8. 6. ‘Diogelu Dyfodol Cymru’: Trefniadau Pontio o'r Undeb Ewropeaidd i Berthynas Newydd ag Ewrop

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:30 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 6:30, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Mae wedi dweud bod yna 730 diwrnod i ymdrin â Brexit—mae’n llai na hynny, oherwydd mewn gwirionedd, fydd dim yn digwydd cyn mis Medi, unwaith y bydd etholiadau Ffrainc a’r Almaen allan o'r ffordd, felly, mewn gwirionedd, mae’r amserlen yn cael ei gwasgu ychydig yn fwy.

Gwrandewais ar yr hyn oedd gan David Rowlands i'w ddweud. A gaf i ddweud wrtho nad gweiddi ar dramorwyr yw'r ffordd orau ymlaen? Os ydych yn dweud wrth yr UE, ‘Mae ein hangen ni arnoch chi yn fwy nag y mae eich angen chi arnom ni', byddant yn dweud wrthych ble i roi’r farn honno, yn yr un modd â phe byddai’r UE yn dweud hynny wrth y DU—byddai ef yn dweud yn union yr un peth, pe cai ei ddweud am y Deyrnas Unedig. Mae'n rhaid iddo gofio bod y DU wedi ymuno â'r UE, neu'r farchnad gyffredin ar y pryd, oherwydd ei bod yn awyddus iawn i ymuno, gan fod economi'r DU yn llanast. Ac, yn ei eiriau ef, roedd y celwyddau a aeth â ni i mewn yn fwy na'r celwyddau a aeth â ni allan. [Chwerthin.] Mae hynny’n fater iddo ef ei esbonio.

Y pwynt arall y mae’n rhaid i mi ddweud wrtho amdano yw hyn. Ydy, wrth gwrs, mewn termau ariannol, mae'r UE yn allforio mwy i'r DU nag y mae’r DU yn allforio i’r UE; byddai'n rhyfedd pe na fyddai, oherwydd bod yr UE bron 10 gwaith maint y DU. Ond, fel canran, mae 67 y cant o allforion Cymru yn mynd i'r UE, 7 y cant o allforion yr UE yn mynd i'r DU. A dweud y gwir, o ran canran, rydym yn llawer mwy dibynnol ar y farchnad Ewropeaidd nag y mae’r farchnad Ewropeaidd arnom ni. Rwy’n erfyn arno i feddwl yn ofalus am hon fel cytundeb synhwyrol rhwng rhai cydradd ac nid ceisio dweud eu bod nhw fwy o’n hangen ni nag yr ydym ni eu hangen nhw. Nid yw hynny yn wir. Mae angen ein gilydd arnom ni yn Ewrop i wneud yn siŵr ein bod i gyd yn ffynnu.