8. 6. ‘Diogelu Dyfodol Cymru’: Trefniadau Pontio o'r Undeb Ewropeaidd i Berthynas Newydd ag Ewrop

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 5:57, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod y rheswm dros welliant Plaid Cymru i’r ddadl heddiw, er ein bod yn cytuno â'r Papur Gwyn, yn eithaf clir, ac mae wedi ei fynegi’n well gan Gerry Holtham i'r Arglwyddi y bore yma, mewn gwirionedd, wrth archwilio hyn pan ddywedodd:

Heb amddiffyniad cyfansoddiadol bydd buddiant Cymru yn cael ei anwybyddu

Ac aeth ymlaen i ddweud hefyd:

Y realiti gwleidyddol creulon yw mai ychydig o seddi ymylol sydd gennym ac nid ydym yn bwysig.

Wel, mae'r gwelliant hwn, a’r hyn y mae Plaid Cymru yn siarad amdano, yn gwneud yn siŵr ein bod yn bwysig, ac er na allwn wneud y gwarantau yn y Cynulliad o fesurau diogelu ynghylch osgoi llanast yn cael ei wneud o Brexit gan Theresa May a'r Ceidwadwyr, gallwn roi rhybudd—rhybudd na fyddwn yn maddau i’r rhai sy'n negodi ar ein rhan am fargen wael i Gymru.

Gallwn hefyd anfon neges gref iawn gyda’r gwelliant hwn a’r ddadl hon heddiw. Am 20 mlynedd, mae'r Eurosceptics wedi beio'r Undeb Ewropeaidd ac ymfudwyr am bob peth drwg ac am bob sarhad canfyddedig. Ac er bod y rhan fwyaf o'r penderfyniadau sydd wedi gadael llawer o'n cymunedau yn garpiog ac yn wag wedi cael eu gwneud gan Lywodraethau San Steffan, mae hefyd wedi bod yn gyfleustra gwleidyddol mawr, hyd yn oed i’r rheini o blaid yr UE, i wyro tân gwleidyddol ar sefydliadau'r UE yn hytrach na nhw eu hunain. Ac ym mis Mehefin gwnaethom dalu’r pris am y ffolineb hwnnw a’r anghyfrifoldeb hwnnw.

Wel, nid yw Brexit yn dod â hynny i ben. Ni yn awr yw’r rhai fydd yn plagio, yn pwyso ar, ac yn dal i gyfrif y rhai a ddaeth â ni i'r sefyllfa hon, a'r rhai a wnaeth yr addewidion a ddaeth â ni i’r sefyllfa hon: £350 miliwn bob wythnos i’r GIG; dim lleihau pwerau’r Cynulliad; cadw pob ceiniog i’r ffermwyr; arian cymorth rhanbarthol yn cael ei gyflenwi gan Lywodraeth ganolog. Ni fyddaf yn anghofio’r addewidion hynny. Nid wyf yn obeithiol iawn y byddant yn cael eu cadw, ond ni fyddaf yn eu hanghofio. A dim ond neithiwr, cafodd gwelliant Plaid Cymru, a oedd yn sicrhau bod ymgyrchwyr ‘gadael’ fel Boris Johnson a Michael Gove yn cadw eu haddewidion, ei drechu yn Nhŷ’r Cyffredin gan Boris Johnson, Michael Gove et al. I fod yn deg neu—[Torri ar draws.] Mewn eiliad; roeddwn yn gwneud rhywfaint o gynnydd. I fod yn deg, pleidleisiodd y rhan fwyaf o Aelodau Seneddol Cymru o blaid y gwelliant hwnnw, ond unwaith eto, cafodd anghenion Cymru eu hysgubo o'r neilltu gan elit gormesol San Steffan. Byddaf yn ildio i'r Aelod.