Part of the debate – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 7 Chwefror 2017.
Diolch yn fawr am y datganiad, ac mae o’n cynnwys nifer o faterion. Byddwch chi’n falch o glywed fy mod i’n mynd i siarad am bedwar maes. Rwy’n nodi eich bod chi yn gweithio efo comisiynwyr yr heddlu wrth daclo eithafiaeth. Buaswn i’n licio gwybod a ydy hyn yn cynnwys eithafiaeth gan grwpiau asgell dde gwyn, sef un o’r bygythiadau pennaf sy’n ein hwynebu ni yn y Gymru gyfoes. Ac a oes gennych chi raglen waith i weithio efo pobl ifanc bregus sydd ar gyrion y dde eithafol ac yn cael eu hudo atyn nhw, yn anffodus, ar hyn o bryd?
Diolch am y diweddariad am y gwaith sydd wedi’i wneud ers pasio’r Ddeddf trais yn erbyn merched, ond hyd y gwelaf i, nid oes yna ddim yn y datganiad am ddatblygu perthnasoedd iach yn ein hysgolion. Fel y gwyddoch chi, roedd yn bwnc trafod allweddol yn ystod y cyfnod pan oedd y Ddeddf yn mynd trwyddo. Felly, pryd gawn ni weld addysg perthnasoedd iach safonol yn ein hysgolion ni? Mae hyn yn rhan bwysig o’r newid mawr cymdeithasol sydd ei angen a’r parch yr ydym ni angen ei feithrin at ein gilydd boed yn ddynion neu’n ferched.
Rydw i’n croesawu’r diweddariad am rôl ehangach y gwasanaeth tân yn sgil y lleihad mewn tanau, ac rydw i’n nodi hefyd eich bod chi’n ystyried dyletswydd gyfreithiol newydd ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau llifogydd— rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn galw amdano ers tro. Mae’r llwyddiant efo lleihau’r tanau yn cynnig cyfle i edrych ar ddyletswyddau ehangach ar gyfer y gwasanaeth tân. Hoffwn i wybod a ydych chi yn barod i ystyried hynny—hynny yw, i ehangu allan rôl y gwasanaeth tân.
Mae’r datganiad yn sôn eithaf tipyn am y cydweithio rhwng sefydliadau datganoledig a’r rhai sydd heb eu datganoli. Ond, yn amlwg, mae yna ben draw i hynny ac rydw i’n siŵr bod yna wrthdaro yn codi hefyd ar brydiau. A ydy hynny yn ffaith sydd yn mynd yn fwyfwy rhwystredig i chi, ac a fyddai, er enghraifft, datganoli’r heddlu yn eich helpu chi i gyrraedd rhai o’ch amcanion yn y maes yma? A fyddech chi’n gallu gwneud mwy o gynnydd, hynny yw, petai rhai o’r pwerau yma yn gorwedd yng Nghymru er mwyn symud y maes ymlaen?