Part of the debate – Senedd Cymru am 6:29 pm ar 7 Chwefror 2017.
Rwyf wedi parhau â’r ddadl a wneuthum ar ôl y refferendwm bod angen cael fframweithiau y DU ar amaethyddiaeth, cronfeydd strwythurol a chyllid prifysgolion oherwydd mai dyna'r ffordd orau o sicrhau llinellau cyllideb penodol allan o Drysorlys y DU—i wneud yn siŵr bod yr arian sydd ei angen arnom yn llifo i Gymru. Gofynnaf ichi gefnogi'r safbwynt hwnnw oherwydd pan fy mod wedi cyflwyno’r safbwynt hwnnw, rydych chi wedi ceisio ei ddilorni. Rwy’n synhwyro eich bod yn symud at y tir hwnnw yn awr, Brif Weinidog.