Part of the debate – Senedd Cymru am 6:25 pm ar 7 Chwefror 2017.
Diolch, Lywydd. Gwn fod amser yn brin, ond a gaf i ddechrau drwy ddweud bod rhai mythau sydd angen eu chwalu yma? Yn gyntaf oll, nid yw hon yn ddadl ynghylch a ddylai canlyniad y refferendwm gael ei barchu. Mae'n mynd i ddigwydd. Dyna ni. Mae'r cwestiwn wedi ei setlo. Ond gadewch i ni beidio ag esgus bod pleidlais o fwyafrif llethol i adael yr UE. Roedd yn 52 y cant. Gadewch i ni beidio ag esgus mai'r unig reswm pam y pleidleisiodd pobl i adael oedd mewnfudo. Siaradodd yr un faint o bobl â mi am fewnfudo ag a siaradodd â mi am eisiau rhoi cic i David Cameron. Dyna oedd un o'r rhesymau a glywais ar garreg y drws.
Rwy’n cofio, ym 1997,cafodd y lle hwn ei sefydlu ar ganran tebyg o’r bleidlais. Roedd rhai yn y Blaid Geidwadol a oedd eisiau anwybyddu'r refferendwm ar y pryd. Dadleuodd John Redwood, pan gafodd ei holi am ganlyniad refferendwm yr Alban, sef 3: 1 o blaid, na ddylai datganoli ddigwydd yn yr Alban gan nad oedd y rhan fwyaf o'r etholwyr wedi pleidleisio o blaid. Gwelwn yn awr, wrth gwrs, y safonau dwbl sydd ganddo. Gan fy mod i wedi ymladd yn frwd yn erbyn unrhyw syniad bod canlyniad y refferendwm, bryd hynny, ni waeth pa mor gul yr oedd, yn cael ei anwybyddu, ni allaf ddadlau dros anwybyddu canlyniad y refferendwm y llynedd, er mor agos yr oedd.
Felly, mae’r mater hwnnw wedi ei ddatrys. Ond, mae awgrymu ei bod rhywsut yn bleidlais ar gyfer Brexit caled yn absenoldeb unrhyw gwestiwn penodol yr un fath ag awgrymu bod y bleidlais ym 1997 yn bleidlais dros annibyniaeth. Yn amlwg, roedd yn bleidlais am ffurf gyfyngedig, bryd hynny, o hunanlywodraeth. Y wers i'w chofio yw hyn, ac fe wnaeth Dai Lloyd gyfeirio at hyn: gwnaeth y rhai ohonom a oedd ar yr ochr fuddugol ym 1997 weithio i ennill pobl drosodd ar ôl hynny, a dyna pam mae mwy na 80 y cant o bobl Cymru yn cefnogi datganoli bellach. Wnaethom ni ddim eu sarhau. Doedden ni ddim yn awgrymu eu bod yn fradwyr. Wnaethom ni ddim dweud eu bod yn dwp. Buom yn gweithio gyda nhw. Ac mae honno’n wers i'r Brexiteers caled, nid y rhai yn y Siambr hon, ond rhai y tu allan sy'n credu mai'r ffordd orau i gael eu ffordd yw drwy sarhau.
O ran rhai o'r pwyntiau eraill a wnaethpwyd, mae'n hollol iawn y dylai fod gwaith tuag at fframwaith y DU ar gyfer rhai meysydd, megis amaethyddiaeth. Mae'n bosib iawn ei fod yn gwneud synnwyr. Iechyd anifeiliaid—mae'n gwneud synnwyr i gael polisi cyffredin ar draws Prydain Fawr. Ond y pwynt yw hyn: dylai’r fframweithiau hynny gael eu cytuno nid eu gorfodi gan un Llywodraeth dros y tair arall. Mae amaethyddiaeth wedi'i ddatganoli. Atalnod llawn. Diwedd y stori. Pleidleisiodd pobl yn 2011 dros hynny o 2: 1 mewn refferendwm. Nid oes gan Lywodraeth y DU unrhyw hawl i newid hynny. Pan ddaw’r pwerau hynny yn ôl o Frwsel, maent yn dod yma. Nid ydynt yn aros yn Llundain. Mae'n hynod bwysig bod y trafodaethau hynny am fframweithiau yn parhau ac mae hynny'n rhywbeth y byddem ni, wrth gwrs, eisiau ei weld yn digwydd.
A gaf i atgoffa'r rhai sy'n honni nad oedd model Norwy ar y bwrdd yn y refferendwm bod Arron Banks yn ei gefnogi, Daniel Hannan ei gefnogi a'r 'Daily Express' yn ei gefnogi? Felly, roedd model Norwy yn fawr iawn ar y bwrdd ar y pryd, a dyna pam yr es i yno. Mae'n fodel y gallwn edrych arno. Nid yw'n berffaith. Mae Norwy yn wlad ffyniannus—mae hanner olew y DU yn dod o Norwy—ac mae'n hapus i fod yn rhan o'r farchnad sengl er nad yw'n rhan o'r UE.
Clywais yr hyn oedd gan Neil Hamilton i'w ddweud. Mae'n rhoi llawer o ffydd mewn cytundeb masnach gyda Llywydd yr Unol Daleithiau, a etholwyd ar fandad gwarchodol, sydd wedi dweud bod pob gwlad yn y byd wedi manteisio ar yr Unol Daleithiau. Nid wyf yn rhannu ei optimistiaeth y bydd gennym fargen masnach rydd gydag America sydd yn unrhyw beth ond da i America. Dyna'r hyn y cafodd ei ethol i'w wneud. Ni allwn gwyno am hynny. Mae'n Llywydd gwarchodol. Felly, nid wyf yn rhannu ei optimistiaeth yn hynny o beth. Gwrandewais yn astud ar ei gynllun. Siaradodd am union 11 munud a 30 eiliad ac ni chlywais unrhyw beth. Rhaid i’r dyddiau hynny fynd. Mae'n rhaid i ni ddechrau clywed mwy gan y rhai sydd ar ochr galetach Brexit.
Gwrandewais yn ofalus ar Andrew R. T. Davies. Mae'n rhaid i mi ddweud wrth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ar ôl y refferendwm, yr oedd yn y cyfryngau yn awgrymu y dylai rhai meysydd gael eu rhoi yn ôl i San Steffan. Os cafodd ei gamddyfynnu, dylai fod wedi ymdrin â hynny yn y cyfryngau. Roedd yn dweud y dylai amaethyddiaeth a datblygu economaidd rhanbarthol fod yn gyfrifoldeb San Steffan. Nid dyna beth y pleidleisiodd pobl Cymru amdano. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.