Part of the debate – Senedd Cymru am 5:24 pm ar 7 Chwefror 2017.
Cyn troi at fanylder y Papur Gwyn, hoffwn i ddweud ychydig eiriau am y cyd-destun gwleidyddol cyffredinol a sut rydym ni’n trin ein gilydd fel dinasyddion, ar ôl mynd trwy ymgyrch a phroses ‘binary’ fel y refferendwm llynedd. Ar brydiau, mae tôn y ddadl gyffredinol wedi bod yn ffiaidd, a hyd yn oed yn dreisgar ar adegau. Mae’n iawn, wrth gwrs, mewn cymdeithas ddemocrataidd inni ddadlau a dadlau’n frwd, ond ni ddylem ni fyth stopio parchu gwahaniaethau barn a thrin ein gilydd mewn ffordd barchus a hyd yn oed caredig, a dylai gwleidyddion, efallai, ddangos esiampl ar hyn.
Ond, a throi at y Papur Gwyn, i Blaid Cymru, mae’n hymateb i ganlyniad y refferendwm wedi ei seilio ar egwyddorion cyson, ac rwy’n falch bod y rhain wedi eu hadlewyrchu ym Mhapur Gwyn cenedlaethol Cymru. Yn gyntaf, tra bod mandad i adael yr Undeb Ewropeaidd, nid oes mandad i adael y farchnad sengl, a dylai buddiannau economaidd Cymru, yn cynnwys amaeth a diwydiant, gael eu diogelu, yn ogystal, wrth gwrs, ag ariannu i gymunedau tlawd. Yn ail, nid oes yn bendant dim mandad i dynnu nôl ar ddatganoli. Yn drydydd, dylai Cymru gael rôl glir yn y negodi gyda’r Undeb Ewropeaidd. Yn bedwaredd, dylai Cymru adnewyddu ei phroffil rhyngwladol er mwyn sicrhau nad oes dehongliad ein bod ni fel cenedl am ynysu ein hunain o’r byd. Yn bumed, ni ddylai pobl ifanc Cymru golli’r cyfleoedd sydd ganddyn nhw nawr yn nhermau cael profiad o fywyd tramor neu yn nhermau astudio tramor ychwaith. Ac, yn olaf, ni ddylai fod yna gost ddynol i adael yr Undeb Ewropeaidd, naill ai drwy golli hawliau i weithwyr yng Nghymru neu golli safonau amgylcheddol, nac ychwaith hawliau i ddinasyddion o wledydd eraill Ewrop sydd yn byw yma i aros yma.
Rwy’n falch bod yr egwyddorion yma i gyd wedi eu plethu drwy’r Papur Gwyn cenedlaethol Cymreig ac wedi eu gosod yn glir. Mae’n biti, yn wir, bod Papur Gwyn San Steffan ddim llawer mwy na chyfres o ddisgrifiadau o’r problemau, yn hytrach na chynnig ar atebion, ond, yn nhermau’r camau nesaf, beth sydd yn hollbwysig nawr yw nad yw Llywodraeth Cymru yn penderfynu eistedd yn ôl a gwylio datblygiadau yn digwydd o’u blaenau. Rhaid iddyn nhw benderfynu siapio’r dyfodol yn hytrach nag aros i’r dyfodol eu siapio nhw.
Mae’r Papur Gwyn yn cynnwys nodau y gall Llywodraeth Cymru weithredu arnyn nhw yn syth, heb orfod aros i unrhyw Lywodraeth arall. Er enghraifft, gall Llywodraeth Cymru gyhoeddi polisi rhyngwladol newydd i hyrwyddo Cymru yn fydol, a gallan nhw wneud hyn nawr. Gall Llywodraeth Cymru ddechrau proses i geisio ymaelodi â chyrff rhyngwladol sydd yn ymwneud â materion sydd yn disgwyl cael eu trosglwyddo o’r Undeb Ewropeaidd i Gymru. Gall Llywodraeth Cymru ddatgan ei bwriad i sicrhau partneriaeth swyddogol newydd gyda Gweriniaeth Iwerddon i sicrhau cydweithio yn y dyfodol. Gall Llywodraeth Cymru gynnig cynnal confensiwn cyfansoddiadol a gwahodd Llywodraethau’r ynysoedd yma i ddod a chymryd rhan, yn enwedig ar fater y farchnad sengl Brydeinig a’i dyfodol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Gall Llywodraeth Cymru ddechrau ymgynghoriad ar bolisi rhanbarthol newydd i Gymru a gall y Llywodraeth wneud hyn nawr. Gall Llywodraeth Cymru ddatgelu fframwaith newydd ar gyfer dyfodol ein cymunedau amaethyddol.
Fy apêl i yw i wneud popeth y gallwn ni i roi cryfder i Gymru drwy gymryd yr awenau ein hunain. Bydd y fath agwedd nid yn unig o fudd i’n heconomi ni a’n cenedl ni, ond hefyd bydd yn ddull gwerthfawr i ddod â’n gwlad ni yn ôl at ei gilydd ar ôl cyfnod o ymraniad niweidiol iawn.