7. 5. Datganiad: Gweithio Gyda'n Gilydd i Greu Cymunedau Mwy Diogel

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 4:04, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau pellgyrhaeddol. [Chwerthin.] Roeddwn i’n prysur redeg allan o le ar fy nhudalen, ond byddaf yn ceisio ymdrin â'r rhan fwyaf o'r pwyntiau a godwyd gan yr Aelod. A gaf i ddechrau gyda’i bwynt cyntaf, ac adolygiad Charlie Taylor o ran gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid? Rwyf i wedi gwneud barn Llywodraeth Cymru yn glir iawn i Lywodraeth y DU ar adroddiad Charlie Taylor. Nid wyf yn credu ei fod yn adlewyrchu'n gywir y materion gwirioneddol o ran yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru. Mae'r ffordd yr ydym wedi gallu ymdrin â chyfiawnder ieuenctid yn wahanol iawn, ac mae'r gwasanaethau a’r swyddogaethau datganoledig sy'n dilyn o’r gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid yn dangos yn glir ein bod ni’n gwneud rhywbeth yn arbennig o dda yng Nghymru yn y lle hwn. Byddwn i’n gofyn i'r Aelod edrych ar y cynlluniau arbrofol lle’r ydym wedi cyflwyno gwell system ar gyfer rheoli achosion troseddwyr ifanc. Yn wir, mae cynllun treialu yn Sir y Fflint, lle y cafwyd canlyniadau gwych yn sgil ymyrraeth ar y pen anodd iawn o aildroseddwyr, lle nad ydyn nhw’n aildroseddu bellach oherwydd y dulliau cefnogi sydd gennym ar waith gyda'r bwrdd cyfiawnder ieuenctid. Rwy'n gobeithio y gallwn ni gyflwyno hyn ledled Cymru gyfan, ac ar y cyd â’r Gweinidogion yn San Steffan. Rwyf wedi cael sgwrs hir ag ef. Cyfarfûm â Dr Phillip Lee, yr AS, ychydig cyn y Nadolig a thrafod sut y gallwn ni edrych ar Gymru fel achos penodol iawn, yn sgil y natur ddatganoledig, ac yr oedd yn fodlon trafod hynny ymellach.

Rwy’n credu, o ran y materion sy'n ymwneud â'r gwasanaethau brys a gododd yr Aelod o ran yr heddlu a'r gwasanaeth tân, fy mod am dalu teyrnged i’r ddau sefydliad hynny, un wedi’i ddatganoli ac un heb ei ddatganoli, ond, mewn gwirionedd, maen nhw’n gweithio yng nghyd-destun Cymru, ac maen nhw’n gwneud gwaith gwych ar y rheng flaen. Talaf deyrnged i aelodau staff gweithredol ar lawr gwlad a phobl sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni, sydd yn aml yn arwyr di-glod, hefyd. Mae’r cadetiaid heddlu gwirfoddol a'r prosiect Phoenix y mae’r gwasanaeth tân yn ei weithredu yn ddau gynllun rhagweithiol iawn lle, unwaith eto, maen nhw’n meddwl mewn ffordd wahanol—mae’n nhw’n gweithredu agenda gwasanaeth tân a mwy neu wasanaeth heddlu a mwy, sydd wirioneddol yn mynd i galon ein cymunedau.

Ac ar y mater a godwyd ynglŷn â’r gwasanaeth tân a thanau bwriadol, cafodd y Gweinidog blaenorol gyfarfod ar y cyd ag awdurdodau lleol, awdurdodau tân a'r heddlu, ar y mater hwn i weld sut y gallen nhw roi terfyn ar danau glaswellt anghyfreithlon. Rydym ni wedi cael rhywfaint o lwyddiant yn hynny o beth, ond, yn y pen draw, mae tanau bwriadol yn drosedd a dylid hysbysu amdanynt, a byddwn yn mynd i'r afael â’r materion hynny. Ac mae’r mater o danau bwriadol mewn cartrefi neu ddiwydiant yn aml yn ffordd o guddio trosedd ychwanegol hefyd, ac mae'r gwasanaeth tân yn awyddus iawn i wneud yn siwr ein bod yn gweithredu ar hyn.

Rwy'n credu fy mod i’n iawn yn dweud, ond o ran mater yr heddlu ac ymateb i alwadau iechyd neu bryderon iechyd, rwy’n credu fy mod i'n iawn yn dweud bod gweithiwr iechyd proffesiynol wedi’i leoli mewn rhai o'r ystafelloedd rheoli erbyn hyn, lle gallan nhw roi gwell cyngor. Os wyf i'n anghywir, maddeuwch i mi, ond rwy’n credu fy mod i’n iawn, mewn rhai o'r heddluoedd, ond nid ym mhob un, mae rhywun yn y man hwnnw, ac mae’n rhywbeth yr ydym yn dymuno parhau i weithio arno gyda'n cydweithwyr iechyd.

Y broses VAWDA: mae ein hyfforddiant 'gofyn a gweithredu' yn cael ei gyflwyno ar draws llawer o sefydliadau’r sector cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Rydym ni hefyd yn cynnwys y rhaglen hyfforddi ar gyfer sefydliadau nad ydyn nhw wedi eu cynnwys yn y Ddeddf, ac mae llawer o gymdeithasau tai sydd eisoes wedi dechrau’r hyfforddiant hwnnw hefyd. Rwy’n cytuno â'r Aelod am y dull ysgol gyfan hwnnw, ac mae'n rhywbeth y byddaf i’n rhoi diweddariad i'r Aelodau amdano pan fydd gennyf ragor o fanylion, ac rwyf i wedi trafod yr union fater hwnnw gyda fy nhîm.

Rhaglenni troseddwyr: mae'n rhaid i ni wneud mwy o waith ar hyn. Mae cynllun arall sy'n gweithredu yn y de, mewn gwirionedd, ar sail cyfnod prawf. Heddlu Essex sydd wedi’i ddatblygu, ac enw’r prosiect yw Drive, sydd, unwaith eto, yn rhaglen arall sy’n canolbwyntio ar y troseddwr. Mae Atal y Fro yn sefydliad arall yr wyf yn gyfarwydd iawn ag ef. Mae’n rhaid i ni fynd i'r afael â hyn o’r ddau ben: sicrhau y gallwn gefnogi unigolion sy'n dioddef trais yn y cartref, ond hefyd mynd i'r afael â'r mater o ran troseddwyr hefyd.

Y pwynt olaf yr wyf am ei godi yw dull egwyddor cyffredinol o ymgysylltu â'r trydydd sector, a pha un a fyddai hynny drwy'r prosiect OWL, a gododd yr Aelod, neu beidio. Mae'r grŵp goruchwylio yn rheswm pam yr wyf wedi dechrau dull newydd o edrych ar sut y mae diogelwch cymunedol yn edrych a sut y mae’r partneriaid hynny yn rhyngweithio. Roedd adroddiad yr archwilydd cyffredinol mewn rhai mannau yn—. Roedd rhai pwyntiau hollbwysig ynddo, ond, mewn gwirionedd, rwy’n credu ei fod yn rhoi cyfle i ni edrych mewn ffordd gwbl newydd ar y ffordd yr ydym yn ymdrin â diogelwch cymunedol gyda'n sefydliadau partner, gan gynnwys y trydydd sector a gododd yr Aelod.