8. 6. ‘Diogelu Dyfodol Cymru’: Trefniadau Pontio o'r Undeb Ewropeaidd i Berthynas Newydd ag Ewrop

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:12 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless UKIP 6:12, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod yn fawr iawn am ddod â mi at yr hyn oedd yn mynd i fod yn bwynt nesaf. Mae gen i bryder penodol ynghylch yr hyn a ddywedodd David Davis, sef, yng nghyd-destun datganoli, y bydd pwerau yn dod o'r UE, a bydd yn rhaid i ni benderfynu lle y byddant yn glanio’n fwyaf priodol—boed hynny yn San Steffan, Holyrood, neu ble bynnag. Nid yw hynny'n wir. Caiff y cyfyngiad ar ein hawl i ddeddfu mewn cyd-destun datganoledig ei godi pan fyddwn yn gadael yr UE, fel y mae’r Prif Weinidog yn glir ac yn briodol iawn wedi’i ddweud.

A byddem wedi hoffi holi’r Gweinidog DU hwnnw am yr hyn yr oedd hynny yn ei olygu, yn enwedig ym maes y pwyllgor yr wyf y yn ei gadeirio, lle mae llawer o'r meysydd hynny yn eithriadol o bwysig i Gymru. Mae’r cyfle hwnnw bellach wedi cael ei golli. Rwyf wedi’ch copïo chi, Lywydd, i mewn i’r nodyn hwnnw. Ac rwy’n credu ei fod o leiaf yn ymddangos fel diffyg parch at y Cynulliad a’n pwerau datganoledig. Rwy’n gobeithio na fydd hynny yn parhau i ddigwydd; rwy'n gobeithio y bydd arweinydd yr wrthblaid yn defnyddio'i ddylanwad da i helpu i sicrhau hynny. Ond, yn sicr, pan fydd y Prif Weinidog yn siarad yn glir ar hynny, bydd yn cael cefnogaeth ein plaid i wneud hynny.

Yn awr, os caf i ddirwyn i ben, mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi nodi dull gweithredu eithaf clir, yn fy marn i. Mae hi wedi dweud, os oes angen, y bydd yn rhoi blaenoriaeth ar gyfyngu rhyddid i symud uwchben y farchnad sengl. Rydym yn credu ei bod yn iawn i wneud hynny, credwn ei bod yn siarad ar ran pobl Cymru, yn ogystal â phobl y DU gyfan, ac rwy’n credu ei bod wedi ennill yr hawl i gael rhyddid a hyblygrwydd i drafod hynny unwaith y bydd erthygl 50, yr ydym yn ei gefnogi, wedi ei sbarduno.