8. 6. ‘Diogelu Dyfodol Cymru’: Trefniadau Pontio o'r Undeb Ewropeaidd i Berthynas Newydd ag Ewrop

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:12 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 6:12, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

A fyddai'r Aelod yn cytuno y byddai'n haws efallai dod i gytundeb penodol pe byddem yn deall beth oedd bwriad Llywodraeth y DU o ran y farchnad sengl a mynediad parhaus i hynny? Er enghraifft, mae'n gwybod—gan ei fod newydd ysgrifennu at aelodau'r pwyllgor yr ydym ein dau yn gwasanaethu arno—bod George Eustice heddiw wedi dweud na fydd yn dod i gael ei holi yn y pwyllgor ddydd Iau, am yr hyn y mae’r farchnad sengl yn ei olygu.