7. 5. Datganiad: Gweithio Gyda'n Gilydd i Greu Cymunedau Mwy Diogel

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 4:11, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau cryno. Yn wir, ynglŷn â mater y comisiynwyr heddlu a throseddu, rwy’n cyfarfod â nhw yn rheolaidd, ac rwy’n cwrdd â'r prif swyddogion hefyd. Rydych chi'n iawn i godi mater y casineb a ddangosir gan lawer o unigolion yr asgell dde. Mae’r heddlu yn awyddus iawn i weithredu ar hyn. Hefyd, rydym ni’n buddsoddi mewn CONTEST a bwrdd eithafiaeth Cymru i wneud yn siŵr bod gennym ddealltwriaeth o’r hyn sy'n digwydd yn ein cymunedau. Ond mae faint o adrodd a wneir wedi cynyddu, ac ers Brexit cyrhaeddwyd brig o ran troseddau casineb, ac mae'n rhywbeth y mae'r comisiynwyr yn pryderu yn ei gylch, ac rwyf i wedi codi hynny gyda nhw o ran rheoli'r sefyllfa honno.

O ran perthnasoedd iach a thrais yn y cartref, rwy'n ddiolchgar am sylwadau'r Aelod am y camau cadarnhaol yr ydym yn parhau i’w cymryd fel Llywodraeth, ond yr ydych yn gwthio drws agored yn hyn o beth gyda mi o ran perthnasoedd iach a sut yr ydym yn datblygu hynny. Mae'r adolygiad Diamond yn rhan hollbwysig o edrych ar y cwricwlwm ar gyfer y dyfodol, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg—rydym ni wedi cael sgyrsiau am sut y mae perthnasoedd iach yn edrych o ran symud hynny ymlaen.

Mae'r gwasanaeth tân wedi gwneud gwaith gwych o ran lleihau nifer y tanau. Fel y dywedais yn gynharach, bu gostyngiad o oddeutu 50 y cant yng ngweithgarwch tân yr awdurdodau, ond rwy’n siarad â'r prif swyddogion tân a'r byrddau am hyn. Siaradais â nhw yr wythnos hon, mewn gwirionedd, ynglŷn â’r pwyllgor materion cenedlaethol, lle'r ydym yn edrych ar gydweithredu a chydweithio i gyflawni dyletswyddau newydd neu gyfleoedd newydd. Mae'n broses bwysig ein bod yn siarad â'r undebau llafur a rheolwyr y timau i sicrhau y gallwn symud ymlaen gyda'n gilydd mewn modd cadarnhaol, pryd y gallan nhw symud i swyddogaeth newydd sy'n diogelu’r gorsafoedd tân a’r personél tân yn ein cymunedau, y mae pob ohonom yn eu gwerthfawrogi’n fawr iawn.

O ran datganoli’r heddlu, nid ydym yn profi gormod o densiwn ar hyn o bryd o ran gweithgareddau, ond roedd ein safbwynt ar ddatganoli'r heddlu yn glir iawn o ran Bil Cymru. Rydym ni mewn cyfnod penodol ar hyn o bryd, ond pwy a ŵyr yn y dyfodol? Gallai datganoli ein cynorthwyo i reoli diogelwch cymunedol yn well ar ein cyfer.