8. 6. ‘Diogelu Dyfodol Cymru’: Trefniadau Pontio o'r Undeb Ewropeaidd i Berthynas Newydd ag Ewrop

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 5:07, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Pan siaradais yn y Siambr hon rai dyddiau ar ôl pleidlais y refferendwm, roeddwn yn mynegi siom enfawr wrth y canlyniad, ond gan ychwanegu bod yn rhaid inni dderbyn y canlyniad a dyna yw fy safbwynt o hyd. Ac mae hynny er gwaethaf y ffaith bod 62 y cant o bleidleiswyr ym Merthyr Tudful naill ai wedi pleidleisio i aros neu heb bleidleisio o gwbl. Yn anffodus, doedd trothwy pleidleisio’r undebau llafur ddim yn berthnasol yn y refferendwm, felly y mwyafrif pleidleisio syml ar y diwrnod hwnnw oedd yn ennill. Ond ac ystyried y rhaniad barn clir hwnnw, byddaf yn derbyn fy nghyfrifoldeb i ystyried beth sydd er pennaf les fy holl etholwyr. Yn fwy na dim, yr hyn sydd ei angen ar bawb yw i’r Llywodraeth roi terfyn ar yr ansicrwydd. Ond saith mis yn ddiweddarach, mae’r ansicrwydd hwnnw’n parhau.

Lywydd, roeddwn yn fwy trist nag wedi fy syfrdanu wrth ganlyniad y refferendwm, nid oherwydd yr hyn oedd yn ei olygu i mi yn bersonol, ond oherwydd yr hyn y byddai'n ei olygu i bobl yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig y Deyrnas Unedig. I lawer, roedd pleidleisio ‘gadael’ yn bleidlais daer dros newid, pleidlais dros rywbeth gwell gan bobl a oedd wedi dioddef darnio eu cymunedau yn yr 1980au a'r 1990au, gan arwain at aelwydydd heb waith am ddegawdau, ac yn y pen draw daeth yr union gymunedau hynny yn ddioddefwyr y mesurau cyni a osodwyd gan y Torïaid. Ond fy ofn gwirioneddol yw, ar ôl Brexit, na fydd yn dod â'r newid y mae pobl yn erfyn amdano, ac mai’r union bobl a bleidleisiodd i adael yw'r union bobl sydd ag angen y gefnogaeth yr oedd yr UE yn ei darparu fwyaf.

Daeth yn amlwg hefyd bod llawer o bobl wedi pleidleisio i adael oherwydd ystod o bethau yr oedden nhw’n credu y bydden nhw’n deillio o adael yr UE, gan gynnwys terfyn ar fewnfudo. Ond pan gefais sgyrsiau â llawer o'r bobl hyn, nid oedd eu pryderon am fewnfudo wedi’u hategu gan unrhyw brofiadau personol ac nid oedden nhw ychwaith, yn wir, yn gallu dweud gydag unrhyw sicrwydd sut yr oedd mewnfudo wedi effeithio'n andwyol arnyn nhw. Fodd bynnag, wedi’u gwysio gan y celwyddau a'r propaganda Goebbels-aidd gan y cyfryngau adain-dde, cafodd mewnfudwyr eu pardduo fel achos yr heriau yr oedden nhw’n eu hwynebu o ddydd i ddydd. Ond, wrth gwrs, nid y celwyddau am fewnfudo oedd yr unig rai o bell ffordd. Roedd yr holl ymgyrch ‘gadael’ yn seiliedig ar gelwyddau ac addewidion ffug, boed yr addewid i ail-fuddsoddi £350 miliwn yn y GIG neu'r cyfoeth a fyddai'n deillio o gytundebau masnach newydd, y cyfeiriodd Ken Clarke atyn nhw yr wythnos diwethaf fel 'ffantasïau Alice in Wonderland'.

I mi, fodd bynnag, canlyniad mwyaf trallodus y bleidlais ‘gadael’ fu'r cynnydd helaeth mewn achosion o hiliaeth agored a chyhoeddus a normaleiddio ymddygiad o'r fath. Yn anffodus, nid yw hyn wedi dangos llawer o arwyddion o arafu, a phan fyddwch yn cyplu hyn â'r hyn yr ydym wedi ei weld gan Donald Trump ac esgyniad yr adain dde hiliol mewn rhannau eraill o Ewrop, mae’n rhaid i hyn beri pryder inni i gyd.

Am eiliad, a gaf i ganolbwyntio ar yr effaith bersonol ar ddinasyddion yr UE sydd wedi eu dal yn yr ansicrwydd presennol, yma ac yn Ewrop? Dysgais yn ddiweddar am un o ddinasyddion yr UE—Almaenwr—a ddaeth i'r DU 40 mlynedd yn ôl. Mae'n byw yng Nghymru gyda'i bartner ac mae wedi sefydlu rhaglen fach, lwyddiannus sy'n seiliedig ar y celfyddydau. Er gwaethaf yr hyn yr ydym wedi’i glywed o feinciau'r Ceidwadwyr yma, mae ef, ei wraig a'i fab bellach yn wynebu ansicrwydd ynghylch a fyddan nhw’n gallu aros gyda'i gilydd, yn byw yn y wlad hon, ac mae'n credu bod ei deulu ac eraill mewn sefyllfaoedd tebyg yn cael eu defnyddio fel sglodion bargeinio yn nhrafodaethau Brexit Theresa May. A beth am ddinasyddion y DU sy'n byw yn Ewrop? Beth sy'n digwydd iddyn nhw? Mae hynny'n dal i fod yn anhysbys.

Os oes angen argyhoeddi unrhyw un o hyd pa mor daer yw hyn, edrychwch ar y ffigurau gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth sy'n dangos bod cofrestru staff nyrsio Ewropeaidd yn y DU wedi gostwng yn syfrdanol o 90 y cant ers y refferendwm.

Felly, wrth inni symud ymlaen, beth ydyn ni ei eisiau gan Brexit? Yn fwy na dim arall, i bobl Merthyr Tudful a Rhymni, ni waeth sut y gwnaethon nhw bleidleisio yn y refferendwm, hoffwn i weld tai boddhaol, fforddiadwy; gwell gwasanaethau; twf busnes; swyddi cynaliadwy sy’n talu’n dda; terfyn ar dlodi; a chymunedau bywiog a ffyniannus. Mae arian yr UE wedi cyfrannu’n aruthrol at drawsnewid fy etholaeth i dros y blynyddoedd, ac er nad yw pobl bob amser wedi teimlo’r manteision uniongyrchol o ganlyniad i effeithiau’r mesurau cyni, mae’n rhaid i rywbeth gymryd lle arian yr UE sydd wedi cael ei fuddsoddi mewn cymunedau fel Merthyr Tudful a Rhymni, oherwydd mae’r amgylchedd lle mae pobl yn byw yn hanfodol i ansawdd eu bywyd ac mae’n mynd law yn llaw â buddsoddiadau economaidd eraill.

Felly, mae’n rhaid i Lywodraeth y DU ymdrin yn awr â'r ansicrwydd sy'n parhau; cydnabod pwysigrwydd cyllid yr UE, yn hanesyddol, i sawl rhan o Gymru; ystyried dymuniadau ac anghenion cenhedloedd datganoledig mewn unrhyw drafodaethau i sicrhau nad yw ein cymunedau ni yma yng Nghymru ar eu colled o ganlyniad i Brexit; a dod o hyd i ffordd o droi hyn yn ffordd gadarnhaol ymlaen ar gyfer yr ardaloedd difreintiedig hynny sydd wedi cael eu gadael ar ôl yn flaenorol. Am y rhesymau hyn, Lywydd, ynghyd â llawer o rai eraill nad wyf wedi cael amser i roi sylw iddyn nhw heddiw, rwy’n cefnogi’r cynnig a Phapur Gwyn Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ‘Sicrhau Dyfodol Cymru’.