Part of the debate – Senedd Cymru am 6:31 pm ar 7 Chwefror 2017.
Rwy’n cytuno â'r hyn y mae'r Prif Weinidog wedi'i ddweud. Ond y pwynt yma, siawns, yw bod masnach yn cyfoethogi'r ddau barti ac, ar hyn o bryd, mae cydbwysedd y fasnach â'r UE ac ag aelodau unigol o'r UE yn fawr iawn o'u plaid nhw. Felly, y cyfan y mae hynny yn ei wneud yw dangos ei bod er eu lles nhw eu bod yn dod i gytundeb masnach rydd gyda ni i barhau â’r trefniadau sydd gennym yn barod. Nid yw'n gwestiwn ohonom ni yn eu gorchymyn nhw i wneud rhywbeth, neu’n mynnu rhywbeth; mae er eu lles nhw yn gymaint â’n lles ni.