5. 3. Datganiad: Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau ar y Galon

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:46, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Dywedais fis Ebrill, ond mewn gwirionedd, ym mis Mai y byddaf yn disgwyl gallu cyhoeddi'r cynllun newydd. Nid wyf innau am achub y blaen yn llwyr ar ddadl yfory ychwaith, y byddwch chi’n ei harwain ar gynnig deddfwriaethol newydd, ond mae peth o hyn yn ymwneud â sut yr ydym yn darparu mwy o sgiliau achub bywyd a ble a sut yr ydym yn mynd i allu gwneud hynny. Ac mae cydbwysedd rhwng yr hyn yr ydym yn ei wneud yn orfodol, a'r hyn nad ydym yn ei wneud yn orfodol. Byddwch yn gweld yr ymagwedd—nid wyf i’n mynd i achub y blaen ar ddatganiad a dadl yfory—. Ond mae rhan o hyn yn sicr wedi bod ynglŷn â deall lle mae'r holl diffibrilwyr.

Felly, mewn gwirionedd, ychydig o flynyddoedd yn ôl, lansiwyd yr hyn y gwnaethom ei alw’n amnest—sydd yn ôl pob tebyg y term anghywir, mewn gwirionedd—ar ble y mae’r diffibrilwyr ac ynghylch sicrhau eu bod ar gael i'r cyhoedd. Roedd gan nifer o fusnesau un, ond roeddent ar gael y tu mewn i’r gweithle hwnnw yn hytrach nag ar gyfer aelodau'r cyhoedd. Yn wir, ymwelais â thafarn ar stryd fawr y Barri, gyda'r Aelod dros Fro Morgannwg, i edrych ar eu diffibriliwr nhw, a oedd ar y gofrestr, ac felly roedd Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gwybod lle yr oedd, roedd ymatebwyr cyntaf cymunedol yn gwybod lle y mae ac yna’n gallu ei ddefnyddio os ceir trawiad sydyn ar y stryd fawr yn y Barri. Felly, mae hynny'n rhan o'r hyn y mae angen i ni wneud mwy ohono yn fwy effeithiol. Rydym ni eisoes wedi cofrestru 2,000 o ddiffibrilwyr ledled y wlad, ac mae'n ymwneud â deall mwy am yr hyn y gallwn ei wneud mwy ohono yn y maes hwnnw, yn ogystal ag arfogi pobl â'r sgiliau achub bywydau hynny.

Ni ddywedaf fwy ar hyn o bryd, Ddirprwy Lywydd, oherwydd mae gennym ddadl ar hyn yfory, ac nid wyf am achub y blaen ar unrhyw beth y gallech ei ddweud yno, neu unrhyw beth y gallwn i ei ddweud mewn ymateb i'r ddadl. Ond rydym ni yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i’r mater hwn, ac rydym ni wrth gwrs yn awyddus i wneud cynnydd pellach.