oed farwolaeth sydyn. Bob wythnos, mae tua 12 o bobl, a oedd yn ymddangos yn iach, o dan 35 oed yn marw o farwolaeth sydyn yn gysylltiedig â’r galon. Ysgrifennydd y Cabinet, beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i wella ymchwil i farwolaeth gardiaidd sydyn ac a ydych chi’n bwriadu datblygu sgrinio priodol ar lefel y boblogaeth ar gyfer y cyflyrau hyn ar y galon? Rwy’n diolch i chi, unwaith eto, am eich datganiad ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i wella gofal y galon yng Nghymru. Diolch.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau, ac yn arbennig am y croeso i’r cynllun ac unwaith eto, y gydnabyddiaeth o’r cynnydd yr ydym wedi’i wneud ac yr ydym yn bwriadu ei wneud yma yng Nghymru. Rwyf am ymdrin â'r pwynt olaf am ymchwil a sgrinio yn gyntaf. Wrth gwrs, mae amrywiaeth o ymchwil sy'n digwydd ar draws ein sectorau prifysgol a bwrdd iechyd. Pryd bynnag y mae pobl yn sôn am sgrinio, rwyf i—. Mae angen i ni gymryd cam yn ôl a deall yr hyn yr ydym yn ei olygu wrth hynny, mewn gwirionedd, a beth yw gwerth hyn i gyd. Y peth hawddaf i’w wneud yw galw am raglen sgrinio genedlaethol i ddeall ac i adnabod yn gynnar ystod o gyflyrau, ond mewn gwirionedd, mae angen i ni gael profion dibynadwy sydd mewn gwirionedd yn dweud rhywbeth defnyddiol wrthym ac nid yn achosi niwed i bobl. Dyna ein her. A oes prawf dibynadwy y gallwn sgrinio'r boblogaeth ag ef? Ydym ni wir yn gweld budd o ran iechyd wrth geisio ymgymryd â rhaglen sgrinio genedlaethol yn y maes hwn, neu a ydym ni’n mynd i gael mwy o fudd o ran y gwerth i unigolion, yn ogystal â'r GIG, gyda mesurau eraill? Ar hyn o bryd, nid wyf yn ymwybodol fod dull synhwyrol ar gyfer sgrinio'r boblogaeth yn y maes hwn. Mae angen i ni ymgymryd â gweithdrefnau lle yr ydym yn deall bod risg a deall y risg sydd gan bobl yn hanes eu teulu eu hunain.
O ran y pwynt am amseroedd aros, rydym ni’n gweld amseroedd aros yn lleihau. Fel yr ydych chi wedi gweld, yn fy natganiad, nodais ein bod wedi buddsoddi £6.6 miliwn yn y ganolfan yn Abertawe, hefyd, i roi mwy o allu i ganiatáu i'r amseroedd aros hynny ostwng ymhellach fyth, yn ogystal â'r gwaith yr wyf eisoes wedi’i ddisgrifio wrth ateb cwestiynau eraill am y gwaith yr ydym yn ei wneud ym maes gofal sylfaenol i sicrhau bod gennym wasanaethau amgen i wneud yn siŵr bod y bobl sydd wir angen cael eu hatgyfeirio at ofal eilaidd neu drydyddol yn cael y cyfle i wneud hynny yn gyflym.
O ran eich pwynt am ysmygu yn gostwng, unwaith eto, yr oedd bai arnaf am beidio â chydnabod yr hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth. Mae camau a gymerwyd gan y lle hwn i osgoi ysmygu mewn rhai rhannau o'r ystâd gyhoeddus yn arbennig wedi cael effaith wirioneddol ar newid natur y sgwrs ynghylch ysmygu. Mae'n rhan o'r arfogaeth sydd gennym wrth leihau cyfraddau ysmygu mewn gwirionedd. Roedd yn ddewis anodd ei wneud. Efallai bod pobl yn meddwl erbyn hyn wrth gwrs, na ddylech chi gael ysmygu mewn amrywiaeth o fannau cyhoeddus, ond roedd gwrthwynebiad gwirioneddol a sylweddol iawn ar y pryd oherwydd bod y lle hwn wedi dewis gwahardd hynny. Ni oedd y rhan gyntaf o'r DU i wneud hynny. O ran eich pwynt ynglŷn ag e-sigaréts, wel, nid yw e-sigaréts heb niwed; nid yw’n wir nad oes niwed o gwbl. Yr her yw nad ydym yn deall union natur y niwed yn y cynhyrchion hyn. Dyna pam y mae rheoleiddio yn cael ei ddatblygu ar yr hyn y gellid ac y dylid fod mewn e-sigarét. Ond rwy’n cydnabod bod rhai pobl yn eu defnyddio wrth geisio rhoi'r gorau iddi, ond rydym wedi parhau i ddweud, fel Llywodraeth, y byddwn yn cael ein harwain gan y dystiolaeth a'r hyn sydd ar gael, am y niwed a achosir gan e-sigaréts, ac yna fel dewis arall i dybaco. Felly, nid wyf i ar ffansi heddiw yn mynd i gyhoeddi dull cwbl wahanol neu newydd. Byddwn yn parhau i ddefnyddio dull rhagofalus, ond byddwn yn cael ein harwain gan y dystiolaeth ar y ffordd iawn ymlaen.
Yn olaf, eich pwynt am ddeiet ac ymarfer corff. Unwaith eto, mae wedi codi mewn cwestiynau eraill, ond ceir neges ysgolion iach gyson, a bydd unrhyw Aelod sy'n ymweld ag un o'u hysgolion cynradd lleol yn arbennig yn ei chael hi’n anodd iawn peidio â gweld negeseuon byw'n iach a bwyta'n iach yn eu hysgolion. Felly, mewn gwirionedd, rwy’n meddwl bod ein hysgolion yn cyflawni eu rhan nhw o'r fargen o ran darparu’r neges bwyta'n iach, byw'n iach honno. Mae'r gwaith yr ydym yn ei wneud, er enghraifft, wrth gyflwyno'r filltir ddyddiol mewn ysgolion yn rhan o'r neges honno. Yr her bob amser yw sut yr ydym yn ymgysylltu â'r grŵp o rieni a gofalwyr o gwmpas yr ysgol honno, oherwydd y maen nhw’n dylanwadau mwy nag y mae ein hysgolion eu hunain ar yr ymddygiadau iechyd y mae pobl yn eu magu ac yna'n eu parhau yn eu bywydau fel oedolion. Felly, mae'n ymwneud â’r darlun cyfan; nid dim ond dweud mai cyfrifoldeb ysgolion yw hyn, oherwydd mewn gwirionedd, mae pob un ohonom yn ein swyddogaethau—fel unigolion, rhieni a gofalwyr ac yn ein swyddogaethau mewn cymunedau—mae gennym ni rywfaint o gyfrifoldeb hefyd, ond yr her bob amser yw sut yr ydym ni’n helpu pobl i wneud dewisiadau , yn hytrach na chael ein gweld yn pregethu wrth bobl neu ddweud wrthynt eu bod yn gwneud y peth anghywir. Mewn gwirionedd, nid yw hynny wedi profi i fod yn ffordd effeithiol iawn o gyflawni newid. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn deall negeseuon byw'n iach a bwyta'n iach; ein her ni yw sut yr ydym am eu helpu i wneud hynny’n fwy llwyddiannus ac yn fwy effeithiol.
Ac yn olaf, Suzy Davies.
Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr iawn am eich datganiad heddiw, ac am yr wybodaeth yr ydych wedi ei rhoi i ni. Rwy’n sicr yn gwerthfawrogi hynny. Un o'r pethau yr oeddwn i eisiau eich holi amdano oedd un o'r camau gweithredu allweddol yn y cynllun cyflawni ar gyfer cyflyrau'r galon, sef y cynllun i gael cynllun trawiad ar y galon y tu allan i'r ysbyty ar gyfer Cymru—rhywbeth y byddwn i yn sicr yn ei groesawu. Nawr, byddai’r cynllun hwnnw yn sicrhau bod llwybrau clir ar gyfer rheoli cleifion ar ôl i’w cylchrediad y gwaed ddychwelyd yn digymell, ac rwy’n credu y gallwch chi gynllunio ar gyfer hynny. Yr hyn sy’n fwy anodd i gynllunio ar ei gyfer yw colli cylchrediad gwaed digymell yn y lle cyntaf.
Heb achub y blaen ar ddadl yfory, rwy’n credu y gallech chi ystyried mwy o ddiffibrilwyr, a hyfforddiant ar lefel y boblogaeth gyfan i roi'r hyder o ran sut i ddefnyddio'r offer, sut i’w ymarfer a’i ddiweddaru, oherwydd y mae angen iddo gael ei ddiweddaru—technegau adfywio cardiopwlmonari ehangach. Gallai'r holl bethau hyn mewn gwirionedd fod yn gam 1 o'ch cynllun gweithredu ar y galon y tu allan i'r ysbyty. Os ydych chi’n cytuno â hynny, tybed a ydych chi’n credu mai’r ffordd o greu’r cam cyntaf hwnnw fyddai drwy fabwysiadu ymagwedd hawliau a chyfrifoldebau, yn hytrach na dibynnu ar y math o weithgaredd a grybwyllwyd gennych yn y datganiad a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr—a oedd yn dangos cynnydd enfawr, yr oedd croeso mawr iawn, iawn iddo, mewn diddordeb a gweithgarwch ar y mater o sgiliau achub bywyd mewn argyfwng, ond mae’n ymddangos nad oes unrhyw sicrwydd o hirhoedledd, mewn gwirionedd, nac o gyrraedd y boblogaeth gyfan, sef yr hyn y byddai wedi bod ei angen er mwyn rheoli yr hyn na ellir ei reoli, sef natur ysbeidiol ac ar hap pobl sy’n cael trawiad ar y galon y tu allan i leoliad ysbyty. Diolch.
Dywedais fis Ebrill, ond mewn gwirionedd, ym mis Mai y byddaf yn disgwyl gallu cyhoeddi'r cynllun newydd. Nid wyf innau am achub y blaen yn llwyr ar ddadl yfory ychwaith, y byddwch chi’n ei harwain ar gynnig deddfwriaethol newydd, ond mae peth o hyn yn ymwneud â sut yr ydym yn darparu mwy o sgiliau achub bywyd a ble a sut yr ydym yn mynd i allu gwneud hynny. Ac mae cydbwysedd rhwng yr hyn yr ydym yn ei wneud yn orfodol, a'r hyn nad ydym yn ei wneud yn orfodol. Byddwch yn gweld yr ymagwedd—nid wyf i’n mynd i achub y blaen ar ddatganiad a dadl yfory—. Ond mae rhan o hyn yn sicr wedi bod ynglŷn â deall lle mae'r holl diffibrilwyr.
Felly, mewn gwirionedd, ychydig o flynyddoedd yn ôl, lansiwyd yr hyn y gwnaethom ei alw’n amnest—sydd yn ôl pob tebyg y term anghywir, mewn gwirionedd—ar ble y mae’r diffibrilwyr ac ynghylch sicrhau eu bod ar gael i'r cyhoedd. Roedd gan nifer o fusnesau un, ond roeddent ar gael y tu mewn i’r gweithle hwnnw yn hytrach nag ar gyfer aelodau'r cyhoedd. Yn wir, ymwelais â thafarn ar stryd fawr y Barri, gyda'r Aelod dros Fro Morgannwg, i edrych ar eu diffibriliwr nhw, a oedd ar y gofrestr, ac felly roedd Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gwybod lle yr oedd, roedd ymatebwyr cyntaf cymunedol yn gwybod lle y mae ac yna’n gallu ei ddefnyddio os ceir trawiad sydyn ar y stryd fawr yn y Barri. Felly, mae hynny'n rhan o'r hyn y mae angen i ni wneud mwy ohono yn fwy effeithiol. Rydym ni eisoes wedi cofrestru 2,000 o ddiffibrilwyr ledled y wlad, ac mae'n ymwneud â deall mwy am yr hyn y gallwn ei wneud mwy ohono yn y maes hwnnw, yn ogystal ag arfogi pobl â'r sgiliau achub bywydau hynny.
Ni ddywedaf fwy ar hyn o bryd, Ddirprwy Lywydd, oherwydd mae gennym ddadl ar hyn yfory, ac nid wyf am achub y blaen ar unrhyw beth y gallech ei ddweud yno, neu unrhyw beth y gallwn i ei ddweud mewn ymateb i'r ddadl. Ond rydym ni yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i’r mater hwn, ac rydym ni wrth gwrs yn awyddus i wneud cynnydd pellach.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.